2008 Rhif 685 (Cy.72)
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus fod—
y cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at—
Erthygl 55(1)(a),
Erthygl 55(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â llaeth a chynhyrchion llaeth eraill, a
y darpariaethau, neu ddarpariaethau y cyfeirir atynt, yn Adran III o Bennod III o Ran II,
o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac ar ddarpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol gosodedig (Rheoliad Sengl CMO)3; a
y cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth4,
i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr Erthyglau a'r darpariaethau hynny ac at y Rheoliad Comisiwn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi5.