Search Legislation

Rheoliadau Swyddogion Gorfodi Sifil (Gwisgo Lifrai) (Cymru) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 616 (Cy.68)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Swyddogion Gorfodi Sifil (Gwisgo Lifrai) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 76(4) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Gorfodi Sifil (Gwisgo Lifrai) (Cymru) 2008; deuant i rym ar 31 Mawrth 2008 ac maent yn gymwys i Gymru.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004.

Swyddogaethau penodedig

2.—(1Mae pob swyddogaeth a roddir i swyddogion gorfodi gan y deddfiadau a bennir ym mharagraff (2) neu oddi tanynt yn swyddogaeth ddynodedig at ddibenion adran 76(3)(a) o Ddeddf 2004.

(2Y deddfiadau hynny yw—

(a)adran 78(2)(a) a (b) o Ddeddf 2004;

(b)adran 79 o Ddeddf 2004; ac

(c)adran 99 o Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(3).

Ieuan Wyn Jones

Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) yn darparu ar gyfer gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, a lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Mae adran 76 o Ddeddf 2004 yn galluogi awdurdodau lleol i benodi swyddogion gorfodi sifil sy'n ymgymryd â gorfodi tramgwyddau parcio yn sifil. Mae'n darparu bod swyddog parcio a benodwyd o dan adran 63A o Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn swyddog gorfodi sifil mewn perthynas â thramgwyddau parcio ac y gellir hefyd ei benodi yn swyddog gorfodi sifil mewn perthynas â thramgwyddau traffig ffyrdd eraill sy'n ddarostyngedig i orfodi sifil yn ardal yr awdurdod lleol (y cyfeirir ato yn Neddf 2004 fel yr “enforcement authority” (“awdurdod gorfodi”) priodol.

Mae adran 76(3) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gorfodi wisgo lifrai o'r math a bennir gan yr awdurdod gorfodi pan fo'n arfer swyddogaethau penodedig.

Mae adran 76(4) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gwladol priodol wneud rheoliadau yn pennu'r swyddogaethau hynny na chaiff swyddog gorfodi sifil eu gwneud ond tra bo'n gwisgo lifrai.

Yn unol ag adran 76(4), mae'r Rheoliadau hyn yn pennu, o ran Cymru, yn unol ag adran 76(3) o'r Ddeddf honno, pa rai o swyddogaethau'r swyddogion gorfodi sifil a benodwyd o dan Ran 6 o Ddeddf 2004, na chaiff y swyddogion hynny eu gwneud ond tra bo'n gwisgo lifrai. Pennir y swyddogaethau drwy gyfeirio at ddarpariaethau sy'n rhoi'r swyddogaethau hynny i'r swyddogion gorfodi neu sy'n sail i'w rhoi iddynt.

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

1984 p. 27; diwygiwyd adran 99 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40), Atodlen 4, paragraff 32, Atodlen 8. Cafodd swyddogaethau o dan adran 99 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (OS 2004/3044) gydag eithriadau mewn perthynas â'r rhan honno o draffordd yr M4 a elwir “the New Toll Plaza area” a “the new Bridge” fel y'i diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992 (p.3) a'r rhan honno o'r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth a ddisgrifir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cefnffordd Man i'r Gogledd o Almondsbury — Man i'r De o Haysgate 1947 (O.S. 1947/1562) ac y cyfeirir ati yn Gorchymyn fel “the new road”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources