- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 (“Rheoliadau 1986”) yn darparu ar gyfer symud ymaith a gwaredu cerbydau o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978 (“Deddf 1978”) ac adrannau 99 a 101o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”).
Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, OS 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004, OS 2004/3044, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1986 o ran Cymru (ac eithrio'r rhannau hynny o Groesfannau'r Hafren sydd yng Nghymru) er mwyn caniatáu i swyddogion gorfodi symud ymaith gerbydau sydd wedi cael eu gadael i sefyll ar ffordd o fewn ardal orfodi sifil yng Nghymru.
Ni chaiff symudiad ymaith o'r fath ddigwydd ond pan fo swyddog gorfodi sifil wedi gosod hysbysiad o dâl cosb ar y cerbyd, neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person y mae'n ymddangos ei fod yn gyfrifol am y cerbyd.
Ni fydd hysbysiadau tâl cosb a ddyroddir mewn perthynas â cherbydau mewn mannau parcio dynodedig o ran taliadau parcio, methiant i arddangos tocyn parcio neu ddyfais barcio neu fethiant i symud y cerbyd ymaith o fan parcio ar ddiwedd cyfnod y talwyd amdano yn gwarantu symud y cerbyd dan sylw ymaith, hyd nes bydd yr “appropriate period” fel y'i diffinnir gan y rheoliad 5C(4) newydd wedi dod i ben.
Gellir cael Asesiad Effaith Reoleiddiol lawn a Memorandwm Esboniadol o'r Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://www.cynulliadcymru.org/bushome/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub annulment.htm%20 http:/www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: