- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” ym mharagraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) o ran tâl cosb neu atal cerbyd rhag symud neu symud cerbyd ymaith yw'r awdurdod gorfodi o ran y tramgwydd honedig y codwyd tâl neu yr ataliwyd y cerbyd rhag symud o ganlyniad iddo;
ystyr “awdurdodau gorfodi Cymru” (“the Welsh enforcement authorities”) yw'r awdurdodau gorfodi hynny sy'n awdurdodau lleol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;
mae i “dyfais a gymeradwyir” (“approved device”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 2 o Orchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008(1);
ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan reoliad 9 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu
dehonglir “dyledus” (“outstanding”) o ran tâl cosb yn unol â pharagraffau (2) i (4);
mae i “hysbysiad o dâl cosb” (“penalty charge notice”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4 o Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
“hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb” (“regulation 6 penalty charge notice”) yw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
mae “perchennog” (“owner”) o ran cerbyd yn cynnwys unrhyw berson sydd i'w drin fel perchennog y cerbyd yn rhinwedd rheoliad 4;
ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(2);
ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008(3);
mae i “swyddog gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement officer” yn adran 76 o Ddeddf 2004;
ystyr “tâl cosb” (“penalty charge”) yw tâl cosb ynghylch tramgwydd parcio ac sy'n daladwy yn unol â rheoliad 3; ac
ystyr “tramgwydd croesfan i gerddwyr” (“pedestrian crossing contravention”) yw tramgwydd parcio sy'n dramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (gwahardd cerbydau rhag stopio ar neu gerllaw croesfannau i gerddwyr).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn ddyledus o ran cerbyd—
(a)os na chafodd y tâl ei dalu ac nad yw'r awdurdod gorfodi y mae'r tâl yn daladwy iddo wedi hepgor taliad, p'un ai drwy ddiddymu'r hysbysiad o dâl cosb neu hysbysiad i'r perchennog neu fel arall;
(b)os perchennog y cerbyd pan oedd wedi'i atal rhag symud oedd hefyd yn berchennog y cerbyd pan osodwyd y tâl cosb; ac
(c)naill ai—
(i)os cafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglyn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi'u bodloni; neu
(ii)os na chafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglŷn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (4) wedi'u bodloni.
(3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i)—
(a)bod y tâl cosb wedi ei osod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan awdurdod gorfodi o ran tramgwydd parcio;
(b)bod y tâl cosb yn destun tystysgrif dâl a gyflwynwyd o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu na chafodd ei roi o'r neilltu yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau hynny.
(4) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii)—
(a)bod y tâl cosb yn ymwneud â cherbyd, a oedd pan ddaeth y tâl cosb yn daladwy—
(i)heb ei gofrestru o dan Ddeddf Tollau a Chofrestru Cerbydau 1994(4); neu
(ii)wedi ei gofrestru, ond heb gynnwys yn y manylion cofrestru enw a chyfeiriad cywir ceidwad y cerbyd;
(b)ar ôl cymryd pob cam rhesymol, nad oedd yr awdurdod gorfodi yr oedd y tâl cosb yn daladwy iddo yn gallu canfod enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd ac o ganlyniad nad oedd yn gallu cyflwyno hysbysiad i'r perchennog o dan hysbysiad rheoliad 11 neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb; ac
(c)bod y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daw'r tâl cosb yn daladwy wedi dod i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: