- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo'n ofynnol ar ymgymerydd i gyflwyno hysbysiad i awdurdod priffyrdd yn unol â rheoliad 5, rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwnnw drwy—
(a)ei anfon i'r awdurdod priffyrdd yn ei gyfeiriad priodol drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4);
(b)ei ddanfon i'r awdurdod hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu
(c)unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng yr ymgymerydd a'r awdurdod.
(2) Pan nad oes gan awdurdod priffyrdd y mae ymgymerydd dan rwymedigaeth i gyflwyno hysbysiad o'r fath iddynt drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau yn ystod unrhyw gyfnod rhwng 4.30 pm ac 8.00 am ar y diwrnod dilynol, bydd yr ymgymerydd wedi cydymffurfio â'r rhwymedigaeth honno os bydd hysbysiad wedi ei gyflwyno erbyn 10.00 y bore ar y diwrnod dilynol hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol ar berson i gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid cyflwyno hysbysiad o'r fath drwy—
(a)ei anfon at y person y mae i gael ei gyflwyno iddo yng nghyfeiriad priodol y person drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a nodir ym mharagraff (4);
(b)ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw;
(c)ei ddanfon i'r person hwnnw;
(ch)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person hwnnw; neu
(d)unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng y person sy'n ei gyflwyno a'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo.
(4) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraffau (1)(a) a (3)(a) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad—
(a)gallu cael ei dderbyn gan y person y'i hanfonir ato;
(b)bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)bod ar ffurf sy'n caniatáu i'r hysbysiad gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato wedi hynny,
ac at y diben hwn, ystyr “bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad ar gael i'r person i raddau dim llai nag y buasai pe bai'n cael ei chyflwyno drwy hysbysiad ar ffurf brintiedig.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Medi 2009 ymlaen a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid i bob hysbysiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod priffyrdd neu ymgymerydd statudol gael ei gyfnewid rhwng un awdurdod priffyrdd ac un arall, rhwng un ymgymerydd statudol ac un arall, a rhwng awdurdod priffyrdd ac ymgymerydd statudol, drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4).
(6) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, ystyrir bod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel diwrnod ac amser cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.
(7) Pan nad oes modd cyflawni cyflwyniad, ar ôl tri ymgais (sydd wedi eu cofnodi'n briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud hynny drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, gellir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad priodol ar ei gyfer, neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (3).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei gyflwyno iddo fydd—
(a)pan fo'r cyfryw berson—
(i)wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a
(ii)heb hysbysu'r ail berson fod y cyfeiriad wedi ei dynnu'n ôl at y diben hwnnw,
y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull trosglwyddo hwnnw;
(b)pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i berson sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â gwasanaeth post;
(c)pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull arall hwnnw; ac
(ch)fel arall—
(i)yn achos corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol hwnnw; a
(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.
(9) Caiff person ddarparu gwahanol gyfeiriadau ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthau o hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: