Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 7 (Cy.3)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

7 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Ionawr 2008

Yn dod i rym

2 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(3) a (4A) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(3).

Enwi, cymhwyso a cychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993

2.—(1Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd “Unoccupied Property Rating”, yn lle “50 per cent”, rhodder “100 per cent”.

(3Ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd “Ardrethu Eiddo Di-ddeiliad”, yn lle “50 y cant”, rhodder “100 y cant”.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy'n daladwy ar gyfer unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2008.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

7 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau bwrdeistref a chynghorau sir) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i'w darparu pan fo hysbysiadau o'r fath yn cael eu cyflwyno ganddynt.

Disodlodd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (OS 2007/3343 (Cy.295)) Atodlen 2 i Reoliadau 1993 sy'n pennu'r wybodaeth sydd i'w darparu pan fo hysbysiadau galw am dalu yn cael eu hanfon gan awdurdodau bilio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr wybodaeth benodedig i adlewyrchu'r newid a wnaed i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41) gan Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p.9) sy'n darparu, oni fydd Gweinidogion Cymru yn gorchymyn fel arall, y byddai'r atebolrwydd normal ar gyfer hereditament heb ei feddiannu yr un fath â'r un ar gyfer hereditament wedi'i feddiannu.

Dim ond mewn perthynas ag ardrethi sy'n daladwy ar ôl 31 Mawrth 2008 y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources