- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
6 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2008
Yn dod i rym
31 Mawrth 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 31 Mawrth 2008, ac mae'n gymwys i Gymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn: ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(3).
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008(4).
2. Y canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i awdurdodau gorfodi wrth osod lefelau taliadau ar gyfer tramgwyddau parcio yw'r rhai hynny a geir yn yr Atodlen.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2008
Erthygl 2
1.—(1) Rhaid gosod taliadau cosb ar gyfer tramgwyddau parcio—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (2) yn un o'r bandiau yn Nhabl 1; ac
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (3) yn y band yn Nhabl 1 a ddewisir ar gyfer lefelau uwch o dramgwyddo.
(2) Rhaid gosod y lefel disgownt ar gyfer taliad cosb a delir yn gynnar (hynny yw o fewn 21 o ddiwrnodau yn achos taliadau cosb a osodwyd ar sail cofnod a gynhyrchwyd gan ddyfais a gymeradwyir o dan reoliad 6(1)(a) o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu a 14 o ddiwrnodau ym mhob achos arall)—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (4);
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (5),
yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.
(3) Rhaid gosod lefel gordal taliad o dâl cosb wedi i dystysgrif codi tâl gael ei dyroddi—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch ar y lefel a bennir yng ngholofn (6);
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall ar y lefel a bennir yng ngholofn (7),
yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.
| (1) | (2) | (3) | (4) | (5) | (6) | (7) |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Band | Tâl cosb lefel uwch | Tâl cosb lefel is | Tâl cosb lefel uwch a delir yn gynnar | Tâl cosb lefel is a delir yn gynnar | Tâl cosb lefel uwch a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl | Tâl cosb lefel is a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl |
| 1. | £60 | £40 | £30 | £20 | £90 | £60 |
| 2. | £70 | £50 | £35 | £25 | £105 | £75 |
(4) Caiff awdurdod gorfodi osod taliadau cosb yn unol â gwahanol fandiau yn y tabl mewn gwahanol rannau o'i ardal, cyn belled â bod pob taliad ym mhob rhan o'i ardal yn cael ei osod yn unol â'r un band.
(5) “Tramgwyddau Lefel Uwch” yw'r rhai hynny a restrir yn yr Atodiad.
2. Y rhai hynny a geir yn nhabl 2 yw'r taliadau y mae'n rhaid eu codi am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau a ganfyddir mewn ardal orfodi sifil.
| (1) | (2) | (3) |
|---|---|---|
| Eitem | Math o daliad | Swm y taliad |
| 1. | Y taliad am symud cerbyd ymaith | £105.00 |
| 2 | Y taliad am storio cerbyd | £12 ar gyfer pob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, pan fydd y cerbyd yn cael ei gadw |
| 3. | Y taliad am waredu cerbyd | £50.00 |
3. Rhaid i'r tâl taladwy o dan reoliad 9(2)(b) o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer rhyddhau cerbyd o afael dyfais i'w rwystro rhag symud fod yn £40.
4. Nid oes dim yn y canllawiau hyn yn rhagfarnu nac yn effeithio ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ganiatáu i awdurdod gorfodi i wyro oddi wrth y canllawiau hyn.
1. Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) i Atodlen 7 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”)
2. Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio man a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â'r man parcio yn unrhyw un o'r achosion a ganlyn, neu oddi tano—
(a)heb fod yn dangos permit, taleb neu docyn talu ac arddangos;
(b)mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;
(c)pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(ch)pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
3. Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.
4. Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.
5. Tramgwydd sy'n cynnwys cyflawni trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy'n ymwneud â thraciau beicio).
6. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).
7. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
8. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau ar arosfannau bysiau neu fannau i fysiau sefyll ynddynt).
9. Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).
10. Tramgwydd sy'n ymwneud â throsedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd) ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o'r canlynol yn sgil gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â'r man parcio—
(a)pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(b)parcio mewn man cyfyngedig;
(c)parcio mewn man i bermit heb arddangos permit;
(ch)parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;
(d)parcio cerbyd mewn man parcio pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 3 (paragraffau 7 i 9) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 yn gwneud darpariaeth i awdurdodau gorfodi y tu allan i Lundain Fwyaf osod lefelau taliadau o dan Ran 6 o'r Ddeddf honno (gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig) ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r lefelau hynny gyd fynd â chanllawiau a osodir gan yr awdurdod cenedlaethol priodol, ac eithrio pan fo'r awdurdod hwnnw yn caniatáu i awdurdod gorfodi wyro oddi wrth y canllawiau hynny.
Drwy'r Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru yn rhoi i awdurdodau gorfodi yng Nghymru y canllawiau ar daliadau am dramgwyddau parcio a geir yn yr Atodlen.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: