2008 Rhif 789 (Cy.83)
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 7 a 37 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac a freiniwyd ynddynt bellach1, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2008.
Diwygio2
Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 20032 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn —
a
yn erthygl 3, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
1A
Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn atodlen 1A.
b
yn erthygl 3, hepgorer paragraff (6);
c
mewnosoder yr Atodlen a ganlyn —
ATODLEN 1AAMGYLCHIADAU PAN NA FO ERTHYGL 3 YN GYMWYS
Teithiau a wneir o fewn menter ffermio unigol1
Cludo anifeiliaid o fewn menter ffermio unigol o dan un berchenogaeth.
Teithiau rhwng yr un ddau bwynt2
1
Cludo anifeiliaid —
a
rhwng yr un ddau bwynt;
b
yn ystod un diwrnod; ac
c
mewn cyfrwng cludo a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig,
os cydymffurfir ag erthygl 3 o ran y teithiau cyntaf ac olaf yn ystod diwrnod.
2
Yn y paragraff hwn, mae cludo anifeiliaid yn digwydd yn ystod un diwrnod hyd yn oed os —
a
dechreuir y daith olaf ond nas cwblheir ar y diwrnod dan sylw; a
b
yn achos anifail carnog a fu'n cymryd rhan mewn digwyddiad a ddigwyddodd neu'n sy'n parhau i ddigwydd yn noswaith y diwrnod dan sylw, yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos ai peidio.
3
Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy set o safleoedd gwerthu.
Teithiau yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw3
Cludo anifeiliaid o'u mangre tarddiad i sioe da byw ac yn ôl, mewn amgylchiadau heblaw'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 2, os—
a
yw'r cyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo'r anifeiliaid hynny yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe ac nad yw'n ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
b
yr unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo yn y sioe yw'r anifeiliaid a gludodd i'r sioe;
c
defnyddir y cyfrwng cludo yn unig i gludo, ar y daith yn ôl, anifeiliaid a gludwyd ynddo i'r sioe; ac
ch
dychwelir y cyfrwng cludo o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
Dadlwytho dros dro.4
Pan fo anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho o gyfrwng cludo yn unig er mwyn cael bwyd neu ddŵr, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac yna eu hail-lwytho.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)