- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
Mae adran 76 o Ddeddf 2004 yn galluogi awdurdodau lleol i benodi swyddogion gorfodi sifil sy'n ymgymryd â gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae'n darparu bod swyddog parcio a benodwyd o dan adran 63A o Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn swyddog gorfodi sifil mewn perthynas â thramgwyddau parcio ac y gellir hefyd ei benodi yn swyddog gorfodi sifil mewn perthynas â thramgwyddau traffig ffyrdd eraill sy'n ddarostyngedig i orfodi sifil yn ardal yr awdurdod lleol (y cyfeirir ato yn Neddf 2004 fel yr “enforcement authority” (“awdurdod gorfodi”) priodol.
Mae adran 76(3) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gorfodi wisgo lifrai o'r math a bennir gan yr awdurdod gorfodi pan fo'n arfer swyddogaethau penodedig.
Mae adran 76(4) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gwladol priodol wneud rheoliadau yn pennu'r swyddogaethau hynny na chaiff swyddog gorfodi sifil eu gwneud ond tra bo'n gwisgo lifrai.
Yn unol ag adran 76(4), mae'r Rheoliadau hyn yn pennu, o ran Cymru, yn unol ag adran 76(3) o'r Ddeddf honno, pa rai o swyddogaethau'r swyddogion gorfodi sifil a benodwyd o dan Ran 6 o Ddeddf 2004, na chaiff y swyddogion hynny eu gwneud ond tra bo'n gwisgo lifrai. Pennir y swyddogaethau drwy gyfeirio at ddarpariaethau sy'n rhoi'r swyddogaethau hynny i'r swyddogion gorfodi neu sy'n sail i'w rhoi iddynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: