xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1267 (Cy.114)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009

Gwnaed

19 Mai 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Ebrill 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 37, 39(2) a 39 (4) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Trwyddedau Rheoli Traffig (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

(2Tramgwyddau cosb benodedig yw'r tramgwyddau a nodir yn rheoliadau 19 ac 20 at ddibenion Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn.

RHAN 2Gwneud cais am gynllun

Ymgynghori ar gyfer cynlluniau trwyddedau newydd

3.—(1Cyn cyflwyno cynllun trwyddedau i Weinidogion Cymru o dan adran 33 o Ddeddf 2004, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ymgynghori â'r canlynol—

(a)pob person sy'n gwneud gwaith o bryd i'w gilydd yn yr ardal benodedig a arfaethir a bennir, i'r graddau y mae'r Awdurdod Trwyddedau yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny;

(b)pob awdurdod lleol ac eithrio'r Awdurdod Trwyddedau y mae unrhyw stryd y mae'r cynllun trwyddedau arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli yn ei ardal;

(c)y gwasanaethau brys sy'n gweithredu yn yr ardal benodedig a arfaethir;

(ch)Gweinidogion Cymru;

ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn yr Awdurdod Trwyddedau.

(2Os bydd yr Awdurdod Trwyddedau, cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, wedi ymgymryd ag unrhyw ymgynghoriad a fyddai, pe bai wedi ymgymryd ag ef ar ôl y diwrnod hwnnw, wedi bodloni i unrhyw raddau'r gofynion ym mharagraff (1), rhaid cymryd bod y gofynion hynny wedi'u bodloni i'r graddau hynny.

Gofynion gweithdrefnol ar gyfer cyflwyno cynlluniau trwyddedau newydd

4.  Pan fo'n cyflwyno cynllun trwyddedau o dan adran 33(1) neu (2) o Ddeddf 2004, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth ganlynol —

(a)enw pob person sy'n awdurdod priffyrdd ar gyfer un neu fwy o'r strydoedd penodedig;

(b)beth yw amcanion yr Awdurdod Trwyddedau ar gyfer y cynllun trwyddedau hwnnw;

(c)sut mae'r Awdurdod Trwyddedau'n bwriadu sicrhau y bydd yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth a nodir yn rheoliad 40;

(ch)sut a phryd mae'r Awdurdod Trwyddedau'n bwriadu gwerthuso'r cynllun trwyddedau hwnnw er mwyn mesur a yw'r amcanion ar ei gyfer wedi'u bodloni;

(d)y costau a'r buddion (p'un a ydynt yn ariannol neu beidio) y mae'r Awdurdod Trwyddedau yn rhag-weld y byddant yn deillio o'r cynllun trwyddedau hwnnw;

(dd)y dystiolaeth a ystyriwyd gan yr Awdurdod Trwyddedau pan benderfynodd gynnwys unrhyw ddarpariaethau yn y cynllun trwyddedau o ran y ffioedd y caniateir eu codi, a'r rhesymau dros ei benderfyniad;

(e)ar neu ar ôl pa ddyddiad y mae'r Awdurdod Trwyddedau yn bwriadu bod y cynllun trwyddedau yn dod yn weithredol;

(f)manylion unrhyw drefniadau trosiannol y byddai'r Awdurdod Trwyddedau'n dymuno eu cymhwyso o ran pryd y byddai'r cynllun trwyddedau'n dod yn weithredol; ac

(ff)crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad yr ymgymerwyd ag ef o dan reoliad 3 ac o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun trwyddedau yn sgil yr ymgynghoriad hwnnw.

Amrywio a dirymu cynlluniau trwyddedau ar gais yr Awdurdod Trwyddedau

5.  Cyn gofyn i Weinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cynllun trwyddedau rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ymgynghori â'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1).

RHAN 3Cynnwys Cynlluniau Trwyddedau

Gwaith penodedig

6.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r gwaith (neu'r mathau o waith) y mae'r cynllun trwyddedau wedi'i lunio i'w rheoli (a rhaid i'r gwaith hwnnw fod yn “waith penodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

(2Bydd y gwaith penodedig a ddisgrifir mewn cynllun trwyddedau wedi'i ffurfio o waith stryd a gwaith at ddibenion ffyrdd.

(3Rhaid i waith penodedig ar gyfer cynllun trwyddedau beidio â chynnwys gwaith a gyflawnir mewn stryd yn unol â thrwydded gwaith stryd a ddyroddwyd o dan adran 50 o Ddeddf 1991 (trwyddedau gwaith stryd).

Ardal benodedig

7.  Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r ardal y mae'r broses o wneud y gwaith penodedig i'w rheoli ynddi (a rhaid i'r ardal honno fod yn “ardal benodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

Strydoedd penodedig

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r strydoedd (neu'r mathau o strydoedd) o fewn ei ardal benodedig y mae'r rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i'w cymhwyso iddynt (a rhaid i'r strydoedd hyn fod yn “strydoedd penodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff cynllun trwyddedau bennu unrhyw strydoedd, nad ydynt yn briffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd, yn strydoedd y mae rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i fod yn gymwys iddynt.

(3Caiff cynllun trwyddedau bennu stryd nad yw'n briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd, yn stryd y mae rheolaethau ar waith penodedig i fod yn gymwys iddi —

(a)os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n rhag-weld y daw'r stryd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd; a

(b)mae'r cynllun trwyddedau yn darparu bod y rheolaethau ar waith penodedig ddim ond yn gymwys o ran gwaith yn y stryd honno a wneir ar ôl i'r stryd ddod yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd.

(4Caiff cynllun trwyddedau bennu strydoedd yn strydoedd y mae rheolaethau ar y broses o wneud gwaith penodedig yn gymwys iddynt er nad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y strydoedd hynny yw'r awdurdod trwyddedau.

Trwyddedau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded gan yr Awdurdod Trwyddedau cyn bod gwaith penodedig yn cael ei wneud mewn stryd benodedig.

(2Rhaid i gynllun trwyddedau bennu personau (neu fathau o bersonau) nad yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys iddynt a'r amgylchiadau (neu fathau o amgylchiadau) nad yw'r gofyniad hwnnw'n gymwys ynddynt.

(3Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r wybodaeth a fydd yn mynd gyda chais am drwydded, a chaniateir iddo bennu ym mha fodd ac o fewn pa gyfnod y dylid cyflwyno ceisiadau o'r fath.

(4Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded gael ei gyfyngu i un stryd.

(5Rhaid i gynllun trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i bob cais am drwydded neu am amrywio trwydded roi amcangyfrif o barhad tebygol y gwaith sy'n destun y cais hwnnw.

(6Rhaid i gynllun trwyddedau ddarparu bod pob trwydded yn pennu'r cyfnod amser pryd y bydd y gwaith penodedig ar stryd benodedig wedi'i awdurdodi gan y drwydded honno.

(7Caiff cynllun trwyddedau ddarparu bod dosbarthiadau gwahanol o drwydded yn ofynnol mewn perthynas ag amgylchiadau gwahanol.

(8Caiff cynllun trwyddedau ddarparu, pan fo bwriad i wneud y gwaith penodedig perthnasol mewn mwy nag un is-gyfnod, fod yn rhaid cael trwydded ar wahân mewn cysylltiad â phob is-gyfnod.

(9Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth i'w gwneud yn ofynnol i gopi o bob cais am drwydded gael ei ddarparu gan y ceisydd, pan ofynnir am gopi o'r fath, i unrhyw awdurdod perthnasol ac i unrhyw berson arall a chanddo offer yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.

Yr amodau a osodir ar drwyddedau

10.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth bod yr Awdurdod Trwyddedau yn gosod amodau ar drwyddedau, a rhaid i'r cynllun trwyddedau bennu'r mathau o amod y caiff yr Awdurdod Trwyddedau eu gosod.

(2Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, mae'r mathau o amod y caiff yr Awdurdod Trwyddedau eu gosod ar drwyddedau o dan y paragraff hwnnw yn cynnwys amodau ynghylch —

(a)diwrnodau pan na chaniateir i waith trwydded gael ei wneud;

(b)amserau'r dydd pan na chaniateir i waith trwydded gael ei wneud;

(c)yr ardal (gan gynnwys ardaloedd nad ydynt yn rhan o'r stryd) y caniateir ei meddiannu'n gysylltiedig â'r gwaith trwydded;

(ch)gwahardd traffig neu gyfyngu arno yn unol â gorchmynion neu hysbysiadau o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwahardd dros dro neu gyfyngu dros dro ar ffyrdd)(6);

(d)trefniadau rheoli traffig sydd i'w gwneud yn gysylltiedig â'r gwaith trwydded (gan gynnwys trefniadau er budd penodol personau sydd ag anabledd);

(dd)ym mha fodd y bwriedir gwneud y gwaith penodedig;

(e)ymgynghori a chyhoeddusrwydd mewn perthynas â'r gwaith penodedig, gan gynnwys rhoi gwybodaeth ar ddangos yn y man lle mae'r gwaith hwnnw; ac

(f)hysbysu o'r cynnydd mewn perthynas â'r gwaith penodedig.

(3Caiff y mathau o amod y caniateir i'r Awdurdod Trwyddedau eu gosod ar drwydded mewn cysylltiad â gwaith trwydded sydd i'w wneud gan neu ar ran awdurdod priffyrdd gynnwys hefyd amodau —

(a)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priffyrdd ymgynghori ag unrhyw berson a chanddo offer y mae'r gwaith trwydded yn debyg o effeithio arnynt; a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priffyrdd gymryd pob cam sy'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wnaed gan y person hwnnw ac sy'n rhesymol angenrheidiol i ddiogelu'r offer neu i ddiogelu mynediad iddynt.

(4Rhaid i gynllun trwyddedau ddarparu y caiff yr Awdurdod Trwyddedau ddirymu trwydded pan fo'n ymddangos i'r Awdurdod Trwyddedau fod amod sydd wedi'i osod ar y drwydded honno wedi'i dorri.

(5Yn y rheoliad hwn, mae “trefniadau rheoli traffig” (“traffic management arrangements”) yn cynnwys arwyddion, signalau, marciau ffyrdd, atalfeydd a mesurau eraill sydd wedi'u bwriadu i sicrhau bod cerbydau traffig ac unrhyw draffig arall (gan gynnwys cerddwyr) yn cael symud yn hwylus, yn gyfleus ac yn ddiogel.

Blaenawdurdodiadau dros dro

11.—(1Caiff cynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro ar gyfer gwaith penodedig neilltuol mewn strydoedd penodedig fel rhan o'r cais am ddosbarthiadau penodol o drwydded.

(2Pan fo cynllun trwyddedau yn cynnwys darpariaeth o'r fath, rhaid iddo bennu'r wybodaeth y mae'n rhaid iddi fynd gyda chais am flaenawdurdodiad dros dro, a chaiff bennu ym mha ddull y mae ceisiadau o'r fath i'w cyflwyno ac o fewn pa amser y mae'n rhaid eu cyflwyno.

(3Rhaid i bob cais am flaenawdurdodiad dros dro gael ei gyfyngu i un stryd.

(4Pan fo cynllun trwyddedau'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r cais am waith penodedig mewn strydoedd penodedig, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried, wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded, a yw'r ceisydd wedi cael awdurdodiad o'r fath.

(5Ni fydd rhoi blaenawdurdodiad dros dro yn atal yr Awdurdod Trwyddedau rhag penderfynu peidio â rhoi'r drwydded y mae'r awdurdodiad hwnnw'n ymwneud â hi.

(6Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod copi o bob cais am flaenawdurdodiad dros dro yn cael ei ddarparu gan y ceisydd pan ofynnir amdano gan awdurdod perthnasol a'i ddarparu i unrhyw berson arall y mae offer ganddo yn y stryd y mae'r cais yn ymwneud â hi.

Rhif au cyfeirnod trwyddedau

12.  Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau neilltuo Rhif cyfeirnod unigryw i bob trwydded y mae'n ei dyroddi.

Amodau ar waith nad yw'r gofyniad i gael trwydded yn gymwys iddo

13.—(1Caiff cynllun trwyddedau —

(a)pennu amodau; a

(b)cynnwys darpariaeth i'r Awdurdod Trwyddedau bennu amodau,

a fydd yn gymwys i waith penodedig a wneir mewn strydoedd penodedig y datgymhwysir, yn rhinwedd darpariaeth a wnaed yn y cynllun o dan reoliad 9(2), ofyniad yn y cynllun hwnnw i gael trwydded cyn dechrau gwneud y gwaith hwnnw.

(2Rhaid i'r amodau hynny fod yn amodau o'r mathau a bennir yn y cynllun trwyddedau o dan reoliad 10(1) i (3).

(3Pan fo cynllun trwyddedau'n gwneud unrhyw ddarpariaeth a ganiateir o dan baragraff(1)(b), rhaid iddo hefyd —

(a)pennu drwy ba ddull y gall y rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith nodi unrhyw amodau sy'n gymwys i'r gwaith cyn iddynt ddechrau, a

(b)pennu sut y tynnir sylw'r rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith hwnnw at unrhyw amrywiadau i'r amodau sy'n gymwys.

(4Bydd yr amodau hynny'n peidio â bod yn gymwys pan fo unrhyw drwydded sy'n ofynnol yn cael ei dyroddi.

Y meini prawf sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan yr Awdurdod Trwyddedau

14.—(1Pan fo hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan adran 58(1) o Ddeddf 1991 (cyfyngu ar waith ar ôl gwaith ffyrdd sylweddol)(7) mewn cysylltiad â stryd benodedig, a bod cais am drwydded neu flaenawdurdodiad dros dro yn cael ei wneud mewn cysylltiad â gwaith sydd i'w wneud yn ystod y cyfnod rhagnodedig, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau, wrth ystyried y cais hwnnw, roi sylw i'r materion canlynol—

(a)a gafodd y ceisydd gopi o'r hysbysiad; a

(b)a hysbysodd y ceisydd, o fewn y cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer ymatebion i'r hysbysiad hwnnw, yr Awdurdod Trwyddedau (neu, os yw'n wahanol, yr awdurdod strydoedd a ddyroddodd yr hysbysiad) o'r gwaith sydd bellach yn yr arfaeth.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y cyfnod rhagnodedig” (“the prescribed period”) yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 11(2) o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008(8).

Adolygu, amrywio a dirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau

15.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth i'r Awdurdod Trwyddedau gael pŵer i amrywio a dirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau.

(2Rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r wybodaeth sy'n mynd gyda chais am amrywio neu ddirymu trwydded neu amodau trwydded, a chaiff bennu ym mha fodd ac o fewn pa gyfnod y mae'r cais hwnnw i'w gyflwyno.

(3Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys datganiad o bolisi'r Awdurdod Trwyddedau ynghylch yr amgylchiadau y bydd yn adolygu, yn amrywio neu'n dirymu trwydded ac amodau trwydded odanynt ar ei liwt ei hun.

Terfynau amser ar Awdurdod Trwyddedau

16.—(1Rhaid i gynllun trwyddedau bennu o fewn pa derfynau amser y mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ymateb i geisiadau am drwyddedau, blaenawdurdodiadau dros dro, amrywiadau i drwyddedau ac amrywiadau i amodau trwyddedau.

(2Caniateir i derfynau amser gwahanol gael eu gosod ar gyfer achosion gwahanol.

(3Os na fydd Awdurdod Trwyddedau'n caniatáu nac yn gwrthod cais a gwblhawyd yn briodol o fewn y terfyn amser sy'n gymwys, bernir bod y cais wedi'i ganiatáu, a chymerir bod unrhyw amcangyfrif o barhad tebygol y gwaith, sy'n destun y cais am drwydded neu am amrywio trwydded a hwnnw'n amcangyfrif a ddarperir yn y cais hwnnw, yn gyfnod rhesymol at ddibenion adran 74(1) o Ddeddf 1991 (ffi am feddiannu'r briffordd pan fo gwaith yn cael ei estyn yn afresymol).

RHAN 4Cyhoeddusrwydd

Hysbysu o gynllun trwyddedau

17.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004 (gweithredu cynlluniau trwyddedau awdurdodau priffyrdd lleol) yn rhoi ei effaith i gynllun trwyddedau, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) bod y gorchymyn hwnnw wedi'i wneud heb fod yn llai na phedair wythnos cyn y dyddiad y mae'r cynllun i ddod yn weithredol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 36 o Ddeddf 2004 (amrywio a dirymu cynlluniau trwyddedau) i amrywio neu ddirymu cynllun trwyddedau, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) bod y gorchymyn hwnnw wedi'i wneud heb fod yn llai na phedair wythnos cyn y dyddiad y mae'r amrywiad neu'r dirymiad yn dechrau.

RHAN 5Sancsiynau

Y camau y caniateir eu cymryd am waith sydd heb ei awdurdodi

18.—(1Pan fo person —

(a)yn ymgymryd, heb drwydded, â gwaith y mae'n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer; neu

(b)yn torri unrhyw amod mewn trwydded;

caiff yr Awdurdod Trwydded ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, a chaniateir iddynt gynnwys camau i waredu'r gwaith, cywiro'r toriad neu leiafu unrhyw rwystr i'r stryd sy'n gysylltiedig â'r gwaith neu roi pen ar y rhwystr hwnnw.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud ag ef.

(3Os bydd ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, caiff yr Awdurdod Trwyddedau gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ac unrhyw gamau rhesymol y mae'n barnu eu bod yn briodol gan roi sylw i'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ac adennill oddi wrtho'r costau a dynnir yn rhesymol ganddo wrth wneud hynny.

Tramgwydd ymgymryd â gwaith heb drwydded ofynnol

19.—(1Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran ymgymryd â gwaith penodedig mewn stryd benodedig heb drwydded, ac eithrio i'r graddau y mae cynllun trwyddedau'n darparu nad yw'r gofyniad hwn yn gymwys.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd torri un o amodau trwydded

20.—(1Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran dorri un o amodau trwydded.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Rhoi hysbysiadau cosb benodedig

21.—(1Caniateir i swyddog awdurdodedig i Awdurdod Trwyddedau, os bydd gan y swyddog hwnnw le i gredu bod person yn cyflawni neu wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 19(1) neu 20(1), roi iddo hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.

(2Yn y Rhan hon ystyr “hysbysiad cosb benodedig” (“fixed penalty notice”) yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i berson gael ei ryddhau rhag unrhyw atebolrwydd am gollfarn am dramgwydd cosb benodedig drwy dalu cosb.

Y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad cosb benodedig

22.  Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig gael ei roi fwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd ei gyflawni.

Ffurf ar hysbysiad cosb benodedig

23.—(1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

(2Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi'r tramgwydd y mae'n ymwneud ag ef a rhoi manylion rhesymol am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—

(a)swm y gosb ac o fewn pa gyfnod y caniateir iddo gael ei dalu;

(b)y swm gostyngol sy'n daladwy'n unol â rheoliad 25 ac o fewn pa gyfnod y caniateir ei dalu;

(c)y person y caniateir i'r taliad gael ei wneud iddo a'r cyfeiriad lle caniateir iddo gael ei wneud;

(ch)drwy ba ddull neu ddulliau y caniateir i'r taliad gael ei wneud;

(d)y person y caniateir i unrhyw sylwadau ynghylch yr hysbysiad gael eu cyfeirio ato a'r cyfeiriad lle caniateir eu cyfeirio; ac

(dd)canlyniadau peidio â gwneud taliad o fewn y cyfnod ar gyfer talu.

(4Rhaid mai'r awdurdod trwyddedau neu berson a gontractiwyd i weithredu ar ei ran yw'r person a bennir o dan baragraff (3)(c).

Y cosbau sy'n daladwy pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi

24.—(1Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi o dan reoliad 21 mewn perthynas â thramgwydd, y gosb sy'n daladwy er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd hwnnw yw—

(a)yn achos tramgwydd o dan reoliad 19, £500, a

(b)yn achos tramgwydd o dan reoliad 20, £120.

(2Y cyfnod ar gyfer talu'r gosb yw'r cyfnod o 36 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3Caiff yr Awdurdod Trwyddedau estyn y cyfnod ar gyfer talu'r gosb mewn unrhyw achos penodol os yw'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.

Gostyngiadau am dalu'n gynnar

25.—(1Mae swm gostyngol yn daladwy yn lle'r swm a ragnodir o dan reoliad 24(1) os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod o 29 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(2Y swm gostyngol yw —

(a)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(a) yn gymwys, £300, a

(b)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(b) yn gymwys, £80.

(3Os na fydd diwrnod olaf y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn disgyn ar ddiwrnod gweithio, caiff y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol ei estyn tan ddiwedd y diwrnod gwaith nesaf.

Arbed rhag achos cyfreithiol pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â thramgwydd cosb benodedig.

(2Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r gosb.

(3Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol o'r fath gael ei gychwyn na'i barhau os telir swm y gosb cyn diwedd y cyfnod hwnnw neu os caiff ei dderbyn gan yr Awdurdod Trwyddedau ar ôl yr amser hwnnw.

(4Ni fydd talu'r swm gostyngol yn cyfrif at ddibenion paragraff (3) ond os caiff ei wneud cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol.

(5Mewn achos cyfreithiol am y tramgwydd, bydd tystysgrif —

(a)sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau; a

(b)sy'n datgan bod taliad o swm a bennwyd yn y dystysgrif wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd felly,

yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.

(6Y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau —

(a)os un awdurdod priffyrdd yw'r Awdurdod Trwyddedau, yw'r person sy'n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod hwnnw; a

(b)os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n fwy nag un awdurdod priffyrdd, yw'r person a benodwyd gan yr awdurdodau cyfranogol i fod yn gyfrifol am gyfrifyddu ariannol mewn perthynas â'r cynllun trwyddedau.

Tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl

27.—(1Os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n credu na ddylai hysbysiad cosb benodedig a roddwyd fod wedi'i roi, rhaid iddo roi i'r person y rhoddwyd yr hysbysiad hwnnw iddo hysbysiad yn tynnu'r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno yn Atodlen 2.

(3Pan fo hysbysiad o dan baragraff (1) wedi'i roi, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi'i dalu fel cosb yn unol â'r hysbysiad cosb benodedig.

(4Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan neu ar ran derbynnydd hysbysiad cosb benodedig a phenderfynu o dan yr holl amgylchiadau a ddylid tynnu'r hysbysiad yn ôl.

Defnyddio'r symiau a geir o gosbau penodedig

28.—(1Caiff Awdurdod Trwyddedau ddidynnu o gosbau penodedig a geir o dan y rheoliadau hyn unrhyw gostau o weithredu ei gynllun trwyddedau sy'n weddill ar ôl defnyddio incwm o ffioedd at dalu'r costau hynny o dan reoliad 32.

(2Rhaid i Awdurdod Trwyddedau ddefnyddio'r enillion neu'r enillion net a geir o gosbau penodedig er mwyn magu neu weithredu polisïau i hyrwyddo a hybu cyfleusterau a gwasanaethau cludo diogel, integredig, effeithlon a darbodus i'r ardal benodedig, ohoni ac o'i mewn.

RHAN 6Ffioedd

Costau rhagnodedig

29.  At ddibenion adran 37(9) o Ddeddf 2004 (rheoliadau trwydded) a rheoliad 32, y costau rhagnodedig mewn unrhyw flwyddyn ariannol yw'r gyfran honno o gyfanswm y costau a dynnwyd gan yr Awdurdod Trwyddedau yn gysylltiedig â gweithredu cynllun trwyddedau yn y flwyddyn honno y gellir ei phriodoli i gostau gweithredu'r cynllun hwnnw mewn perthynas ag ymgymerwyr statudol.

Pŵer i godi ffi a gostyngiadau

30.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 31 a 32, caiff Awdurdod Trwyddedau godi ffi mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol —

(a)dyroddi trwydded;

(b)cais am drwydded, pan fo'r cynllun trwyddedau yn ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r cais hwnnw; ac

(c)pob tro y bydd amrywiad i drwydded neu i'r amodau sydd wedi'u gosod ar drwydded.

(2Mewn achos lle mae'r cynllun trwyddedau'n caniatáu i wahanol ffioedd gael eu talu am waith penodedig gwahanol, rhaid i'r cynllun nodi ystod y ffioedd y caniateir eu codi a'r meini prawf sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu sut i ganfod y ffi sy'n gymwys mewn achos unigol o'r ystod honno.

(3Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau y caniateir i ffioedd gael eu gostwng odanynt, a chaniateir i'r ddarpariaeth honno gynnwys —

(i)y gostyngiad sy'n gymwys mewn amgylchiad penodol; neu

(ii)ystod y gostyngiadau a all fod yn gymwys yn yr amgylchiad hwnnw a'r meini prawf y mae'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu sut i ganfod y ffi sy'n gymwys mewn achos unigol o'r ystod honno.

(4£240 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â dyroddi trwydded.

(5£105 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â chais am drwydded.

(6£45 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â phob tro y mae amrywiad i drwydded neu amod a osodir ar drwydded.

Arbedion rhag talu ffioedd a gostyngiadau

31.—(1Ni fydd awdurdodau priffyrdd yn atebol i dalu ffioedd o dan gynllun trwyddedau.

(2Rhaid i Awdurdod Trwyddedau beidio â chodi ffi mewn cysylltiad ag amrywio trwydded neu amod a osodwyd ar drwydded os na chafodd yr amrywiad ei wneud ar gais deiliad y drwydded.

(3Rhaid i Awdurdod Trwyddedau beidio â chodi ffi mewn cysylltiad â thrwydded y barnwyd ei bod wedi'i dyroddi neu amrywiad y barnwyd ei fod wedi'i wneud i drwydded neu i'r amodau a osodwyd ar drwydded yn unol â rheoliad 16(3).

(4Mae paragraff (5) yn gymwys mewn achos lle mae'r Awdurdod Trwyddedau wedi'i fodloni bod ceisiadau am ddwy neu fwy o drwyddedau a gafwyd o fewn 3 diwrnod gwaith i'w gilydd, gan ddechrau ar y diwrnod y cafwyd y cais cyntaf, yn ganlyniad i'r ffaith bod y ceisydd, neu'r ceiswyr yn cydweithio, wedi cynllunio amseriad neu faint rhaglen y gwaith penodedig sy'n destun y ceisiadau er mwyn creu'r effaith leiaf ar ddefnyddwyr y strydoedd penodedig.

(5Mewn achos lle mae'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ganiatáu gostyngiad o 30% o leiaf ar gyfer pob un o'r ceisiadau.

Defnyddio'r symiau a geir fel ffioedd

32.  Rhaid i Awdurdod Trwyddedau ddefnyddio symiau a dalwyd fel ffioedd o dan y Rheoliadau hyn tuag at y costau hynny o weithredu'r gynllun trwyddedau sy'n gostau rhagnodedig.

RHAN 7Cofrestrau

Dyletswydd i gadw cofrestr

33.—(1Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau greu a chadw cofrestr o drwyddedau, neu beri i gofrestr o'r fath gael ei chreu a'i chadw, mewn cysylltiad ag unrhyw gynllun trwyddedau a gyflwynir ganddo o dan adran 33 o Ddeddf 2004 ac sydd i bob pwrpas o dan adran 34(4) o'r Ddeddf honno.

(2Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)enw pob stryd benodedig yn y cynllun hwnnw; a

(b)a yw'r strydoedd hynny wedi'u dynodi gan yr awdurdod strydoedd perthnasol o dan adran 61, 63 neu 64 o Ddeddf 1991(9) yn strydoedd a ddiogelir, strydoedd ag anawsterau arbennig o safbwynt peirianneg neu strydoedd sy'n sensitif i draffig;

ac unrhyw wybodaeth arall mewn perthynas â'r strydoedd y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a) y bydd yr Awdurdod Trwyddedau yn credu ei bod yn briodol.

(3Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau beri bod darpariaethau'r canlynol yn cael eu cofnodi yn y gofrestr —

(a)pob trwydded (wedi'i chydgrynhoi i ymgorffori unrhyw amrywiadau i'r drwydded);

(b)pob amrywiad i drwydded;

(c)pob amrywiad i amodau trwydded a phob dirymiad o amodau trwydded;

(ch)pob blaenawdurdodiad dros dro;

(d)pob cais am drwydded;

(dd)pob cais am amrywio trwydded;

(e)pob cais am flaenawdurdodiad dros dro;

(f)pob penderfyniad i wrthod rhoi trwydded;

(ff)pob penderfyniad i wrthod caniatáu amrywiad i drwydded;

(g)pob penderfyniad i wrthod rhoi blaenawdurdodiad dros dro;

(ng)pob trwydded y barnwyd ei bod wedi'i rhoi o dan reoliad 16, a phob blaenawdurdodiad dros dro, pob amrywiad i drwydded a phob amrywiad i amodau trwydded y barnwyd ei fod wedi'i roi, o dan reoliad 16; ac

(h)pob dirymiad o drwydded;

sy'n ymwneud â'r cynllun trwyddedau y mae'r gofrestr yn cael ei chadw ar ei gyfer.

(4Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau beri hefyd i'r canlynol gael ei gofnodi yn y gofrestr—

(a)pob hysbysiad a chydsyniad a roddir o dan adran 58(10) o Ddeddf 1991;

(b)pob hysbysiad a roddir o dan reoliad 5 o Reoliadau Gwaith Stryd (Taliadau am Feddiannaeth Afresymol o Estynedig ar y Briffordd) (Cymru) 2009(11);

(c)pob hysbysiad a chyfarwyddyd a roddir o dan Atodlen 3A (cyfyngu ar waith yn sgil gwaith stryd sylweddol)(12) i Ddeddf 1991;

(ch)disgrifiad o weithgareddau a'u lleoliad ar gyfer yr holl gynlluniau ac adrannau a disgrifiadau o waith a gyflwynir o dan baragraff 2(2), 3 neu 5 o Atodlen 4 (strydoedd ag anawsterau arbennig o safbwynt peirianneg)(13) i Ddeddf 1991;

(d)pob hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991;

(dd)pob trwydded gwaith stryd a ganiateir o dan adran 50(1) o Ddeddf 1991 (gan gynnwys manylion yr amodau sydd wedi'u gosod ar drwydded o'r fath a phob aseiniad o fudd trwydded o'r fath);

(e)pob hysbysiad a roddir o dan adran 70(3) neu (4A) (dyletswydd ar ymgymerwr i adfer)(14) o Ddeddf 1991;

(f)pob gwybodaeth a roddir o dan adran 80(2) (dyletswydd i hysbysu ymgymerwyr o leoliad offer)(15) o Ddeddf 1991; ac

(ff)pob hysbysiad a roddir o dan reoliad 6(3) o Reoliadau Gwaith Stryd (Rhannu Costau Gwaith) (Cymru) 2005(16);

sy'n ymwneud â stryd benodedig yn y cynllun trwyddedau hwnnw.

(5Caiff dau neu fwy o Awdurdodau Trwyddedau beri bod eu cofrestrau'n cael eu cyfuno.

Mynediad i'r gofrestr

34.—(1Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau drefnu bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim —

(a)i'r graddau y mae'n ymwneud â gwybodaeth gyfyngedig, gan unrhyw berson sydd ag awdurdod i gyflawni gwaith o unrhyw ddisgrifiad yn y stryd, neu y mae'n ymddangos fel arall i'r awdurdod fod ganddo fuddiant digonol, a

(b)i'r graddau y mae'n ymwneud â gwybodaeth nad yw wedi'i chyfyngu, gan unrhyw berson.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gwybodaeth gyfyngedig —

(a)yn wybodaeth yr ardystiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu gyda'i awdurdodiad, ei bod yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion diogelwch gwladol; neu

(b)yn wybodaeth yr ardystiwyd gan ymgymerwr, neu gyda'i awdurdodiad, ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu buddiannau masnachol yr ymgymerwr hwnnw, neu'n debygol o wneud hynny.

RHAN 8Deddfiadau Eraill

Cymhwyso'r Rhan hon

35.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i'r strydoedd penodedig mewn cynllun trwyddedau i'r graddau a bennir yn y gorchymyn a wnaed o dan adran 34(4) o Ddeddf 2004 mewn cysylltiad â'r cynllun trwyddedau hwnnw.

Datgymhwyso deddfiadau

36.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 1991 wedi'u datgymhwyo mewn perthynas â gwaith penodedig mewn strydoedd penodedig —

(a)adran 53 (y gofrestr gwaith stryd)(17);

(b)adran 54 (hysbysu ymlaen llaw o waith penodol);(18);

(c)adran 55 (hysbysu o ddyddiad dechrau gwaith)(19);

(ch)adran 56 (pŵer i roi cyfarwyddiadau ynghylch amseru gwaith stryd)(20);

(d)adran 57 (hysbysu o waith brys)(21); ac

(dd)adran 66 (osgoi oedi neu rwystro diangen)(22).

Addasu deddfiadau

37.—(1Mae darpariaethau canlynol Deddf 1991 wedi'u haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â gwaith penodedig mewn strydoedd penodedig.

(2Mae adran 58 yn cael effaith fel petai —

(a)yn is-adran (3)(d) y geiriau“applied for a provisional advance authorisation for street works to be carried out” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “given notice under section 54 (advance notice of certain works) of his intention to execute street works”; a

(b)is-adrannau (5) i (7A) wedi'u hepgor.

(3Mae adran 73A(2)(a) (a fydd, pan fo mewn grym, yn caniatáu i awdurdodau strydoedd ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr osod wyneb newydd ar strydoedd)(23) yn cael effaith fel petai'r geiriau “submitted an application for a permit or for a provisional advance authorisation in respect of specified works in a specified street” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “given notice under section 54 or 55 of, or made a notification under paragraph 2(1)(d) of Schedule 3A in respect of, proposed street works”.

(4Mae adran 74(24) yn cael effaith fel petai —

(a)y canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (2)—

(2ZA) For the purpose of the definition of “a reasonable period” in subsection (2), the specification in a permit (including as a result of a variation of the permit) of a period as one during which specified works may be carried out in a specified street —

(a)does not constitute agreement to a period by the authority and the undertaker, and

(b)is to be disregarded on an arbitration.; a

(b)is-adrannau (3) a (4) wedi'u hepgor.

(5Mae adran 88(4) (pontydd, awdurdodau pontydd a materion cysylltiedig)(25) yn cael effaith fel petai —

(a)y geiriau “submitting an application for a permit or for a provisional advance authorisation” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “giving notice under section 55 (notice of starting date), or making a notification under paragraph 2(1)(d) of Schedule 3A (notification of proposed works),” a

(b)y geiriau “or undertaking any works which are exempt from the requirement to be authorised by a permit” wedi'u mewnosod ar ôl y geiriau “to the works”.

(6Mae adran 89(2) (carthffosydd cyhoeddus, awdurdodau carthffosydd a materion cysylltiedig)(26) yn cael effaith fel petai —

(a)y geiriau “submitting an application for a permit or for a provisional advance authorisation” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “giving notice under section 55 (notice of starting date), or making a notification under paragraph 2(1)(d) of Schedule 3A (notification of proposed works),”, a

(b)y geiriau “or undertaking any works which are exempt from the requirement to be authorised by a permit” wedi'u mewnosod ar ôl y geiriau “to the works”.

(7Mae adran 93 (gwaith sy'n effeithio ar groesfannau rheilffordd neu dramffyrdd)(27) yn cael effaith fel petai —

(a)yn is-adran 2, y geiriau “send a copy of the application for a permit or for a provisional advance authorisation to the relevant transport authority at the same time as he or she sends the application to the Permit Authority” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau o “give the prescribed notice” i “under subsection (1) of that section”;

(b)yn is-adran (5), y geiriau “send a copy of the application for a permit or for a provisional advance authorisation to the relevant transport authority at the same time as he or she sends the application to the Permit Authority” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau o “give notice” i “under subsection (2) of that section”; ac

(c)y canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (5)—

(6) An undertaker who fails to comply with subsection (2) or (5) commits an offence and is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

(7) In proceedings against a person for such an offence it is a defence for him or her to show that—

(a)the failure was attributable to his or her not knowing the identity or address of a relevant transport authority, and

(b)his or her ignorance was not due to any negligence on his or her part or to any failure to make inquiries which he or she ought reasonably to have made..

(8Mae adran 105 (mân ddiffiniadau) yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl is-adran (5)—

(6) An expression used in this Part and in permit regulations within the meaning of section 37 of the Traffic Management Act 2004) has the same meaning in this Part as in those regulations..

(9Mae Atodlen 3A yn cael effaith fel petai —

(a)y canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (1) —

1.  This Schedule applies where a Permit Authority receives an application for a permit or for a provisional advance authorisation in respect of specified works in a specified street;

(b)ym mharagraff 2(1)(a) y geiriau “the works that are the subject of the application” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “the proposed works”;

(c)ym mharagraff 2(1)(b) y geiriau “specified works in the street to which the application relates” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “street works”;

(ch)ym mharagraff 2(1)(c) y gair “street” wedi'i roi yn lle'r gair “highway”;

(d)ym mharagraff 2(1)(d) —

(i)y gair “persons” wedi'i roi yn lle'r gair “undertakers”;

(ii)y geiriau “specified works in that part of the street” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “street works in that part of the highway”;

(iii)y geiriau “apply for a permit or provisional advance authorisation, as applicable, in respect of” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “notify the authority of”;

(dd)ym mharagraff 2(4) y gair “street” wedi'i roi yn lle'r gair “highway” ym mhob man y ceir y gair hwnnw;

(e)ym mharagraff 2(4)(d), y geiriau “applied for a permit or for a provisional advance authorisation in respect of specified works” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau o “given notice” i “street works”;

(f)is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 2 wedi'u hepgor;

(ff)paragraff 3 wedi'i hepgor;

(g)ym mharagraff 4(1) y geiriau “and before completion of the works referred to in paragraph 3(1)(a) to (c)” wedi'u hepgor;

(ng)ym mharagraff 4(2) y geiriau “the availability of permits in relation to the part of the street specified under paragraph 2(1)(c) for such period as may be specified in the direction” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau o “the execution” hyd at y diwedd;

(h)paragraff 4(4), (5) a (7) wedi'u hepgor;

(i)ym mharagraff 4(9) y geiriau “ceases to have effect by virtue of sub-paragraph (7), or” wedi'u hepgor; a

(j)y canlynol wedi'i roi yn lle paragraff 5 —

5.(1) This paragraph applies where —

(a)a direction under paragraph 4 has effect; and

(b)an application for a permit, or for a provisional advance authorisation, relating to the part of the street to which the direction relates is made after the expiry of the notice period.

(2) The Permit Authority must, when considering the application have regard to —

(a)whether the application could reasonably have been made during the notice period; and

(b)the desirability of ensuring that specified works are not carried out in that street during the period specified in the direction..

Addasu rheoliadau

38.  Mae paragraff 7(a) o'r Atodlen i Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008 yn cael effaith mewn perthynas â gwaith penodedig ar strydoedd penodedig fel petai'r geiriau “applied for a permit or for a provisional advance application in respect of specified” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “given notice under section 54 or section 55 of its intention to execute street”.

RHAN 9Amrywiol

Cyflwyno dogfennau, etc

39.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflawnir unrhyw ofyniad neu bŵer yn y Rheoliadau hyn neu mewn cynllun trwyddedau i anfon dogfen neu wybodaeth ac eithrio hysbysiad cosb benodedig drwy anfon y ddogfen neu'r wybodaeth honno gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig.

(2Pan fo person —

(a)wedi darparu i Awdurdod Trwyddedau gyfeiriad i hysbysiadau cosb benodedig gael eu cyflwyno iddo drwy ddefnyddio dull penodol ar gyfer trawsyrru cyfathrebiad electronig; a

(b)heb hysbysu'r Awdurdod Trwyddedau bod y cyfeiriad wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw;

rhaid i hysbysiad cosb benodedig gael ei roi iddo drwy ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r dull hwnnw, yn unol â'r gofynion a nodir ym mharagraff (4).

(3Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991, pan fo cyfathrebu electronig yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfon dogfen neu wybodaeth, yna, oni phrofir y gwrthwyneb, bernir bod y ddogfen neu'r wybodaeth wedi'i rhoi ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodwyd gan yr offer trawsyrru fel y diwrnod a'r amser y cwblhawyd y trawsyriant yn foddhaol.

(4Rhaid i gyfathrebiad electronig fod —

(a)yn un y mae modd i'r person yr anfonwyd ef ato ei gyrchu;

(b)yn ddarllenadwy; ac

(c)ar ffurf sy'n ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(5Pan na fo'n bosibl defnyddio cyfathrebiad electronig neu, mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig, pan na fo paragraff (2) yn gymwys, caniateir i'r cyflwyno gael ei wneud drwy unrhyw un o'r moddion canlynol —

(a)traddodi'r hysbysiad hwnnw i'r person y mae i'w roi iddo;

(b)ei adael yn ei briod gyfeiriad;

(c)ei anfon ato yn ei briod gyfeiriad drwy bost dosbarth cyntaf; neu

(ch)unrhyw fodd arall y bydd yr anfonydd a'r derbynnydd yn cytuno arno.

(6Priod gyfeiriad unrhyw berson at ddibenion y rheoliad hwn, a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (7)—

(a)pan fo'r person hwnnw wedi darparu i'r anfonydd gyfeiriad ar gyfer cyflwyno at ddibenion cynlluniau trwyddedau, yw'r cyfeiriad hwnnw;

(b)fel arall —

(i)yn achos corfforaeth, yw swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth honno; neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw.

(7Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o hysbysiad.

(8Pan na fo gan Awdurdod Trwyddedau drefniadau ar gyfer derbyn cyfathrebiadau ar unrhyw adeg y tu allan i oriau busnes, bernir bod unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan gynllun trwyddedau i anfon dogfen neu wybodaeth at yr Awdurdod Trwyddedau erbyn diwrnod penodol wedi'i fodloni os yw'r ddogfen neu'r wybodaeth wedi'i derbyn gan yr Awdurdod Trwyddedau cyn 10.00 o'r gloch ar y diwrnod gwaith canlynol.

(9Ym mharagraff (8), ystyr “oriau busnes” (“business hours”) yw'r cyfnod o 08.00 o'r gloch tan 16.30 o'r gloch ar ddiwrnod gwaith.

Peidio â chamwahaniaethu

40.  Heb ragfarnu gweithrediad Rhannau 5 a 6 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i Awdurdod Trwyddedau weithredu cynllun trwyddedau a wnaed ganddo heb gamwahaniaethu rhwng gwahanol ddosbarthiadau o geisydd am drwyddedau neu am flaenawdurdodiadau dros dro.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

19 Mai 2009

Rheoliad 23

ATODLEN 1FFURF AR HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG

Rheoliad 27

ATODLEN 2FFURF AR HYSBYSIAD SY'N TYNNU'N ÔL HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chynnwys cynlluniau trwyddedau a pharatoi, cyflwyno, cymeradwyo, gweithredu, amrywio a dirymu cynlluniau o'r fath, sydd wedi'u llunio i reoli'r broses o wneud gwaith stryd penodol a gwaith at ddibenion ffyrdd mewn strydoedd penodol o fewn ardal benodol.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol bod ymgynghori'n digwydd cyn bod un neu fwy o awdurdodau priffyrdd lleol (yr awdurdod trwyddedau) yn cyflwyno cynllun trwyddedau i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodedig fynd gydag unrhyw gyflwyniad o'r fath.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gais am amrywio neu ddirymu cynllun o'r fath fod yn destun yr un ymgynghori ymlaen llaw ag y cyfeirir ato yn rheoliad 3.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau bennu'r gwaith a fydd yn ddarostyngedig i reolaeth, yr ardal y mae'r rheolaeth honno i'w harfer ynddi a'r strydoedd lle mae'r rheolaeth honno i'w harfer. Mae rheoliad 8 yn darparu ymhellach fod yn rhaid i'r strydoedd hynny, gydag eithriadau posibl, fod yn briffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i gynllun trwyddedau wneud darpariaeth i drwyddedau gael eu sicrhau oddi wrth yr awdurdod trwyddedau cyn bod gwaith yn cael ei wneud ond rhaid iddo bennu hefyd y personau hynny a/neu o dan ba amgylchiadau nad yw'n ofynnol cael trwydded o'r fath. Os gofynnir amdanynt, rhaid darparu copïau o geisiadau am drwyddedau i'r awdurdodau perthnasol, sef yr awdurdodau pontydd, carthffosydd, strydoedd a thrafnidiaeth yn ogystal â phersonau sydd ag offer yn y stryd.

Mae rheoliad 10 yn datgan bod rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r Awdurdod Trwyddedau osod amodau ar drwyddedau ac mae'n pennu pa fathau o amodau y caniateir eu gosod. Rhaid i'r cynllun ganiatáu i drwydded gael ei dirymu pan fo amod sydd wedi'i osod ar y drwydded honno wedi'i dorri. Mae rheoliad 11 yn darparu y caiff cynlluniau gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r broses o wneud cais am drwydded. Os gofynnir amdanynt, rhaid darparu copïau o geisiadau o'r fath i'r awdurdodau perthnasol, sef yr awdurdodau pontydd, carthffosydd, strydoedd a thrafnidiaeth yn ogystal â phersonau sydd ag offer yn y stryd. Bydd awdurdodiad o'r fath yn rhoi awgrym o ba mor debygol yw hi y byddai'r cais cysylltiedig am drwydded yn cael ei gymeradwyo yn y dyfodol. Mae rheoliad 12 yn ymdrin â Rhif au cyfeirnod trwyddedau. Mae rheoliad 13 yn darparu y caiff cynlluniau bennu'r amodau a fyddai'n gymwys o ran gwaith na fydd angen, yn rhinwedd eithriadau yn y cynllun, trwydded ar ei gyfer cyn iddo gael ei gychwyn — neu caiff cynlluniau gynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r Awdurdod Trwyddedau i bennu amodau o'r fath.

Mae rheoliad 14 yn pennu'r materion y mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau roi sylw iddynt wrth ystyried cais am drwydded neu flaenawdurdodiad dros dro am waith, pan fo cais o'r fath yn dod i law yn ystod cyfnod pan fo'r broses o wneud gwaith stryd yn cael ei chyfyngu gan yr awdurdod strydoedd, oherwydd gwaith ffordd sylweddol yr ymgymerwyd ag ef yn gynharach yn y stryd sy'n destun y cais.

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau lwfio ar gyfer amrywio neu ddirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau. Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol wrth wneud cais am unrhyw amrywiad neu ddirymiad o'r fath a'r amser y mae'n rhaid ei hystyried ynddo gael eu nodi. Rhaid bod polisi'r awdurdod trwyddedau mewn cysylltiad ag adolygu, amrywio neu ddirymu trwyddedau ac amodau trwyddedau yn cael ei gynnwys yn y cynllun.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol bod terfynau amser ar gyfer ymateb i geisiadau am drwyddedau, blaenawdurdodiadau dros dro, amrywiadau i drwyddedau ac amrywiadau i amodau trwyddedau yn cael eu nodi yn y cynllun. Bydd methiant ar ran yr awdurdod trwyddedau i ymateb i unrhyw gais yn unol â'r terfynau amser hyn yn arwain at farnu bod y cais hwnnw wedi'i ganiatáu.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i bartïon sydd â buddiant gael eu hysbysu o leiaf 4 wythnos cyn bod cynllun yn dod yn weithredol yn ogystal â chyn iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu. Mae rheoliad 18 yn galluogi'r awdurdod trwyddedau i gymryd camau rhesymol i fynd i'r afael ag achosion lle ymgymerir â gwaith heb drwydded ofynnol neu gan dorri un o amodau trwydded. Mae rheoliadau 19 ac 20 yn darparu y bydd achosion o'r fath yn dramgwyddau ynadol hefyd a byddant yn peri dirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000) pan fo gwaith wedi'i wneud heb drwydded ofynnol neu ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 (£2,500) pan fo gwaith wedi'i wneud gan dorri un o amodau trwydded. Mae rheoliadau 21 i 28 yn darparu ar gyfer cynllun hysbysiad cosb benodedig fel dewis arall posibl yn lle atebolrwydd troseddol.

Mae rheoliad 29 yn ymdrin â chostau rhagnodedig. Mae rheoliadau 30 i 32 yn ymdrin â ffioedd a disgowntiau mewn perthynas â thrwyddedau. Mae awdurdodau priffyrdd yn esempt rhag ffioedd cynlluniau trwyddedau. Ni chodir ffioedd am ddyroddiad tybiedig neu amrywiad tybiedig, neu amrywiad na wnaed cais amdano gan ddeiliad y drwydded. Rhaid i gynlluniau nodi'r ystod o ffioedd sy'n daladwy a'r meini prawf sy'n gymwys pan fo ffioedd gwahanol yn daladwy mewn cysylltiad â gwaith gwahanol. Mae uchafsymiau'r ffioedd wedi'u pennu. Mewn achosion lle mae ceisiadau'n destun rhaglen a luniwyd i gael yr effaith leiaf ar gyfer defnyddwyr y stryd o ran amseriad neu faint, mae gostyngiad o 30% yn ofynnol ar gyfer pob un o'r ceisiadau.

Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestr o drwyddedau gael ei chreu a'i chadw ac i wybodaeth benodol gael ei chynnwys ynddi. Mae rheoliad 34 yn darparu bod rhaid i'r awdurdod trwyddedau drefnu bod modd i'r cyhoedd gael mynediad i'r gofrestr ac eithrio gwybodaeth yr ardystir ei bod yn gyfyngedig, a phryd hynny cedwir mynediad iddi o fewn terfynau.

Mae rheoliadau 35 i 38 yn darparu y caniateir i ddarpariaethau penodol yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008, drwy'r gorchymyn sy'n rhoi ei effaith i gynllun trwyddedau a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, gael eu cymhwyso, eu datgymhwyso neu eu haddasu yn y modd y maent yn gymwys i waith mewn strydoedd sy'n destun cynllun trwyddedau.

Drwy reoliad 39, mae darpariaeth wedi'i gwneud, sy'n galluogi hysbysiadau i gael eu cyflwyno drwy ddulliau electronig ac yn disgrifio drwy ba ffyrdd eraill y caniateir eu cyflwyno. Mae rheoliad 40 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trwyddedau weithredu cynlluniau trwyddedau heb gamwahaniaethu.

Mae'r ffurf ar hysbysiad cosb benodedig wedi'i rhagnodi yn Atodlen 1. Mae'r ffurf ar hysbysiad i dynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl wedi'i rhagnodi yn Atodlen 2.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael gan yr Uned Cyflawni Deddfwriaeth, Briffio a Pholisi, Yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Mae copi wedi'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn hwn ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru:

(2)

Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.

(6)

1984 p.27. Amnewidiwyd adran 14 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1991 (p.26), adran 1(1) ac Atodlen 1.

(7)

Diwygiwyd adran 58(1) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 51(1) a (2).

(9)

Diwygiwyd adran 64 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 81 ac Atodlen 7, paragraff 12, a chan Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 2004, adran 52(4).

(10)

Diwygiwyd adran 58 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 51 ac Atodlen 1.

(12)

Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 52(2) ac Atodlen 4.

(13)

Diwygiwyd Atodlen 4 gan Orchymyn Rheoli Traffig 2004, adran 40 ac Atodlen 1; gan Ddeddf Cyfathrebu 2003, adran 406 ac Atodlen 17, paragraff 108 ac Atodlen 19, paragraff 1; a chan Ddeddf Crynhoi Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 57.

(14)

Diwygiwyd adran 70 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 54(1) i (3).

(15)

Diwygiwyd adran 80 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 40 ac Atodlen 1. Mae wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adran 47(1) i (6) o'r Ddeddf honno.

(17)

Diwygiwyd adran 53 yn rhagolygol gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 45.

(18)

Diwygiwyd adran 54 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 49 ac Atodlen 1.

(19)

Diwygiwyd adran 55 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40, 49 a 51 ac Atodlen 1.

(20)

Diwygiwyd adran 56 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 43(3) ac Atodlen 1.

(21)

Diwygiwyd adran 57 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adrannau 40 a 52(3) ac Atodlen 1.

(22)

Diwygiwyd adran 66 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 40 ac Atodlen 1.

(23)

Diwygiwyd adran 73A yn rhagolygol gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 55(1).

(24)

Mewnosodwyd adran 74(2A) gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, adran 256.

(25)

Mewnosodwyd adran 88(4) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 52(6).

(26)

Diwygiwyd adran 89(2) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 52(7).

(27)

Mewnosodwyd adran 92(2) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 49(3).