- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailwneud rheoliadau 1 i 4 o Reoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/739) (Cy.67). Gwneir hyn oherwydd bod paragraff 15 o Atodlen 4 i Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16) wedi'i gychwyn gan Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3371) (C.141) a thrwy rinwedd y rhain Gweinidogion Cymru bellach yw'r person priodol o ran adrannau 43(A)(4) a (5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p.38).
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r ystodau y mae'n ofynnol i symiau o gosbau penodedig arbennig y gellir eu pennu (yn lle'r swm a ragnodwyd yn y ddeddfwriaeth berthnasol) gan awdurdod lleol (yn ôl disgrifiadau amrywiol yn y ddeddfwriaeth berthnasol) ddod o fewn eu cwmpas (rheoliad 2).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi lleiafswm y gosb benodedig y caiff awdurdod lleol (os yw'n dewis gwneud hynny) ei drin fel taliad llawn o gosb benodedig pan fydd swm llai na'r swm llawn a ragnodwyd (p'un a yw hwn yn swm a bennir yn lleol gan yr awdurdod, neu'r swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol) yn cael ei dalu o fewn y cyfryw gyfnod (rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn llai nag 14 o ddiwrnodau) y caiff yr awdurdod lleol ei bennu yn yr hysbysiad (rheoliad 3).
Yn unol â hynny, o ran hysbysiad o gosb benodedig y gellir ei ddyroddi am dramgwyddau penodol y swm a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £75, mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £75 a £150 (rheoliad 2(1)). Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y swm llai hwnnw yn llai na £50 (rheoliad 3(1)).
O ran tramgwyddau penodol eraill, swm y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £100, mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi y bydd yr ystod y caiff awdurdod lleol ddewis pennu ei swm ei hun y gellir ei gymhwyso'n lleol o fewn ei chwmpas rhwng £100 a £150 (rheoliad 2(2)). O ran unrhyw o'r tramgwyddau hynny, os bydd awdurdod lleol yn penderfynu trin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod yn rhaid i'r swm llai hwnnw beidio â bod yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(a), (b) ac (c)).
O ran tramgwyddau eraill, symiau y gosb benodedig a ragnodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar eu cyfer yw £100, £200 a £300 yn eu trefn (ond ym mhob achos heb gyfleusterau i awdurdod bennu swm gwahanol y gellir ei gymhwyso'n lleol), caiff awdurdod barhau i drin swm llai a gaiff ei dalu o fewn cyfnod penodedig fel taliad llawn o'r gosb benodedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y symiau llai hynny yn llai na £60 (rheoliad 3(2)(ch), £120 (rheoliad 3(3) neu £180 (rheoliad 3(4)) yn eu trefn.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi'r amod y mae'n rhaid ei fodloni cyn y caiff person ei awdurdodi gan gyngor cymuned at ddibenion rhoi hysbysiad o gosb benodedig o dan naill ai adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 43(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, neu adran 59 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Yr amod yw bod yn rhaid i berson gwblhau cwrs hyfforddi mewn cosbau penodedig (rheoliad 4).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio enw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosbau Penodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007. Enw diwygiedig y Rheoliadau hynny yw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Defnyddio Derbynebau Cosbau Penodedig) (Cymru) 2007 (rheoliad 6).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: