- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/3461 (Cy.306)).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi mewn perthynas â Chymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1, y dylid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29), i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n—
(a)ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu, neu mewn achosion o fathau penodol o ddofednod (e.e. sofliar) caniatáu i ffioedd gael eu casglu, i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83, y dylid ei ddarllen ynghyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204 4.8.2007, t.26); a
(b)ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir i wirhau cydymffurfedd â'r rheolau lles anifeiliaid a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 93/119/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.21) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) ac mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
4. Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dŷ, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol, o'r ffi rheolaethau swyddogol sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dŷ”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);
(b)yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);
(c)yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—
(i)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a
(ii)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad unrhyw dystiolaeth y mae arni angen rhesymol ei chael er mwyn gwirio'r wybodaeth honno (rheoliad 5);
(d)yn darparu bod y personau y mae hawliad o'r fath wedi ei gyflwyno iddynt yn cyflawni tramgwydd os ydynt —
(i)a hwythau'n honni eu bod yn cydymffurfio â'r hawliad, yn ddi-hid neu gan wybod hynny, yn rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu
(ii)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â'r hawliad (rheoliad 5).
5. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae'r ffi'r rheolaethau swyddogol i'w chyfrifo.
6. Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: