Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 7Cofrestrau

Dyletswydd i gadw cofrestr

33.—(1Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau greu a chadw cofrestr o drwyddedau, neu beri i gofrestr o'r fath gael ei chreu a'i chadw, mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun trwyddedau a gyflwynir ganddo o dan adran 33 o Ddeddf 2004 ac sydd i bob pwrpas o dan adran 34(4) o'r Ddeddf honno.

(2Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)enw pob stryd benodedig yn y cynllun hwnnw; a

(b)a yw'r strydoedd hynny wedi'u dynodi gan yr awdurdod strydoedd perthnasol o dan adran 61, 63 neu 64 o Ddeddf 1991(1) yn strydoedd a ddiogelir, strydoedd ag anawsterau arbennig o safbwynt peirianneg neu strydoedd sy'n sensitif i draffig;

ac unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â'r strydoedd y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a) y bydd yr Awdurdod Trwyddedau yn credu ei bod yn briodol.

(3Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau beri bod darpariaethau'r canlynol yn cael eu cofnodi yn y gofrestr —

(a)pob trwydded (wedi'i chydgrynhoi i ymgorffori unrhyw amrywiadau i'r drwydded);

(b)pob amrywiad i drwydded;

(c)pob amrywiad i amodau trwydded a phob dirymiad o amodau trwydded;

(ch)pob blaenawdurdodiad dros dro;

(d)pob cais am drwydded;

(dd)pob cais am amrywio trwydded;

(e)pob cais am flaenawdurdodiad dros dro;

(f)pob penderfyniad i wrthod rhoi trwydded;

(ff)pob penderfyniad i wrthod caniatáu amrywiad i drwydded;

(g)pob penderfyniad i wrthod rhoi blaenawdurdodiad dros dro;

(ng)pob trwydded y barnwyd ei bod wedi'i rhoi o dan reoliad 16, a phob blaenawdurdodiad dros dro, pob amrywiad i drwydded a phob amrywiad i amodau trwydded y barnwyd ei fod wedi'i roi, o dan reoliad 16; ac

(h)pob dirymiad o drwydded;

sy'n ymwneud â'r cynllun trwyddedau y mae'r gofrestr yn cael ei chadw ar ei gyfer.

(4Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau beri hefyd i'r canlynol gael ei gofnodi yn y gofrestr—

(a)pob hysbysiad a chydsyniad a roddir o dan adran 58(2) o Ddeddf 1991;

(b)pob hysbysiad a roddir o dan reoliad 5 o Reoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth Afresymol o Estynedig ar y Briffordd) (Cymru) 2009(3);

(c)pob hysbysiad a chyfarwyddyd a roddir o dan Atodlen 3A (cyfyngu ar waith yn sgil gwaith stryd sylweddol)(4) i Ddeddf 1991;

(ch)disgrifiad o weithgareddau a'u lleoliad ar gyfer yr holl gynlluniau ac adrannau a disgrifiadau o waith a gyflwynir o dan baragraff 2(2), 3 neu 5 o Atodlen 4 (strydoedd ag anawsterau arbennig o safbwynt peirianneg)(5) i Ddeddf 1991;

(d)pob hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991;

(dd)pob trwydded gwaith stryd a ganiateir o dan adran 50(1) o Ddeddf 1991 (gan gynnwys manylion yr amodau sydd wedi'u gosod ar drwydded o'r fath a phob aseiniad o fudd trwydded o'r fath);

(e)pob hysbysiad a roddir o dan adran 70(3) neu (4A) (dyletswydd ar ymgymerwr i adfer)(6) o Ddeddf 1991;

(f)pob gwybodaeth a roddir o dan adran 80(2) (dyletswydd i hysbysu ymgymerwyr o leoliad offer)(7) o Ddeddf 1991; ac

(ff)pob hysbysiad a roddir o dan reoliad 6(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005(8);

sy'n ymwneud â stryd benodedig yn y cynllun trwyddedau hwnnw.

(5Caiff dau neu fwy o Awdurdodau Trwyddedau beri bod eu cofrestrau'n cael eu cyfuno.

Mynediad i'r gofrestr

34.—(1Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau drefnu bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim —

(a)i'r graddau y mae'n ymwneud â gwybodaeth gyfyngedig, gan unrhyw berson sydd ag awdurdod i gyflawni gwaith o unrhyw ddisgrifiad yn y stryd, neu y mae'n ymddangos fel arall i'r awdurdod fod ganddo fuddiant digonol, a

(b)i'r graddau y mae'n ymwneud â gwybodaeth nad yw wedi'i chyfyngu, gan unrhyw berson.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gwybodaeth gyfyngedig —

(a)yn wybodaeth yr ardystiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu gyda'i awdurdodiad, ei bod yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion diogelwch gwladol; neu

(b)yn wybodaeth yr ardystiwyd gan ymgymerwr, neu gyda'i awdurdodiad, ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu buddiannau masnachol yr ymgymerwr hwnnw, neu'n debygol o wneud hynny.

(1)

Diwygiwyd adran 64 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 81 ac Atodlen 7, paragraff 12, a chan Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 2004, adran 52(4).

(2)

Diwygiwyd adran 58 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 51 ac Atodlen 1.

(4)

Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 52(2) ac Atodlen 4.

(5)

Diwygiwyd Atodlen 4 gan Orchymyn Rheoli Traffig 2004, adran 40 ac Atodlen 1; gan Ddeddf Cyfathrebu 2003, adran 406 ac Atodlen 17, paragraff 108 ac Atodlen 19, paragraff 1; a chan Ddeddf Crynhoi Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 57.

(6)

Diwygiwyd adran 70 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 54(1) i (3).

(7)

Diwygiwyd adran 80 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 40 ac Atodlen 1. Mae wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adran 47(1) i (6) o'r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources