- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2009.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) ac “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw personau a benodwyd fel y cyfryw o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas mochyn neu ran o garcas mochyn;
ystyr “da byw” (“livestock”) yw anifeiliaid carnog ac eithrio ceffylau;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan;
ystyr “mangre heintiedig” a “mangre wedi ei heintio” (“infected premises”) yw unrhyw fangre sydd wedi'i datgan fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3;
ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae.
3.—(1) Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i feddiannydd mangre gael ei gyflwyno i berson y mae'n ymddangos i'r un sy'n cyflwyno'r hysbysiad fod y person hwnnw'n gyfrifol o ddydd i ddydd am y fangre neu am unrhyw foch sydd ar y fangre (gweler rheoliad 32 ar gyfer darpariaeth bellach ynglŷn â hysbysiadau).
(2) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i berson y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at feddiannydd y fangre honno'n gyfeiriad at y person hwnnw.
4.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol—
(a)unrhyw beth a wneir o dan delerau trwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008(2), neu
(b)unrhyw safle arolygu ar y ffin, canolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd at ddibenion Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(3).
(2) Nid yw Rhannau 3 a 4 yn gymwys yn ystod unrhyw gyfnod y mae camau'n cael eu cymryd o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: