Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth a Ymestynnir yn Afresymol ar y Briffordd) (Cymru) 2009. Deuant i rym ar 1 Mehefin 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adeg sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), o ran stryd sydd yn sensitif i draffig, yw—
- a
yr amseroedd neu'r dyddiadau sydd wedi eu pennu yn achos dynodiad cyfyngedig; a
- b
unrhyw adeg mewn unrhyw achos arall;
- a
ystyr “Awdurdod Trwyddedau” (“Permit Authority”) yw—
- a
awdurdod priffyrdd lleol y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu
- b
Gweinidogion Cymru, fel awdurdod priffyrdd, y gwnaed gorchymyn mewn perthynas â hwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf honno,
sydd yn gweithredu cynllun trwyddedau;
- a
ystyr “categori ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau ffordd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o'r cod ymarfer sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd”, sy'n ddyddiedig Tachwedd 20063 ac a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 7 Tachwedd 2006, fel y mae wedi ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 20004;
ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;
ystyr “cyfnod rhagnodedig” (“prescribed period”) yw'r cyfnod a ragnodir gan reoliad 6;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19845;
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 20046;
ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;
ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 20087, ar gyfer amseroedd penodol neu ar ddyddiadau penodol;
ystyr “echel safonol” (“standard axle”) yw echel sy'n rhoi grym o 80 cilo Newton;
ystyr “y Fanyleb Dechnegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddiad Electronig o Hysbysiadau a gynhyrchwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig Rhagfyr 2008, fel y caiff ei diwygio neu ei hailgyhoeddi o bryd i'w gilydd;8
ystyr “gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr” (“pedestrian planning order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 249(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19909;
ystyr “gorchymyn traffig” (“traffic order”) yw gorchymyn a wnaed o dan adran 1 neu 9 o Ddeddf 1984;
mae “gwaith adfer” (“remedial works”) yn waith a gyflawnir o dan adran 72(3) o Ddeddf 1991;
mae “gwaith brys” (“urgent works”)—
- a
yn golygu gwaith stryd, ar wahân i waith argyfwng, y mae gofyn ei gyflawni ar yr adeg y caiff ei gyflawni (neu y mae'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith yn credu ar sail resymol fod gofyn hynny)—
- i
er mwyn atal neu roi terfyn ar doriad anghynlluniedig ar unrhyw gyflenwad neu wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan ymgymerydd;
- ii
er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerydd mewn perthynas â gwasanaeth presennol; neu
- iii
er mwyn ailgysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai gan ymgymerydd atebolrwydd sifil neu droseddol pe bai'r ailgysylltu'n cael ei ohirio tan ar ôl i'r cyfnod hysbysiad priodol ddod i ben; a
- i
- b
yn cynnwys gwaith na ellir ei wahanu'n rhesymol oddi wrth waith o'r fath.
- a
ystyr “gwaith di-oed” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng10;
ystyr “gwaith mawr” (“major works”) yw—
- a
gwaith stryd sydd wedi ei nodi yn rhaglen weithredu flynyddol ymgymerydd, neu a fuasai fel rheol yn gynlluniedig ac yn hysbys o leiaf chwe mis cyn dyddiad arfaethedig y gwaith, er nad oedd wedi ei nodi'n benodol mewn rhaglen o'r fath;
- b
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed—
- i
pan fo'r awdurdod strydoedd wedi dangos i ymgymerydd, neu
- ii
pan fo'r ymgymerydd o'r farn,
fod gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984 (gwaharddiad dros dro neu gyfyngiad ar ffyrdd) yn angenrheidiol; neu
- i
- c
gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na deng niwrnod;
- a
ystyr “gwaith safonol” (“standard works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn fwy na thri diwrnod ond yn ddim mwy na deng niwrnod;
mae i “llwybr ceffylau”, “llwybr troed” a “troedffordd” yr ystyron a roddir i “bridleway”, “footpath” a “footway” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 198011;
ystyr “mân waith” (“minor works”), ac eithrio fel y darperir yn rheoliad 8(8), yw gwaith stryd, ar wahân i waith di-oed neu waith mawr, y mae ei hyd arfaethedig yn ddim mwy na thri diwrnod;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 199212;
ystyr “stryd sydd yn sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd sydd wedi ei dynodi'n un sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991;
mae “trwydded” (“permit”) a “cynllun trwyddedau” (“permit scheme”) i gael eu dehongli yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2004; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â'r hawl, yn rhinwedd hawl statudol, i gyflawni gwaith stryd.
Trefniadau trosiannol3
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith stryd yng Nghymru pan fo ymgymerydd wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991 cyn y dyddiad y deuant i rym13.
Cymhwyso'r Rheoliadau4
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob priffordd y gellir ei chynnal, ar wahân i lwybr troed, llwybr ceffylau, priffordd y mae gorchymyn cynllunio ar gyfer cerddwyr mewn grym mewn perthynas â hi, a phriffordd y mae gorchymyn traffig yn gwahardd defnydd ohoni gan draffig cerbydol, oni bai bod y gwaharddiad mewn grym ar adegau penodol yn unig.
Hysbysiadau5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o gychwyniad y gwaith hwnnw i'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, gan nodi'r stryd y mae'r gwaith i'w gyflawni ynddi (“hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith”), ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cychwynnir y gwaith.
2
Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan drwydded sydd wedi ei chaniatáu gan Awdurdod Trwyddedau mewn stryd sydd yn sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sydd yn sensitif i draffig, y cyfnod y mae'n rhaid i'r hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith gael ei gyflwyno oddi mewn iddo yn unol â pharagraff (1) fydd y cyfnod sy'n gymwys yn rhinwedd paragraff 16.7 o'r Cod Ymarfer ar gyfer Trwyddedau dyddiedig Mehefin 2009.14, fel y caiff ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd.
3
Pan fydd ymgymerydd—
a
wedi cwblhau adferiad dros dro o briffordd;
b
wedi symud ymaith—
i
pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
ii
pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
c
wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud (“hysbysiad o fod yn glir o waith”) ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei hadfer yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
4
Pan fydd ymgymerydd—
a
wedi cwblhau adferiad parhaol o briffordd;
b
wedi symud ymaith—
i
pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
ii
pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
c
wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud (“hysbysiad o gwblhau gwaith”) ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei dychwelyd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
Cyfnod rhagnodedig6
Mewn perthynas ag ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi, bydd y cyfnod rhagnodedig o dan adran 74(1)(a) o Ddeddf 1991 yn ddau ddiwrnod, gan gychwyn ar y dyddiad y bydd y gwaith yn cychwyn.
Hyd y gwaith7
At ddibenion y Rheoliadau hyn, ni fydd hyd gwaith stryd ond yn dod i ben pan fydd yr ymgymerydd—
a
wedi cwblhau adferiad dros dro, neu adferiad parhaol yn ôl y digwydd, o briffordd;
b
wedi symud ymaith—
i
pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
ii
pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
c
wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
Taliadau rhagnodedig8
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (12) a (13), rhaid i ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi dalu i'r awdurdod priffyrdd swm sydd i'w bennu yn unol â pharagraffau (3) i (11).
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
a
gwaith—
i
mewn stryd nad yw'n sensitif i draffig,
ii
ar droedffordd stryd sydd yn sensitif i draffig ar adeg sydd yn sensitif i draffig, neu
iii
mewn stryd sydd yn sensitif i draffig, ac eithrio ar adeg sydd yn sensitif i draffig,
os nad yw'r gwaith yn golygu dryllio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani;
b
gwaith sy'n cynnwys dim ond creu tyllau sy'n llai na 3 centimetr ar eu traws, at ddibenion ymchwiliol;
c
ailosod polion, colofnau lamp neu arwyddion yn yr un lleoliad; neu
ch
rhoi prawf ar bolion.
3
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (9), bydd y taliad yn swm sydd wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (4), a bydd yn daladwy am bob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, y mae hyd y gwaith yn mynd yn fwy na'r hwyaf o—
a
y cyfnod rhagnodedig, neu
b
cyfnod rhesymol15.
4
O ran gwaith stryd sydd mewn categori a restrir yng ngholofn 3 o Dabl 1, ac sy'n cael ei gyflawni mewn stryd o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o ran y categori hwnnw, swm y taliad fydd y swm sydd wedi ei nodi yng ngholofn 4.
1. | 2. | 3. | 4. |
---|---|---|---|
Rhif yr Eitem | Disgrifiad o stryd. | Categori o waith stryd. | Swm y taliad (£). |
1. | Stryd nad yw'n stryd yng nghategori ffordd 2, 3 neu 4. | Gwaith mawr | 2,500 |
Gwaith safonol | 2,500 | ||
Mân waith | 500 | ||
Gwaith di-oed | 500 | ||
2. | Stryd yng nghategori ffordd 2. | Gwaith mawr | 2,000 |
Gwaith safonol | 2,000 | ||
Mân waith | 500 | ||
Gwaith di-oed | 500 | ||
3. | Stryd yng nghategori ffordd 3 neu 4 sydd yn stryd sy'n sensitif i draffig. | Gwaith mawr | 750 |
Gwaith safonol | 750 | ||
Mân waith | 250 | ||
Gwaith di-oed | 250 | ||
4. | Stryd yng nghategori ffordd 3 neu 4 sydd ddim yn stryd sy'n sensitif i draffig. | Gwaith mawr | 250 |
Gwaith safonol | 250 | ||
Mân waith | 100 | ||
Gwaith di-oed | 100 |
5
Yn ddarostyngedig i baragraff (9), bydd y taliad o ran gwaith adfer yn daladwy yn unol â pharagraff (3), ond bydd yn cael ei gyfrifo yn unol â pharagraff (4) fel pe bai'r gwaith hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (7), yn waith stryd o'r un categori â'r gwaith sydd wedi ei nodi ym mharagraff (6).
6
Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yw'r gwaith hwnnw mewn perthynas â'r hwn—
a
y methwyd â chydymffurfio â dyletswyddau'r ymgymerydd mewn perthynas ag adferiad; a
b
y mae'r awdurdod strydoedd wedi ei gwneud yn ofynnol ar yr ymgymerydd i gyflawni'r gwaith adfer.
7
Pan fo'r gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn waith a oedd, adeg cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991, yn waith a oedd yn syrthio i un o'r categorïau sydd wedi eu rhestru yng ngholofn 2 o Dabl 2 at ddibenion Rheoliadau 1992, bydd y gwaith hwn yn cael ei drin, at ddibenion paragraff (5), fel pe bai yn y categori cyfwerth sydd wedi ei restru yng ngholofn 3 o ran y categori hwnnw.
1. | 2. | 3. |
---|---|---|
Rhif yr Eitem | Categori o waith stryd at ddibenion Rheoliadau 1992. | Categori cyfwerth o waith stryd. |
1. | Prosiectau mawr | Gwaith mawr |
2. | Gwaith safonol | Gwaith safonol |
3. | Mân waith | Mân waith |
4. | Gwaith brys | Gwaith di-oed |
5. | Gwaith argyfwng | Gwaith di-oed |
8
Ym mharagraff (7), mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn eitemau 1 i 4 yng ngholofn 2 o Dabl 2 yr ystyr a roddir iddynt yn rheoliad 2 o Reoliadau 1992.
9
Bydd y taliad yn daliad sengl o £100 mewn perthynas ag unrhyw waith dan yr amgylchiadau a restrir ym mharagraff (10), os bodlonir gofynion paragraff (11).
10
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—
a
bod yr ymgymerydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (c)—
i
wedi cwblhau adferiad dros dro, neu adferiad parhaol yn ôl y digwydd, o briffordd,
ii
wedi gwneud ymdrech i symud pob arwydd, golau ac eitem warchod ymaith, a
iii
wedi symud ymaith pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl;
b
na fuasai hyd y gwaith wedi mynd yn fwy na'r hwyaf o'r cyfnod rhagnodedig neu gyfnod rhesymol, oni bai am baragraff (c); ac
c
bod eitem sengl o arwyddo, goleuo neu warchod yn aros ar y briffordd.
11
Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw—
a
bod yr awdurdod priffyrdd—
i
wedi hysbysu'r ymgymerydd o natur a lleoliad yr eitem sengl y cyfeirir ati ym mharagraff (10)(c); a
ii
wedi gofyn i'r ymgymerydd ei symud ymaith; a
b
bod yr ymgymerydd wedi cydymffurfio â'r cais erbyn diwedd y diwrnod a oedd yn dilyn y dyddiad y derbyniwyd y cais.
12
Caiff awdurdod priffyrdd ostwng swm taliad, neu hepgor y taliad—
a
mewn unrhyw achos neilltuol,
b
ym mha bynnag ddosbarthau o achos y byddant yn penderfynu arnynt,
c
ym mhob achos,
ch
ym mhob achos ar wahân i achos penodol, neu
d
ym mhob achos ar wahân i ba bynnag ddosbarth o achos y byddant yn penderfynu arni.
13
Nid yw taliadau ond yn daladwy mewn perthynas â gwaith stryd pan fo'r awdurdod priffyrdd wedi cyflwyno i'r ymgymerydd, ddim mwy na thri mis ar ôl derbyn hysbysiad o fod yn glir o waith neu hysbysiad o gwblhau gwaith, gyfrif ysgrifenedig sy'n nodi'r taliadau sy'n daladwy.
Amcangyfrifon o hyd gwaith9
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os oes gan ymgymerydd le i gredu y bydd hyd y gwaith yn fwy na'r cyfnod rhagnodedig, rhaid i'r ymgymerydd hwnnw gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd hysbysiad sy'n cynnwys amcangyfrif o hyd tebygol y gwaith—
a
yn achos gwaith mewn cysylltiad â gosodiad dechreuol cyfarpar yn y stryd yn unol â thrwydded gwaith stryd, ynghyd â'r cais am y drwydded;
b
yn achos gwaith (nad yw'n waith argyfwng) ynghyd ag—
i
yr hysbysiad o dan adran 55 o Ddeddf 1991 (hysbysiad o ddyddiad cychwyn), neu
ii
yr hysbysiad o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i'r Ddeddf honno (hysbysiad o waith arfaethedig)16; neu
c
yn achos gwaith argyfwng, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r gwaith gychwyn.
2
Cymerir bod yr awdurdod wedi cytuno bod cyfnod yr hyd a gynhwysir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn un rhesymol oni bai eu bod yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerydd, o fewn y cyfnod perthnasol a nodir ym mharagraff (3), i'r perwyl eu bod yn gwrthwynebu'r amcangyfrif.
3
Y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
a
5 niwrnod, yn achos gwaith mawr neu waith safonol, a
b
2 ddiwrnod, yn achos mân waith neu waith di-oed,
gan gychwyn ar y dyddiad y mae'r awdurdod yn derbyn yr hysbysiad sy'n cynnwys yr amcangyfrif.
4
Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad a gyflwynir gan awdurdod o dan baragraff (2) gynnwys eu hamcangyfrif eu hunain o gyfnod rhesymol ar gyfer hyd y gwaith.
5
Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo ymgymerydd yn bwriadu cyflawni gwaith stryd y mae'n rhaid sicrhau trwydded gan Awdurdod Trwyddedau mewn perthynas ag ef.
Amcangyfrifon pellach a diwygiedig o hyd gwaith10
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os ymddengys i ymgymerydd fod hyd y gwaith, oherwydd materion nas rhagwelwyd yn flaenorol neu nad oedd modd eu rhagweld yn rhesymol, yn debygol o fynd yn fwy nag—
a
y cyfnod rhagnodedig,
b
y cyfnod a ddatganwyd yn amcangyfrif blaenorol yr ymgymerydd, neu
c
y cyfnod y cytunwyd neu a benderfynwyd o dan adran 74(2) o Ddeddf 1991 ei fod yn gyfnod rhesymol,
rhaid i'r ymgymerydd gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd hysbysiad ysgrifenedig sy'n cynnwys amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig.
2
Pan fo hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (1), bydd unrhyw amcangyfrif, cytundeb neu benderfyniad blaenorol yn peidio â bod yn effeithiol, a chymerir bod yr awdurdod priffyrdd yn cytuno bod y cyfnod sydd wedi ei ddatgan yn yr amcangyfrif newydd yn un rhesymol, oni bai eu bod yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerydd, o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (3), eu bod yn gwrthwynebu'r amcangyfrif.
3
Bydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn 2 ddiwrnod, gan gychwyn ar y dyddiad y derbyniodd yr awdurdod yr hysbysiad a oedd yn cynnwys yr amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig.
4
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trwydded i gyflawni gwaith stryd arfaethedig wedi ei ganiatáu gan Awdurdod Trwyddedau.
Cymhwyso taliadau a chadw cyfrifon11
1
Caiff awdurdod priffyrdd lleol ddidynnu, o daliadau rhagnodedig a dderbynnir oddi wrth ymgymerydd, gostau rhesymol gweithredu'r cynllun y telir iddynt oddi tano, a rhaid iddynt gymhwyso'r enillion net at ddiben datblygu neu weithredu polisïau ar gyfer hyrwyddo a hybu cyfleusterau a gwasanaethau cludiant diogel, integredig, effeithlon a darbodus i mewn i'w hardal, allan ohoni ac oddi mewn iddi.
2
Rhaid i awdurdod priffyrdd lleol gadw cyfrifon o'r symiau a delir o ran taliadau.
Trosedd12
Mae unrhyw ymgymerydd sydd, heb achos rhesymol, yn methu â chyflwyno unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd, a bydd yn agored, yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
Ffurflen hysbysu13
1
Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurflen sydd wedi ei chynnwys yn y Fanyleb Dechnegol, neu fod â'r un effaith â'r ffurflen honno.
2
Rhaid i hysbysiad gynnwys yn ogystal ba bynnag wybodaeth arall sy'n ofynnol gan y Fanyleb Dechnegol ar gyfer cwblhau'r rhannau o'r ffurflen y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ac sydd wedi eu nodi yn y ffurflen honno fel rhai sy'n berthnasol i'r hysbysiad.
Y dull o gyflwyno hysbysiad14
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo'n ofynnol ar ymgymerydd i gyflwyno hysbysiad i awdurdod priffyrdd yn unol â rheoliad 5, rhaid cyflwyno'r hysbysiad hwnnw drwy—
a
ei anfon i'r awdurdod priffyrdd yn ei gyfeiriad priodol drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4);
b
ei ddanfon i'r awdurdod hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu
c
unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng yr ymgymerydd a'r awdurdod.
2
Pan nad oes gan awdurdod priffyrdd y mae ymgymerydd dan rwymedigaeth i gyflwyno hysbysiad o'r fath iddynt drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau yn ystod unrhyw gyfnod rhwng 4.30 pm ac 8.00 am ar y diwrnod dilynol, bydd yr ymgymerydd wedi cydymffurfio â'r rhwymedigaeth honno os bydd hysbysiad wedi ei gyflwyno erbyn 10.00 y bore ar y diwrnod dilynol hwnnw.
3
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol ar berson i gyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid cyflwyno hysbysiad o'r fath drwy—
a
ei anfon at y person y mae i gael ei gyflwyno iddo yng nghyfeiriad priodol y person drwy ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a nodir ym mharagraff (4);
b
ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw;
c
ei ddanfon i'r person hwnnw;
ch
ei adael yng nghyfeiriad priodol y person hwnnw; neu
d
unrhyw ddull arall y cytunir arno rhwng y person sy'n ei gyflwyno a'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo.
4
Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraffau (1)(a) a (3)(a) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad—
a
gallu cael ei dderbyn gan y person y'i hanfonir ato;
b
bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
c
bod ar ffurf sy'n caniatáu i'r hysbysiad gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato wedi hynny,
ac at y diben hwn, ystyr “bod yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad ar gael i'r person i raddau dim llai nag y buasai pe bai'n cael ei chyflwyno drwy hysbysiad ar ffurf brintiedig.
5
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Medi 2009 ymlaen a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid i bob hysbysiad y mae'n ofynnol iddo gael ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod priffyrdd neu ymgymerydd statudol gael ei gyfnewid rhwng un awdurdod priffyrdd ac un arall, rhwng un ymgymerydd statudol ac un arall, a rhwng awdurdod priffyrdd ac ymgymerydd statudol, drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod sydd wedi ei nodi ym mharagraff (4).
6
Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, ystyrir bod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel diwrnod ac amser cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.
7
Pan nad oes modd cyflawni cyflwyniad, ar ôl tri ymgais (sydd wedi eu cofnodi'n briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud hynny drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, gellir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i gael ei gyflwyno iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad priodol ar ei gyfer, neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, baragraff (3).
8
Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei gyflwyno iddo fydd—
a
pan fo'r cyfryw berson—
i
wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a
ii
heb hysbysu'r ail berson fod y cyfeiriad wedi ei dynnu'n ôl at y diben hwnnw,
y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull trosglwyddo hwnnw;
b
pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i berson sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â gwasanaeth post;
c
pan fo'r cyfryw berson wedi rhoi i'r person sy'n cyflwyno'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw mewn perthynas â'r dull arall hwnnw; ac
ch
fel arall—
i
yn achos corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol hwnnw; a
ii
mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.
9
Caiff person ddarparu gwahanol gyfeiriadau ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthau o hysbysiad.