- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, (terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud) os bydd gan swyddog gorfodi sifil reswm i gredu y caniatawyd i gerbyd aros yn ei unfan yn unrhyw fan mewn ardal gorfodi sifil mewn amgylchiadau pan fo tâl cosb wedi dod yn daladwy, caiff y swyddog neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd osod dyfais sy'n atal y cerbyd rhag symud tra erys yn y man lle y daethpwyd o hyd iddo.
(2) Ar unrhyw achlysur pan osodir dyfais ar gerbyd sy'n ei rwystro rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hefyd ar y cerbyd hysbysiad—
(a)sy'n dangos bod dyfais o'r fath wedi cael ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid ceisio ei yrru neu fel arall beri iddo symud hyd nes y rhyddheir ef oddi wrth y ddyfais honno;
(b)sy'n pennu'r camau i'w cymryd er mwyn sicrhau ei ryddhad; ac
(c)sy'n rhybuddio bod symud dyfais sy'n (this should say unlawful removal) rhwystro cerbyd rhag symud yn dramgwydd.
(3) Rhaid peidio â thynnu neu ymyrryd â hysbysiad a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r adran hon ac eithrio gan neu o dan awdurdod—
(a)y perchennog, neu'r person sydd â rheolaeth dros y cerbyd; neu
(b)yr awdurdod gorfodi.
(4) Mae person sy'n mynd yn groes i baragraff (3) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.
(5) Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn, yn tynnu neu'n ceisio tynnu dyfais a osodwyd i rwystro cerbyd rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: