- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 23(1)
1. Cynhelir cyfarfod cyntaf yr Ymddiriedolaeth ar y cyfryw ddiwrnod ac yn y cyfryw fan ag y caiff y cadeirydd ei bennu a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.
2.—(1) Caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth ar unrhyw adeg.
(2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod ar ôl i gais i'r perwyl hwnnw, a lofnodwyd gan draean o leiaf o nifer cyfan yr aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith niwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, ac yntau heb fod wedi gwrthod felly, rhaid i'r cyfryw draean neu fwy o aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi.
(3) Cyn pob cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drafod ynddo, ac wedi ei lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog i'r Ymddiriedolaeth a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran, gael ei ddanfon i bob cyfarwyddwr neu ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol y cyfryw gyfarwyddwr, fel ei fod ar gael i bob cyfarwyddwr ddeng niwrnod o leiaf cyn y cyfarfod.
(4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw gyfarwyddwr yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.
(5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan gyfarwyddwyr yn niffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan y cyfarwyddwyr hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod yn y cyfarfod ac eithrio'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.
3.—(1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Ymddiriedolaeth, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(2) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd (os o gwbl) yn absennol, bydd y cyfryw gyfarwyddwr anweithredol ag y byddo'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol yn ei ddewis yn llywyddu.
(3) Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau'n gyfartal, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a fydd yn bleidlais fwrw.
(4) Rhaid cofnodi enwau'r cyfarwyddwyr sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(5) Ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth onid oes traean o nifer cyfan y cyfarwyddwyr yn bresennol gan gynnwys, ar neu ar ôl y dyddiad gweithredol, un cyfarwyddwr gweithredol a dau gyfarwyddwr anweithredol o leiaf.
(6) Rhaid llunio cofnodion trafodion cyfarfod a'u cyflwyno er mwyn cael cytundeb arnynt yn y cyfarfod nesaf sy'n dilyn, lle y cânt eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu ynddo.
4. Os yw swydd cyfarwyddwr gweithredol yn cael ei rhannu rhwng mwy nag un person yn unol â rheoliad 7—
(a)bydd gan y ddau berson yr hawl i fynychu cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth;
(b)bydd y naill neu'r llall o'r personau hynny'n gymwys i bleidleisio os byddant yn cytuno â'i gilydd;
(c)os byddant yn anghytuno â'i gilydd ni fydd pleidlais yn cael ei bwrw;
(ch)caiff presenoldeb y naill berson neu'r llall neu'r naill berson a'r llall gyfrif fel un person at ddiben paragraff 3(5) o'r Atodlen hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: