xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 743 (Cy.78)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

12 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mawrth 2008

Yn dod i rym

7 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt (2) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2008.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol

2.  Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(4) yw £21.38 yr wythnos.

Dirymu

3.  Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6(2) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007(5) drwy hyn wedi'u dirymu.

Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau

4.  Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur “ £17,250” rhodder y ffigur “£19,000” yn y ddau le y mae'n ymddangos.

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau

5.  Ym mharagraff 28H—

(a)yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.25” rhodder y ffigur “£5.45” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a

(b)yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£7.85” rhodder y ffigur “£8.15” ym mhob lle y mae'n ymddangos.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”), ei angen at eu hanghenion personol. O 7 Ebrill 2008 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £21.38 yr wythnos.

Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan y Ddeddf.

Mae'r diwygiadau yn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfyn cyfalaf isaf a chynnydd yn y swm o gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru.

(1)

1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o “the minister” a “prescribed” yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.