2008 Rhif 743 (Cy.78)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19481 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt 2 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2008.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 19923.

4

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau y mae eu hangen at anghenion personol2

Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19484 yw £21.38 yr wythnos.

Dirymu3

Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6(2) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 20075 drwy hyn wedi'u dirymu.

Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau4

Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur “ £17,250” rhodder y ffigur “£19,000” yn y ddau le y mae'n ymddangos.

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau5

Ym mharagraff 28H—

a

yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£5.25” rhodder y ffigur “£5.45” ym mhob lle y mae'n ymddangos; a

b

yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£7.85” rhodder y ffigur “£8.15” ym mhob lle y mae'n ymddangos.

Gwenda ThomasO dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”), ei angen at eu hanghenion personol. O 7 Ebrill 2008 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £21.38 yr wythnos.

Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan y Ddeddf.

Mae'r diwygiadau yn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfyn cyfalaf isaf a chynnydd yn y swm o gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru.