xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Sancsiynau

Y camau y caniateir eu cymryd am waith sydd heb ei awdurdodi

18.—(1Pan fo person —

(a)yn ymgymryd, heb drwydded, â gwaith y mae'n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer; neu

(b)yn torri unrhyw amod mewn trwydded;

caiff yr Awdurdod Trwydded ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, a chaniateir iddynt gynnwys camau i waredu'r gwaith, cywiro'r toriad neu leiafu unrhyw rwystr i'r stryd sy'n gysylltiedig â'r gwaith neu roi pen ar y rhwystr hwnnw.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud ag ef.

(3Os bydd ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, caiff yr Awdurdod Trwyddedau gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ac unrhyw gamau rhesymol y mae'n barnu eu bod yn briodol gan roi sylw i'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ac adennill oddi wrtho'r costau a dynnir yn rhesymol ganddo wrth wneud hynny.

Tramgwydd ymgymryd â gwaith heb drwydded ofynnol

19.—(1Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran ymgymryd â gwaith penodedig mewn stryd benodedig heb drwydded, ac eithrio i'r graddau y mae cynllun trwyddedau'n darparu nad yw'r gofyniad hwn yn gymwys.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd torri un o amodau trwydded

20.—(1Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran dorri un o amodau trwydded.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Rhoi hysbysiadau cosb benodedig

21.—(1Caniateir i swyddog awdurdodedig i Awdurdod Trwyddedau, os bydd gan y swyddog hwnnw le i gredu bod person yn cyflawni neu wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 19(1) neu 20(1), roi iddo hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.

(2Yn y Rhan hon ystyr “hysbysiad cosb benodedig” (“fixed penalty notice”) yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i berson gael ei ryddhau rhag unrhyw atebolrwydd am gollfarn am dramgwydd cosb benodedig drwy dalu cosb.

Y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad cosb benodedig

22.  Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig gael ei roi fwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd ei gyflawni.

Ffurf ar hysbysiad cosb benodedig

23.—(1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

(2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi'r tramgwydd y mae'n ymwneud ag ef a rhoi manylion rhesymol am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

(a)swm y gosb ac o fewn pa gyfnod y caniateir iddo gael ei dalu;

(b)y swm gostyngol sy'n daladwy'n unol â rheoliad 25 ac o fewn pa gyfnod y caniateir ei dalu;

(c)y person y caniateir i'r taliad gael ei wneud iddo a'r cyfeiriad lle caniateir iddo gael ei wneud;

(ch)drwy ba ddull neu ddulliau y caniateir i'r taliad gael ei wneud;

(d)y person y caniateir i unrhyw sylwadau ynghylch yr hysbysiad gael eu cyfeirio ato a'r cyfeiriad lle caniateir eu cyfeirio; ac

(dd)canlyniadau peidio â gwneud taliad o fewn y cyfnod ar gyfer talu.

(4Rhaid mai'r awdurdod trwyddedau neu berson a gontractiwyd i weithredu ar ei ran yw'r person a bennir o dan baragraff (3)(c).

Y cosbau sy'n daladwy pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi

24.—(1Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi o dan reoliad 21 mewn perthynas â thramgwydd, y gosb sy'n daladwy er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd hwnnw yw—

(a)yn achos tramgwydd o dan reoliad 19, £500, a

(b)yn achos tramgwydd o dan reoliad 20, £120.

(2Y cyfnod ar gyfer talu'r gosb yw'r cyfnod o 36 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3Caiff yr Awdurdod Trwyddedau estyn y cyfnod ar gyfer talu'r gosb mewn unrhyw achos penodol os yw'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.

Gostyngiadau am dalu'n gynnar

25.—(1Mae swm gostyngol yn daladwy yn lle'r swm a ragnodir o dan reoliad 24(1) os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod o 29 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(2Y swm gostyngol yw —

(a)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(a) yn gymwys, £300, a

(b)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(b) yn gymwys, £80.

(3Os na fydd diwrnod olaf y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn disgyn ar ddiwrnod gweithio, caiff y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol ei estyn tan ddiwedd y diwrnod gwaith nesaf.

Arbed rhag achos cyfreithiol pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â thramgwydd cosb benodedig.

(2Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r gosb.

(3Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol o'r fath gael ei gychwyn na'i barhau os telir swm y gosb cyn diwedd y cyfnod hwnnw neu os caiff ei dderbyn gan yr Awdurdod Trwyddedau ar ôl yr amser hwnnw.

(4Ni fydd talu'r swm gostyngol yn cyfrif at ddibenion paragraff (3) ond os caiff ei wneud cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol.

(5Mewn achos cyfreithiol am y tramgwydd, bydd tystysgrif —

(a)sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau; a

(b)sy'n datgan bod taliad o swm a bennwyd yn y dystysgrif wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd felly,

yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.

(6Y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau —

(a)os un awdurdod priffyrdd yw'r Awdurdod Trwyddedau, yw'r person sy'n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod hwnnw; a

(b)os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n fwy nag un awdurdod priffyrdd, yw'r person a benodwyd gan yr awdurdodau cyfranogol i fod yn gyfrifol am gyfrifyddu ariannol mewn perthynas â'r cynllun trwyddedau.

Tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl

27.—(1Os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n credu na ddylai hysbysiad cosb benodedig a roddwyd fod wedi'i roi, rhaid iddo roi i'r person y rhoddwyd yr hysbysiad hwnnw iddo hysbysiad yn tynnu'r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno yn Atodlen 2.

(3Pan fo hysbysiad o dan baragraff (1) wedi'i roi, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi'i dalu fel cosb yn unol â'r hysbysiad cosb benodedig.

(4Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan neu ar ran derbynnydd hysbysiad cosb benodedig a phenderfynu o dan yr holl amgylchiadau a ddylid tynnu'r hysbysiad yn ôl.

Defnyddio'r symiau a geir o gosbau penodedig

28.—(1Caiff Awdurdod Trwyddedau ddidynnu o gosbau penodedig a geir o dan y rheoliadau hyn unrhyw gostau o weithredu ei gynllun trwyddedau sy'n weddill ar ôl defnyddio incwm o ffioedd at dalu'r costau hynny o dan reoliad 32.

(2Rhaid i Awdurdod Trwyddedau ddefnyddio'r enillion neu'r enillion net a geir o gosbau penodedig er mwyn magu neu weithredu polisïau i hyrwyddo a hybu cyfleusterau a gwasanaethau cludo diogel, integredig, effeithlon a darbodus i'r ardal benodedig, ohoni ac o'i mewn.