xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1027 (Cy.89) (C.60)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2009

Gwnaed

20 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2009.

2.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Y diwrnod penodedig

3.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Medi 2009:

(a)adran 4 (dyletswydd i enwi plant nad ydynt yn derbyn addysg);

(b)adran 164 (gwybodaeth am blant sy'n derbyn addysg a gyllidir y tu allan i ysgol);

(c)adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth a nodir ym mharagraff (ch);

(ch)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Addysg 1996 yn adran 437(8) y diffiniad o “suitable education”.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 4 a 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 1 Medi 2009.

Mae adran 4 yn mewnosod adran 436A newydd yn Neddf Addysg 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant yn eu hardal nad ydynt yn derbyn addysg addas.

Mae adran 164 yn mewnosod adran 537B newydd yn Neddf Addysg 1996. Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi am blant sy'n derbyn addysg y tu allan i ysgol ac a gyllidir gan awdurdod addysg lleol ac mae'n darparu ynghylch rhannu'r cyfryw wybodaeth.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 130 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 37(1) a (2)(a)30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 381 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 3930 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 401 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Adrannau 43—4530 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 4730 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 5330 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 559 Chwefror 20092009/49 (Cy.17)
Adran 15630 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 16630 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 17530 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol1 Medi 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 1730 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol30 Mehefin 20082008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol1 Medi 20082008/1429 (Cy.148)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (deufis yn ddiweddarach).

(1)

2006 p.40. Diwygiwyd adran 181 gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (2008 mccc 2).

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).