Search Legislation

Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 a deuant i rym ar 1 Awst 2009.

(2Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—

    (a)

    Awdurdod Iechyd Strategol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig GIG, Bwrdd Iechyd Lleol neu gorff Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus (GIC) fel y'i diffinnir yn adran 139(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) ac adran 97(6) o'r Ddeddf, neu gontractwr sy'n cael ei drin fel corff gwasanaeth iechyd yn unol â rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Lleol etc) 2006(2);

    (b)

    Bwrdd Iechyd, Bwrdd Iechyd Arbennig neu'r Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Gwasanaeth Iechyd yr Alban, a gyfansoddwyd yn y drefn hon o dan adrannau 2, 10 a 12A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3);

    (c)

    Bwrdd Ymarfer Deintyddol yr Alban a gyfansoddwyd gan Reoliadau sy'n cael effaith o dan adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978

    (ch)

    Rheoleiddiwr Annibynnol Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG;

  • mae “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys ei chadeirydd;

  • mae i “cyfarwyddwr gweithredol” yr ystyr a roddir i “executive director” ac i “cyfarwyddwr anweithredol” yr ystyr a roddir i “non-executive director” ym mharagraff 3(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

  • ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Awst 2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “penodai” (“appointee”) yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi;

  • ystyr “y pwyllgor perthnasol” (“the relevant committee”) yw pwyllgor ymddiriedolaeth GIG a benodwyd o dan naill ai rheoliad 21 neu reoliad 22 pa un bynnag yw'r un priodol;

  • ystyr “Rheoleiddiwr Annibynnol Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG” (“Independent Regulator of NHS Foundation Trusts”) yw'r corff corfforaethol y mae adran 31(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn parhau ei fodolaeth;

  • ystyr “Rheoliadau 1990 (“the 1990 Regulations”) yw Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Aelodaeth a Gweithdrefn) 1990(4);

  • mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth (Cydgrynhoi) 1992(5);

  • ystyr “yr Ymddiriedolaeth” (“the Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009(6).

(3Yn rheoliad 24—

  • mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys—

    (a)

    unrhyw gorff a sefydlwyd at ddibenion ymgymryd, o dan berchenogaeth genedlaethol, ag unrhyw ddiwydiant neu ran o unrhyw ddiwydiant neu ymgymeriad; a

    (b)

    corff llywodraethu unrhyw brifysgol, coleg prifysgol neu goleg, ysgol neu neuadd prifysgol;

  • ystyr “cyfranddaliadau” (“shares”) yw cyfranddaliadau yng nghyfalaf cyfranddaliadau cwmni neu gorff arall neu yn stoc cwmni neu gorff arall;

  • ystyr “gwarannau” (“securities”) yw—

    (a)

    cyfranddaliadau neu ddyledebau, p'un ai arwystl ar asedau'r cwmni neu gorff arall ydynt ai peidio, neu hawliau neu fuddiannau mewn unrhyw gyfranddaliadau neu mewn unrhyw ddyledebau o'r fath, neu

    (b)

    hawliau (boed gwir neu amodol) mewn cysylltiad ag arian a roddwyd ar fenthyg i neu a adneuwyd mewn unrhyw gymdeithas ddiwydiannol a darbodus neu gymdeithas adeiladu.

(4Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

RHAN IIAelodaeth

Mwyafswm nifer y cyfarwyddwyr

2.—(1Mwyafswm nifer cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth fydd 11 heb gynnwys y cadeirydd.

(2Ni chaniateir i'r Ymddiriedolaeth gael mwy na 6 chyfarwyddwyr anweithredol (heb gynnwys y cadeirydd), a dim mwy na 5 cyfarwyddwyr gweithredol.

Penodi cyfarwyddwyr

3.—(1Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaethau Atodlen 1.

(2Bydd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu penodi gan y pwyllgor perthnasol.

Cyfarwyddwyr Gweithredol

4.  Cyfarwyddwyr gweithredol yr Ymddiriedolaeth fydd—

(a)y prif swyddog;

(b)y prif swyddog cyllid;

(c)tri chyfarwyddwr arall a benodir gan yr Ymddiriedolaeth.

Cyfarwyddwyr Anweithredol

5.—(1Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys—

(a)person a enwebir gan prifysgol yng Nghymru a chanddi arbenigedd addysgu neu ymchwilio ym maes iechyd cyhoeddus;

(b)person a enwebir gan awdurdod lleol neu awdurdodau lleol yng Nghymru;

(c)person sy'n un o gyflogeion neu'n un o aelodau corff sector gwirfoddol yng Nghymru;

(ch)person sy'n swyddog undeb llafur neu gorff arall sy'n cynrychioli cyflogeion ac sy'n cynrychioli staff yr Ymddiriedolaeth.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar yr awdurdod lleol neu'r awdurdodau lleol sy'n enwebu at ddibenion rheoliad 5(1)(b).

Personau i'w hystyried yn gyfarwyddwyr gweithredol

6.—(1Mae person nad yw'n un o gyflogeion yr Ymddiriedolaeth—

(a)ond sy'n ddeiliad swydd mewn prifysgol a chanddi ysgol feddygol neu ddeintyddol, ac sydd hefyd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth; neu

(b)ond sydd ar secondiad gan ei gyflogwyr er mwyn iddo weithio i'r Ymddiriedolaeth;

er gwaethaf hynny, i'w ystyried, ar ei benodiad yn gyfarwyddwr, yn gyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(c) yn hytrach nag yn gyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o reoliad 5(1).

Cyfarwyddwyr ar y cyd

7.  Os caiff mwy nag un person eu penodi ar y cyd i swydd yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gwneud y deiliad yn gymwys i fod yn gyfarwyddwr gweithredol neu y mae cyfarwyddwr gweithredol i'w benodi mewn perthynas â hi, bydd y personau hynny'n dod neu'n cael eu penodi yn gyfarwyddwr gweithredol ar y cyd, ac fe'u cyfrifir fel un person at ddibenion rheoliad 2.

Deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr

8.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10, penodir cadeirydd yr Ymddiriedolaeth a chyfarwyddwyr anweithredol iddi am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na phedair blynedd, ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth iddynt wneud y penodiad.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd deiliadaeth swydd cyfarwyddwyr gweithredol, ac eithrio'r prif swyddog a'r prif swyddog cyllid, yn para am y cyfryw gyfnod ag y byddo'r pwyllgor perthnasol yn ei bennu wrth iddo wneud y penodiad.

Deiliadaeth swydd ac atal deiliadaeth swydd cyfarwyddwyr gweithredol

9.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 8(2), bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn ddeiliad swydd—

(a)os nad y cyfarwyddwr hwnnw yw'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad swydd yn yr Ymddiriedolaeth;

(b)os y prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yw'r cyfarwyddwr hwnnw, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad y swydd honno yn yr Ymddiriedolaeth.

(2Os bydd y pwyllgor perthnasol o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth ac eithrio'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yn parhau i fod yn ddeiliad swydd cyfarwyddwr bydd y pwyllgor perthnasol yn terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith.

(3Os bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o'i swydd yn yr Ymddiriedolaeth bydd y cyfarwyddwr hwnnw'n cael ei atal rhag cyflawni ei swyddogaethau cyfarwyddwr am y cyfnod y bydd wedi ei atal.

(4Caiff cyfarwyddwr gweithredol ac eithrio prif swyddog neu brif swyddog cyllid yr Ymddiriedolaeth ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y cafodd ei benodi i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r pwyllgor perthnasol.

Terfynu deiliadaeth swydd cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol

10.—(1Caiff cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2Os bydd cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth, yn ystod y cyfnod y bydd yn gyfarwyddwr, yn cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, bydd ei ddeiliadaeth o swydd cyfarwyddwr anweithredol yn dod i ben pan fydd ei benodiad i swydd cadeirydd yn dod yn effeithiol.

(3Os bydd Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r gwasanaeth iechyd i berson a gafodd ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi barhau i fod yn ddeiliad y swydd honno, caiff Gweinidogion Cymru derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.

(4Os nad yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi mynychu cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth am gyfnod o chwe mis bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr anweithredol yn gallu mynychu cyfarfodydd o'r Ymddiriedolaeth o fewn y cyfryw gyfnod ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn rhesymol.

(5Os cafodd person ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi—

(a)os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15 bydd Gweinidogion Cymru'n ysgrifennu ato ar unwaith i'w hysbysu ei fod wedi ei ddatgymhwyso; neu

(b)os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod y person wedi'i ddatgymhwyso felly pan gafodd ei benodi, byddant yn datgan ar eu hunion na chafodd y person ei benodi'n briodol ac yn ysgrifennu at y person hwnnw i'w hysbysu o hynny,

a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn cael ei therfynu a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel cadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol.

(6Rhaid i berson a benodir yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi hysbysu'r Ymddiriedolaeth ar unwaith os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15.

(7Os ymddengys i Weinidogion Cymru fod cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 24 (datgelu etc o ran buddiant ariannol) cânt derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.

(8Os bydd unrhyw un o'r cyfarwyddwyr anweithredol y cyfeirir yn y drefn isod atynt—

(a)ym mharagraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff gwirfoddol yng Nghymru;

(b)ym mharagraff (ch) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn swyddog i'r undeb llafur neu'r corff sy'n cynrychioli cyflogeion

bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.

Atal cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol o'u swyddi

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru atal penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr tra bydd Gweinidogion Cymru'n ystyried—

(a)p'un ai i symud y person o'r swydd o dan reoliad 10(3) neu (7); neu

(b)p'un a yw'r person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi o dan reoliad 15, neu p'un a oedd wedi ei ddatgymhwyso felly ar yr adeg y'i penodwyd.

(2Bydd Gweinidogion Cymru'n hysbysu person a gafodd ei atal o dan baragraff (1) o'r penderfyniad i'w atal, a bydd y penderfyniad yn dod yn effeithiol pan ddaw'r cyfryw hysbysiad i law.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), ni fydd cyfnod atal o swydd o dan baragraff (1) yn fwy na chwe mis.

(4Caiff Gweinidogion Cymru adolygu ataliad ar unrhyw adeg a byddant yn adolygu ataliad ar ôl tri mis os gofynnir iddynt wneud hynny gan y sawl a gafodd ei atal.

(5Pan fyddant yn adolygu ataliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dirymu'r ataliad, ac yn y cyfryw achos bydd yr ataliad yn peidio â bod yn effeithiol; neu

(b)atal y penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr am gyfnod o ddim mwy na chwe mis o'r dyddiad y daw'r cyfnod atal presennol i ben.

Atal: effaith ar fwyafswm nifer y cyfarwyddwyr ac ar gyfarfodydd

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff penodai ei atal o dan reoliad 11.

(2Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)ystyr cyfeiriadau ym mharagraffau 2(2) a 3(5) o Atodlen 2 at nifer cyfan y cyfarwyddwyr yw nifer cyfan y cyfarwyddwyr heb gynnwys unrhyw gyfarwyddwyr sydd wedi eu hatal o dan reoliad 11;

(b)ystyr cyfeiriadau ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2 at gyfarwyddwr yw cyfeiriadau at gyfarwyddwr ac eithrio cyfarwyddwr sydd wedi ei atal o dan reoliad 11.

Atal cadeirydd: penodi is-gadeirydd

13.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o dan reoliad 11.

(2Os bydd is-gadeirydd wedi ei benodi o dan reoliad 18 (penodi is-gadeirydd), bydd y penodiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol o'r adeg y caiff y cadeirydd ei atal.

(3At ddiben galluogi trafodion yr Ymddiriedolaeth i gael eu cynnal yn absenoldeb y cadeirydd, caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth i fod yn is-gadeirydd.

(4Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na'r byrraf o'r canlynol—

(a)cyfnod atal y cadeirydd; a

(b)gweddill tymor y cyfarwyddwr anweithredol yn gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth,

ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth wneud y penodiad.

(5Pan fo'r cyfnod y mae person wedi ei benodi i'w weithio yn swydd is-gadeirydd yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi'r person, neu benodi cyfarwyddwr anweithredol arall, yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).

(6Caiff unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (3) ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (3) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr anweithredol arall i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei wneud yn is-gadeirydd.

(8Os—

(a)bydd person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6); neu

(b)bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (7),

caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol arall yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).

Cymhwystra ar gyfer ailbenodi

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 3 a rheoliad 16 bydd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.

(2Bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(3) ac y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.

(3Ni chaiff person ddal swydd cyfarwyddwr anweithredol am gyfanswm cyfnod o fwy nag wyth mlynedd.

Datgymhwyso rhag penodi cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol

15.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 16 datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi—

(a)os yw'r person hwnnw o fewn y pum mlynedd flaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a bod dedfryd o garchar (p'un ai wedi ei gohirio ai peidio) wedi ei phasio arno am gyfnod o ddim llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy; neu

(b)os yw'r person hwnnw'n ddarostyngedig i orchymyn cyfyngiadau methdalu neu orchymyn cyfyngiadau methdalu dros dro neu os bydd wedi gwneud compownd neu drefniant gyda chredydwyr; neu

(c)os cafodd y person hwnnw ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd colli swyddi, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

(ch)os yw'r person hwnnw'n berson y mae ei ddeiliadaeth swydd fel cadeirydd corff gwasanaeth iechyd, neu fel aelod ohono, neu fel cyfarwyddwr neu lywodraethwr iddo wedi ei therfynu oherwydd nad yw ei benodiad yn llesol i fuddiannau'r gwasanaeth Iechyd neu'r corff gwasanaeth iechyd dan sylw, am beidio â mynychu cyfarfodydd neu am beidio â datgelu buddiant ariannol; neu

(d)os yw'r person hwnnw'n gadeirydd corff gwasanaeth iechyd ac eithrio ymddiriedolaeth sefydledig GIG, neu'n aelod ohono, neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddo; neu

(dd)os yw'r person hwnnw'n gadeirydd ymddiriedolaeth sefydledig GIG neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddi; neu

(e)os y person hwnnw yw cadeirydd Rheolydd Annibynnol Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG neu os yw'n aelod arall ohono.

(2At ddibenion paragraff (1)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y mae'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad y rhoddir y gorau iddi neu iddo, neu'r dyddiad y metha'r apêl neu'r cais oherwydd na chaiff ei herlyn neu ei erlyn.

(3At ddibenion paragraff (1)(c), ni chaiff person ei drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth am dâl dim ond oherwydd ei fod yn gadeirydd, yn aelod neu'n gyfarwyddwr neu, yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, oherwydd ei fod yn gadeirydd y corff gwasanaeth iechyd dan sylw, neu'n llywodraethwr neu gyfarwyddwr anweithredol iddo.

(4Ni fydd person yn cael ei ddatgymhwyso gan baragraff (1)(d) rhag bod yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol yn rhinwedd bod yn gadeirydd ymddiriedolaeth GIG arall neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi.

Diwedd datgymhwysiad

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw person yn cael ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(c) (cyflogeion a ddiswyddir) caiff y person hwnnw, ar ôl i gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r datgymhwysiad a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd y datgymhwysiad yn dod i ben.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwrthod cais i ddileu datgymhwysiad ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd oni fydd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl ddyddiad y cais wedi dod i ben.

(3Os caiff person ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(ch) (cadeiryddion a chyfarwyddwyr penodol y mae eu penodiadau wedi eu terfynu), bydd y datgymhwysiad yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd neu'r cyfryw gyfnod hwy ag y bydd Gweinidogion Cymru'n ei bennu pan fyddant yn terfynu ei gyfnod yn y swydd, ond caiff Gweinidogion Cymru, o fod cais yn cael ei wneud iddynt gan y person hwnnw, gwtogi'r cyfnod o ddatgymhwysiad.

RHAN IIICyfansoddiad a Thrafodion

Penodi is-gadeirydd

17.—(1At ddiben galluogi trafodion yr Ymddiriedolaeth i gael eu cynnal yn absenoldeb y cadeirydd, caiff cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth benodi cyfarwyddwr anweithredol o'u plith i fod yn is-gadeirydd am y cyfryw gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei dymor fel cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth, ag y cânt ei bennu wrth ei benodi.

(2Caiff unrhyw gyfarwyddwr anweithredol a benodir felly ymddiswyddo ar unrhyw adeg o swydd is-gadeirydd drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i gadeirydd yr Ymddiriedolaeth a, phan ddigwydd hynny, caiff cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth benodi cyfarwyddwr anweithredol arall yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (1).

(3Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 13 yn gymwys.

Pwerau is-gadeirydd

18.  Os yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth wedi marw neu os nad yw mwyach yn ddeiliad y swydd am ryw reswm arall neu os nad yw wedi gallu cyflawni ei ddyletswyddau cadeirydd oherwydd salwch, oherwydd ei fod yn absennol o Gymru a Lloegr, oherwydd ei atal o dan reoliad 11 neu am unrhyw achos arall, bernir bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 2 yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd, tra nad oes cadeirydd neu tra na fydd y cadeirydd yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau

19.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 21 a 22 caiff yr Ymddiriedolaeth benodi pwyllgorau i'r Ymddiriedolaeth sydd wedi eu cyfansoddi'n gyfan gwbl neu'n rhannol o gyfarwyddwyr neu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o bersonau nad ydynt yn gyfarwyddwyr.

(2Caiff pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn benodi is-bwyllgorau sydd wedi eu cyfansoddi'n gyfan gwbl neu'n rhannol o aelodau o'r pwyllgor (p'un a ydynt yn cynnwys cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth ai peidio) neu'n gyfan gwbl o bersonau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor (p'un a ydynt yn cynnwys cyfarwyddwyr i'r ymddiriedolaeth ai peidio).

Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau

20.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 21 a 22 caiff yr Ymddiriedolaeth wneud trefniadau ar gyfer arfer, ar ran yr Ymddiriedolaeth, unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau gan bwyllgor neu is-bwyllgor a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 19 yn ddarostyngedig i'r cyfryw gyfyngiadau ac amodau ag y gwêl yr Ymddiriedolaeth yn dda eu gosod.

Pwyllgor ar gyfer penodi prif swyddog yn gyfarwyddwr

21.  Bydd yr Ymddiriedolaeth yn penodi pwyllgor y bydd cadeirydd yr ymddiriedolaeth a chyfarwyddwyr anweithredol i'r ymddiriedolaeth yr aelodau ohono, a phenodi'r prif swyddog yn gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth fydd ei swyddogaeth.

Pwyllgor ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio'r prif swyddog

22.  Bydd yr Ymddiriedolaeth yn penodi pwyllgor y bydd y cadeirydd, y cyfarwyddwyr anweithredol a'r prif swyddog yr aelodau ohono, a phenodi'r cyfarwyddwyr gweithredol ac eithrio'r prif swyddog fydd ei swyddogaeth.

Cyfarfodydd a Thrafodion

23.—(1Rhaid cynnal cyfarfodydd a thrafodion yr Ymddiriedolaeth yn unol â'r rheolau a nodir yn Atodlen 2 ac â rheolau sefydlog a wnaed o dan baragraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i Atodlen 2 ac i reoliad 24 rhaid i'r Ymddiriedolaeth wneud rheolau sefydlog, y caiff eu hamrywio neu eu dirymu, ar gyfer rheoleiddio ei thrafodion a'i busnes a chaniateir gwneud darpariaeth yn y cyfryw reolau sefydlog ar gyfer eu hatal.

(3Caiff yr Ymddiriedolaeth wneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog sy'n ymwneud â chworwm, trafodion a man cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor ond, yn ddarostyngedig i reoliad 24 ac i unrhyw reolau sefydlog o'r fath, y cyfryw ag y byddo'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor yn penderfynu arnynt fydd y cworwm, y trafodion a'r man cyfarfod.

(4Ni fydd trafodion yr Ymddiriedolaeth yn annilys oherwydd bod unrhyw swydd aelod yn wag neu oherwydd unrhyw ddiffyg ym mhenodiad cyfarwyddwr.

Anallu cyfarwyddwyr i gyfrannu at drafodion oherwydd buddiant ariannol

24.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, os oes gan gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth unrhyw fuddiant ariannol, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a'i fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth pan roddir ystyriaeth i'r contract neu fater arall, rhaid i'r cyfarwyddwr hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod ac mor fuan â phosibl ar ôl i'r cyfarfod ddechrau, a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn yr ystyriaeth a roddir i'r contract neu'r mater arall a'r drafodaeth arno, neu bleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y byddo Gweinidogion Cymru'n gweld yn dda eu gosod, ddileu unrhyw anallu a osodir gan y rheoliad hwn, mewn unrhyw achos lle y mae'n ymddangos iddynt hwy y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i'r anallu gael ei ddileu.

(3Caiff yr Ymddiriedolaeth, drwy gyfrwng rheolau sefydlog a wnaed o dan reoliad 23, ddarparu ar gyfer gwahardd cyfarwyddwr rhag bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r ymddiriedolaeth tra bydd unrhyw gontract, contract arfaethedig, neu fater arall y mae gan y cyfarwyddwr fuddiant ariannol ynddo, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.

(4Ni chaniateir trin unrhyw gydnabyddiaeth, iawndal nei lwfansau sy'n daladwy i gyfarwyddwr yn rhinwedd paragraff 11 o Atodlen 3 i'r Ddeddf fel buddiant ariannol at ddiben y rheoliad hwn.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), rhaid i gyfarwyddwr gael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel pe bai ganddo'n anuniongyrchol fuddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall—

(a)os bod y cyfarwyddwr hwnnw, neu'r sawl a enwebir ganddo, yn gyfarwyddwr cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud contract gydag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried; neu

(b)os bod y cyfarwyddwr hwnnw'n bartner i, neu'n cael ei gyflogi gan, berson y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried ac os bernir, yn achos personau priod neu bartneriaid sifil, fod buddiant un o'r pâr priod neu un o'r ddau bartner sifil at ddiben y rheoliad hwn hefyd yn fuddiant i'r llall.

(6Ni fydd cyfarwyddwr yn cael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall dim ond —

(a)oherwydd bod y cyfarwyddwr hwnnw'n aelod o gwmni neu gorff arall os nad oes ganddo fuddiant llesiannol mewn unrhyw warannau sy'n perthyn i'r cwmni hwnnw neu i gorff arall;

(b)o achos buddiant mewn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'n gysylltiedig ag ef fel a grybwyllir ym mharagraff (5) sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol ystyried ei fod yn debygol o ddylanwadu ar gyfarwyddwr wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â'r contract neu'r mater hwnnw neu wrth iddo bleidleisio arno.

(7Os digwydd y canlynol—

(a)bod gan gyfarwyddwr fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract neu fater arall dim ond oherwydd bod ganddo fuddiant llesiannol yng ngwarannau cwmni neu gorff arall; a

(b)nad yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm gwerth enwol cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf; ac

(c)bod y cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, a bod cyfanswm gwerth enwol cyfranddaliadau unrhyw un dosbarth y mae ganddo fuddiant llesiannol ynddo heb fod yn fwy na chanfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

ni fydd y rheoliad hwn yn gwahardd y cyfarwyddwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn ystyriaeth o'r contract neu fater arall neu drafodaeth arno neu rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef heb ragfarnu fodd bynnag ei ddyletswydd i ddatgelu ei fuddiant.

(8Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor i'r Ymddiriedolaeth fel y mae'n gymwys i'r Ymddiriedolaeth ac mae'n gymwys i unrhyw aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn gyfarwyddwr i'r ymddiriedolaeth ai peidio) fel y mae'n gymwys i gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth.

Darpariaeth drosiannol

25.  Rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol mae paragraff 3(5) o Atodlen 2 yn gymwys fel pe bai'n darllen—

  • Ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth onid yw'r Cadeirydd yn bresennol ynghyd ag un cyfarwyddwr anweithredol neu onid oes dau gyfarwyddwr anweithredol yn bresennol.

Diwygiadau canlyniadol

26.—(1Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau 1990 mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y man priodol—

“the Public Health Wales National Health Service Trust” means the NHS Trust established by the Public Health Wales National Health Service Trust (Establishment) Order 2009.

(2Mewnosoder rheoliad ychwanegol yn Rheoliadau 1990 yn syth ar ôl rheoliad 1 o'r Rheoliadau hynny—

The Public Health Wales National Health Service Trust

1A  These Regulations do not apply to the Public Health Wales National Health Service Trust.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Mehefin 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources