Search Legislation

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 614 (Cy.66)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mawrth 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2008

Yn dod i rym

31 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 72, 73(3), 79, 88 a 89 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “ardal gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement area” ym mharagraff 8 o Atodlen 8 i Ddeddf 2004;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) o ran tâl cosb neu atal cerbyd rhag symud neu symud cerbyd ymaith yw'r awdurdod gorfodi o ran y tramgwydd honedig y codwyd tâl neu yr ataliwyd y cerbyd rhag symud o ganlyniad iddo;

  • ystyr “awdurdodau gorfodi Cymru” (“the Welsh enforcement authorities”) yw'r awdurdodau gorfodi hynny sy'n awdurdodau lleol yng Nghymru;

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;

  • mae i “dyfais a gymeradwyir” (“approved device”) yr ystyr a roddir iddo gan erthygl 2 o Orchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008(3);

  • ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan reoliad 9 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu

  • dehonglir “dyledus” (“outstanding”) o ran tâl cosb yn unol â pharagraffau (2) i (4);

  • mae i “hysbysiad o dâl cosb” (“penalty charge notice”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4 o Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;

  • “hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb” (“regulation 6 penalty charge notice”) yw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;

  • mae “perchennog” (“owner”) o ran cerbyd yn cynnwys unrhyw berson sydd i'w drin fel perchennog y cerbyd yn rhinwedd rheoliad 4;

  • ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(4);

  • ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008(5);

  • mae i “swyddog gorfodi sifil” yr ystyr a roddir i “civil enforcement officer” yn adran 76 o Ddeddf 2004;

  • ystyr “tâl cosb” (“penalty charge”) yw tâl cosb ynghylch tramgwydd parcio ac sy'n daladwy yn unol â rheoliad 3; ac

  • ystyr “tramgwydd croesfan i gerddwyr” (“pedestrian crossing contravention”) yw tramgwydd parcio sy'n dramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (gwahardd cerbydau rhag stopio ar neu gerllaw croesfannau i gerddwyr).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn ddyledus o ran cerbyd—

(a)os na chafodd y tâl ei dalu ac nad yw'r awdurdod gorfodi y mae'r tâl yn daladwy iddo wedi hepgor taliad, p'un ai drwy ddiddymu'r hysbysiad o dâl cosb neu hysbysiad i'r perchennog neu fel arall;

(b)os perchennog y cerbyd pan oedd wedi'i atal rhag symud oedd hefyd yn berchennog y cerbyd pan osodwyd y tâl cosb; ac

(c)naill ai—

(i)os cafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglyn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi'u bodloni; neu

(ii)os na chafodd hysbysiad i'r perchennog neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb ei chyflwyno ynglŷn â'r tâl a bod yr amodau ym mharagraff (4) wedi'u bodloni.

(3Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(i)—

(a)bod y tâl cosb wedi ei osod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan awdurdod gorfodi o ran tramgwydd parcio;

(b)bod y tâl cosb yn destun tystysgrif dâl a gyflwynwyd o dan reoliad 13 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu na chafodd ei roi o'r neilltu yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau hynny.

(4Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)(ii)—

(a)bod y tâl cosb yn ymwneud â cherbyd, a oedd pan ddaeth y tâl cosb yn daladwy—

(i)heb ei gofrestru o dan Ddeddf Tollau a Chofrestru Cerbydau 1994(6); neu

(ii)wedi ei gofrestru, ond heb gynnwys yn y manylion cofrestru enw a chyfeiriad cywir ceidwad y cerbyd;

(b)ar ôl cymryd pob cam rhesymol, nad oedd yr awdurdod gorfodi yr oedd y tâl cosb yn daladwy iddo yn gallu canfod enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd ac o ganlyniad nad oedd yn gallu cyflwyno hysbysiad i'r perchennog o dan hysbysiad rheoliad 11 neu hysbysiad rheoliad 6 o dâl cosb; ac

(c)bod y cyfnod o 42 o ddiwrnodau sy'n dechrau gyda'r dyddiad y daw'r tâl cosb yn daladwy wedi dod i ben.

RHAN 2TALIADAU COSB

Gosod taliadau cosb

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn daladwy o ran cerbyd y cyflawnwyd yn ei gylch dramgwydd parcio o fewn paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn ardal gorfodi sifil yng Nghymru.

Y person sydd i dalu tâl cosb

4.—(1Pan fydd tramgwydd parcio'n digwydd, penderfynir pwy yw'r person sydd i dalu'r tâl cosb am y tramgwydd yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.

(2Mewn achos nad yw'n dod o fewn paragraff (3), bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person a oedd yn berchennog y cerbyd a oedd yn destun y tramgwydd ar yr adeg berthnasol.

(3Os bydd—

(a)y cerbyd yn gerbyd a yrrir yn fecanyddol a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn cael ei logi gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi;

(b)y person sy'n llogi'r cerbyd wedi llofnodi datganiad yn cydnabod ei atebolrwydd o ran unrhyw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n ymwneud â'r cerbyd yn ystod cyfnod y cytundeb llogi; ac

(c)perchennog y cerbyd, mewn ymateb i hysbysiad i berchennog a gyflwynir iddo, wedi gwneud sylwadau ar y sail a bennir yn rheoliad 4(4)(ch) o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau a bod yr awdurdod gorfodi wedi derbyn y sylwadau hynny,

bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person y llogwyd y cerbyd ganddo ac ymdrinnir â'r person hwnnw fel pe bai'n berchennog y cerbyd ar yr adeg berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “cytundeb llogi” a “ffyrm llogi cerbydau” yr ystyr sydd i “hiring agreement” a “vehicle-hire firm” yn adran 66 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(7); a

(b)ystyr “yr adeg berthnasol” (“the material time”) yw'r adeg y dywedir bod y tramgwydd sy'n peri'r tâl cosb wedi digwydd.

Tystiolaeth o dramgwydd

5.  Ni osodir tâl cosb ac eithrio—

(a)ar y sail y cynhyrchir cofnod gan ddyfais a gymeradwyir; neu

(b)ar sail yr wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw wedi sylwi arno.

Achosion troseddol am dramgwyddau parcio mewn ardaloedd gorfodi sifil

6.—(1Ni cheir cychwyn achos troseddol ac ni cheir cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n digwydd mewn ardal gorfodi sifil, ac eithrio tramgwydd croesfan i gerddwyr.

(2Ni fydd tâl cosb yn daladwy o ran tramgwydd croesfan i gerddwyr—

(a)os yw'r ymddygiad sy'n gwneud y tramgwydd yn destun achos troseddol; neu

(b)os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig, fel y'i diffinnir gan adran 52 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(8), ynglŷn â'r ymddygiad hwnnw.

(3Er gwaethaf darpariaethau paragraff (2)—

(a)os talwyd tâl cosb ynglyn â thramgwydd croesfan i gerddwyr ; a

(b)os yw'r amgylchiadau fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b),

rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau ddod i'w sylw, ad-dalu swm y tâl cosb.

RHAN 3ATAL CERBYDAU RHAG SYMUD

Pŵer i atal cerbydau rhag symud

7.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 8, (terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud) os bydd gan swyddog gorfodi sifil reswm i gredu y caniatawyd i gerbyd aros yn ei unfan yn unrhyw fan mewn ardal gorfodi sifil mewn amgylchiadau pan fo tâl cosb wedi dod yn daladwy, caiff y swyddog neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd osod dyfais sy'n atal y cerbyd rhag symud tra erys yn y man lle y daethpwyd o hyd iddo.

(2Ar unrhyw achlysur pan osodir dyfais ar gerbyd sy'n ei rwystro rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hefyd ar y cerbyd hysbysiad—

(a)sy'n dangos bod dyfais o'r fath wedi cael ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid ceisio ei yrru neu fel arall beri iddo symud hyd nes y rhyddheir ef oddi wrth y ddyfais honno;

(b)sy'n pennu'r camau i'w cymryd er mwyn sicrhau ei ryddhad; ac

(c)sy'n rhybuddio bod symud dyfais sy'n (this should say unlawful removal) rhwystro cerbyd rhag symud yn dramgwydd.

(3Rhaid peidio â thynnu neu ymyrryd â hysbysiad a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r adran hon ac eithrio gan neu o dan awdurdod—

(a)y perchennog, neu'r person sydd â rheolaeth dros y cerbyd; neu

(b)yr awdurdod gorfodi.

(4Mae person sy'n mynd yn groes i baragraff (3) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(5Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn, yn tynnu neu'n ceisio tynnu dyfais a osodwyd i rwystro cerbyd rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud

8.—(1Rhaid peidio â gosod dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud ar gerbyd os arddangosir ar y cerbyd—

(a)bathodyn cyfredol person anabl; neu

(b)bathodyn cyfredol a gydnabyddir.

(2Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(a), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(9)

(b)mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(10) (defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(b), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 21A o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(11);

(b)mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1A)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(12)(defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael yn rhinwedd arddangos bathodyn nad yw'n fathodyn Prydain Fawr),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Rhaid peidio â gosod dyfais atal cerbyd rhag symud ar gerbyd sydd mewn man parcio o ran tramgwydd sy'n golygu methiant, neu'n codi o fethiant—

(a)i dalu tâl parcio ynglyn â'r cerbyd;

(b)i arddangos tocyn neu ddyfais parcio; neu

(c)i symud y cerbyd o'r man parcio erbyn diwedd y cyfnod y talwyd y tâl priodol amdano,

nes bod y cyfnod priodol wedi mynd heibio ers rhoi'r hysbysiad o dâl cosb o dan reoliad 5 o Reoliadau Gorfodi a Dyfarnu ynglŷn â'r tramgwydd.

(5At ddibenion paragraff (4) y cyfnod priodol yw—

(a)yn achos cerbyd y mae 3 thâl cosb yn ddyledus yn ei gylch, 15 munud;

(b)mewn unrhyw achos arall, 30 munud.

Rhyddhau cerbydau a ataliwyd rhag symud

9.—(1Dim ond drwy neu o dan gyfarwyddyd person a awdurdodwyd gan awdurdod gorfodi i roi cyfarwyddyd o'r fath y caniateir rhyddhau cerbyd y gosodwyd dyfais atal rhag symud arno yn unol â rheoliad 7 oddi wrth y ddyfais honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhyddheir cerbyd o'r fath oddi wrth y ddyfais pan delir, drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn yr hysbysiad a osodwyd ar y cerbyd o dan reoliad 7(2)—

(a)y tâl cosb sy'n daladwy ynglŷn â'r parcio ;

(b)y cyfryw dâl ynglŷn â'r rhyddhau a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod gorfodi.

RHAN 4DARPARIAETHAU ARIANNOL

Addasu adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

10.—(1Bydd adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(13) yn gymwys o ran incwm a gwariant awdurdodau gorfodi mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2004 ynghylch tramgwyddau parcio, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.

(2Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) A local authority in Wales which is an enforcement authority shall keep an account—

(a)of its income and expenditure in respect of any designated parking places in its area which are not in a civil enforcement area;

(b)of its income and expenditure (otherwise than as an enforcement authority) in respect of designated parking places in its area which are in a civil enforcement area; and

(c)of its income and expenditure in connection with its functions as an enforcement authority in relation to parking contraventions within paragraph 4 of Schedule 7 to the 2004 Act..

(3Yn lle is-adran (3A) rhodder—

(3A) A local authority in Wales which is an enforcement authority shall after the end of each financial year send a copy of the account kept under subsection (1) to the Welsh Ministers..

(4Yn is-adran (3B) yn lle “the end of” rhodder “the conclusion of the audit of the accounts of the body concerned for”.

(5Yn is-adran (10) ar ôl “in this section-” mewnosoder—

“the 2004 Act” means the Traffic Management Act 2004;

“enforcement authority” means an authority which is an enforcement authority for the purposes of Part 6 of the 2004 Act (pursuant to paragraphs 1(2), and 8(5) of Schedule 8) and references to the functions of an authority as an enforcement authority are to its functions under that Part of that Act;.

Gwargedau i'w cario ymlaen

11.  Os oes, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, warged mewn cyfrif—

(a)a gedwir o dan adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y'i haddaswyd o ran yr awdurdod hwnnw gan orchymyn a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991(14); a

(b)a gedwir gan awdurdod lleol,

bydd y gwarged yn cael ei gario ymlaen ac ymdrinnir ag ef fel gwarged sy'n codi o dan adran 55 fel y'i haddesir gan reoliad 10.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

6 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio yng Nghymru yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Rhan 6 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau a wneir oddi tani yn disodli darpariaethau Rhan II ac Atodlen 3 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.

Mae rheoliad 3 yn galluogi bod tâl cosb yn cael ei osod am fathau penodol o dramgwyddau parcio. Mae tâl cosb yn daladwy gan berchennog y cerbyd o dan sylw (rheoliad 4(1)), ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 4(2) i (4) (cerbyd a logir gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi cerbydau). Yn unol â rheoliad 5, rhaid peidio â gosod tâl cosb ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan “ddyfais a gymeradwyir” (gweler adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 a Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/620 (Cy.69)) neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw yn sylwi arno. Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd tâl cosb yn daladwy am dramgwydd parcio os yw'r tramgwydd yn destun achos troseddol neu os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig o dan Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988, ond, os caiff tâl cosb ei dalu mewn gwirionedd yn y naill amgylchiad neu'r llall, rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ad-dalu.

Gwneir darpariaeth gan Ran 3 ynghylch atal cerbydau rhag symud. Mae rheoliad 7 yn diffinio pryd y caniateir gosod dyfais ar gerbyd i'w atal rhag symud, yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei osod ar y cerbyd pan atelir ef rhag symud ac yn creu'r tramgwyddau o ymyrryd â'r hysbysiad neu'r ddyfais atal rhag symud. Mae rheoliad 8 yn pennu eithriadau i'r pŵer cyffredinol i atal cerbydau rhag symud ac mae rheoliad 9 yn pennu'r rhagangenrheidiau ar gyfer rhyddau cerbyd o'r ddyfais atal rhag symud.

Yn Rhan 4, mae rheoliad 10 yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gydag addasiadau, i incwm a gwariant awdurdodau gorfodi o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cario gwargedau ymlaen gan awdurdodau lleol mewn cyfrifon a gedwir o dan adran 55 fel yr oedd yr adran honno yn gymwys i'r awdurdodau hynny o dan orchmynion a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF 10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

(1)

2004 p.18. Diwygiwyd adran 79 gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13), Atodlen 1, paragraff 48 a diwygiwyd adran 81 gan OS 2006/1016. Yn rhinwedd adran 92, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn “awdurdod cenedlaethol priodol” o ran Cymru, at ddibenion rheoliadau a wnaed o dan Ran 6.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(8)

Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (p.22), paragraff 147, gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39) Atodlen 8, paragraff 314 a chan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2004 (p.14), Atodlen 1, Rhan 14.

(9)

1970 p.44: o ran Cymru, diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), Atodlen 30, gan Ddeddf Trafnidiaeth 1982 (p.49) adran 68, gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen 13, gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5, paragraff 1, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35(2)-(5), Atodlen 8, gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Atodlen 10, paragraff 8, Atodlen 18, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 adran 94(1)-(4) a chan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13) Atodlen 1, paragraff 41.

(10)

1984 (p.27); o ran Cymru amnewidiwyd adran 117(1) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 adran 35(6) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44(1), (2) a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 94(5).

(11)

Mewnosodwyd adran 21A gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, adran 9.

(12)

Mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44.

(13)

O ran Cymru, diwygiwyd adran 55 gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), Atodlen 12, paragraff 42, gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), Atodlen 8, paragraff 46, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, Atodlen 7, paragraff 5, Atodlen 8 a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 95.

(14)

O ran Cymru, diwygiwyd Atodlen 3 gan O.S. 1996/500.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources