- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
19 Mawrth 2008
Yn dod i rym
15 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 7 a 37 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac a freiniwyd ynddynt bellach(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2008.
2. Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn —
(a)yn erthygl 3, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
“(1A) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn atodlen 1A.”;
(b)yn erthygl 3, hepgorer paragraff (6);
(c)mewnosoder yr Atodlen a ganlyn —
1. Cludo anifeiliaid o fewn menter ffermio unigol o dan un berchenogaeth.
2.—(1) Cludo anifeiliaid —
(a)rhwng yr un ddau bwynt;
(b)yn ystod un diwrnod; ac
(c)mewn cyfrwng cludo a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig,
os cydymffurfir ag erthygl 3 o ran y teithiau cyntaf ac olaf yn ystod diwrnod.
(2) Yn y paragraff hwn, mae cludo anifeiliaid yn digwydd yn ystod un diwrnod hyd yn oed os —
(a)dechreuir y daith olaf ond nas cwblheir ar y diwrnod dan sylw; a
(b)yn achos anifail carnog a fu'n cymryd rhan mewn digwyddiad a ddigwyddodd neu'n sy'n parhau i ddigwydd yn noswaith y diwrnod dan sylw, yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy set o safleoedd gwerthu.
3. Cludo anifeiliaid o'u mangre tarddiad i sioe da byw ac yn ôl, mewn amgylchiadau heblaw'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 2, os—
(a)yw'r cyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo'r anifeiliaid hynny yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe ac nad yw'n ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
(b)yr unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo yn y sioe yw'r anifeiliaid a gludodd i'r sioe;
(c)defnyddir y cyfrwng cludo yn unig i gludo, ar y daith yn ôl, anifeiliaid a gludwyd ynddo i'r sioe; ac
(ch)dychwelir y cyfrwng cludo o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
4. Pan fo anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho o gyfrwng cludo yn unig er mwyn cael bwyd neu ddŵr, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac yna eu hail-lwytho.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 (OS 2003/1968) (Cy.213) fel —
(a)nad yw gofynion glanhau a diheintio erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i deithiau penodol a wneir o fewn menter ffermio unigol, rhwng yr un ddau bwynt ac yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw; a
(b)y dileir y rhwymedigaeth yn erthygl 3(6) o'r Gorchymyn hwnnw symud ymaith unrhyw anifail sy'n marw wrth iddo gael ei gludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn.
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: