- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
10 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 129 a 203 (9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (2).
2. Diwygir rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn —
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£50.50” rhodder “£51.90”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”.
3.—(1) Diwygir Atodlenni 1 i 3 o'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau talebau a gwerth taleb ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) o'r tabl (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:
| (1) | (2) |
|---|---|
| Swm blaenorol | Swm newydd |
| £34.60 | £35.50 |
| £52.60 | £54.00 |
| £76.90 | £79.00 |
| £173.70 | £178.40 |
| £59.80 | £61.40 |
| £76.00 | £78.10 |
| £98.50 | £101.20 |
| £190.90 | £196.10 |
| £177.90 | £182.70. |
| £50.50 | £51.90 |
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.30” rhodder “£11.60”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) yn lle “£13.50” rhodder “£13.90”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£3.80” rhodder “£3.90”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.30” rhodder “£4.40”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£57.00”, “£50.50” a “£27.30” rhodder “£58.50”, “£51.90” a “£28.00” yn eu trefn;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£57.00” rhodder “£58.50”;
(e)ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.00” rhodder “£13.40”; a
(f)ym mharagraff 2(b), yn lle “£33.00” rhodder “£33.90”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
4. Nid yw'r symiau a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2008
Rheoliad 3(4)
Regulation 19(2) and (3)
| (1) | (2) | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nature of Repair | Letter of Codes —Values | ||||||||
| A | B | C | D | E | F | G | H | I | |
| £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
| Repair or replacement of one lens | 11.05 | 20.30 | 32.80 | 82.50 | 24.00 | 32.35 | 43.90 | 91.35 | 84.65 |
| Repair or replacement of two lenses | 22.10 | 40.60 | 65.60 | 165.00 | 48.00 | 64.70 | 87.80 | 182.70 | 169.30 |
| Repair or replacement of: | |||||||||
| The front of a frame | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 | 11.35 |
| A side of a frame | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 | 6.75 |
| The whole frame | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40 | 13.40.” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) , sy'n darparu bod taliadau i'w gwneud drwy system dalebau o ran y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 er mwyn cynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at y gost o ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.
Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.7% yw graddfa'r cynnydd yng ngwerth y talebau yn y Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: