Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 789 (Cy.83)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008

Gwnaed

19 Mawrth 2008

Yn dod i rym

15 Ebrill 2008

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2008.

Diwygio

2.  Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn —

(a)yn erthygl 3, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn atodlen 1A.;

(b)yn erthygl 3, hepgorer paragraff (6);

(c)mewnosoder yr Atodlen a ganlyn —

ATODLEN 1AAMGYLCHIADAU PAN NA FO ERTHYGL 3 YN GYMWYS

Teithiau a wneir o fewn menter ffermio unigol

1.  Cludo anifeiliaid o fewn menter ffermio unigol o dan un berchenogaeth.

Teithiau rhwng yr un ddau bwynt

2.(1) Cludo anifeiliaid —

(a)rhwng yr un ddau bwynt;

(b)yn ystod un diwrnod; ac

(c)mewn cyfrwng cludo a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig,

os cydymffurfir ag erthygl 3 o ran y teithiau cyntaf ac olaf yn ystod diwrnod.

(2) Yn y paragraff hwn, mae cludo anifeiliaid yn digwydd yn ystod un diwrnod hyd yn oed os —

(a)dechreuir y daith olaf ond nas cwblheir ar y diwrnod dan sylw; a

(b)yn achos anifail carnog a fu'n cymryd rhan mewn digwyddiad a ddigwyddodd neu'n sy'n parhau i ddigwydd yn noswaith y diwrnod dan sylw, yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos ai peidio.

(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy set o safleoedd gwerthu.

Teithiau yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw

3.  Cludo anifeiliaid o'u mangre tarddiad i sioe da byw ac yn ôl, mewn amgylchiadau heblaw'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 2, os—

(a)yw'r cyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo'r anifeiliaid hynny yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe ac nad yw'n ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;

(b)yr unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo yn y sioe yw'r anifeiliaid a gludodd i'r sioe;

(c)defnyddir y cyfrwng cludo yn unig i gludo, ar y daith yn ôl, anifeiliaid a gludwyd ynddo i'r sioe; ac

(ch)dychwelir y cyfrwng cludo o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.

Dadlwytho dros dro.

4.  Pan fo anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho o gyfrwng cludo yn unig er mwyn cael bwyd neu ddŵr, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac yna eu hail-lwytho..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 (OS 2003/1968) (Cy.213) fel —

(a)nad yw gofynion glanhau a diheintio erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i deithiau penodol a wneir o fewn menter ffermio unigol, rhwng yr un ddau bwynt ac yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw; a

(b)y dileir y rhwymedigaeth yn erthygl 3(6) o'r Gorchymyn hwnnw symud ymaith unrhyw anifail sy'n marw wrth iddo gael ei gludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.