Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 1673 (Cy.158)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009

Gwnaed

1 Gorffennaf 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Gorffennaf 2009

Yn dod i rym

3 Awst 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009. Daw i rym ar 3 Awst 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “Credyd Treth Gwaith” yr un ystyr â “Working Tax Credit” yn Neddf 2002; ac

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Credydau Treth 2002(2).

Credyd treth rhagnodedig

2.  Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i ragnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf Addysg 1996 o dan amgylchiadau pan fo rhiant sydd â hawl i'w gael yn cael ei drin fel un sy'n gwneud gwaith cymwys sy'n talu (o fewn ystyr Deddf 2002) yn rhinwedd rheoliad 7D o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002(3).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, Gredyd Treth Gwaith pan fo gan riant hawl i gael y Credyd hwnnw o dan yr amgylchiadau a ddiffinnir yn rheoliad 7D o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002.

Effaith y Gorchymyn, pan fo gan riant hawl i gael Credyd Treth Gwaith yn ystod y cyfnod o bedair wythnos yn union ar ôl i'w waith cyflogedig beidio, neu ar ôl i'r rhiant ddechrau gweithio am lai na 16 o oriau yr wythnos, yw bod gan ei blentyn hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 512ZB (gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 512 o Ddeddf 1996) ac adran 568 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) yn ôl eu trefn. Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 2002/2005 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) (Diwygio) 2007/968.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources