Y cosbau sy'n daladwy pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi
24.—(1) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi o dan reoliad 21 mewn perthynas â thramgwydd, y gosb sy'n daladwy er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd hwnnw yw—
(a)yn achos tramgwydd o dan reoliad 19, £500, a
(b)yn achos tramgwydd o dan reoliad 20, £120.
(2) Y cyfnod ar gyfer talu'r gosb yw'r cyfnod o 36 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.
(3) Caiff yr Awdurdod Trwyddedau estyn y cyfnod ar gyfer talu'r gosb mewn unrhyw achos penodol os yw'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.