RHAN 5Dulliau rheoli ardal
Cyhoeddusrwydd28
1
Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i'r canlynol—
a
maint unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn;
b
natur y cyfyngiadau a'r gofynion ynghylch y parth;
c
dyddiadau datgan a therfynu'r parth hwnnw.
2
Rhaid i'r awdurdod lleol godi, pan fo angen, arwyddion lle mae ffordd yn mynd i mewn i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yn dangos bodolaeth y parth.