Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1088 (Cy.96)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Gwnaed

27 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ebrill 2009

Yn dod i rym

28 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas รข pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

(1)

O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.