Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 56 (Cy.11)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Defnyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008

Gwnaed

14 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Ionawr 2008

Yn dod i rym

8 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2)(c), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Defnyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig a deuant i rym ar 8 Chwefror 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol) nac awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) —

(a)

mewn perthynas â dosbarth iechyd porthladd Llundain (o fewn yr ystyr a roddir i “London port health district” at ddibenion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4) gan adran 7(1) o'r Ddeddf honno), Cyngor Cyffredin Dinas Llundain; a

(b)

mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “caead” (“lid”) yw caead o'r math a grybwyllir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes o fan ac eithrio Aelod-wladwriaeth;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(5);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson a awdurdodir yn ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, gan awdurdod iechyd porthladd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Gorfodi

3.  Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau

4.—(1Bydd unrhyw berson sydd —

(a)yn mynd yn groes i ofynion Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy (gofynion yn ymwneud â chaeadau sydd wedi eu selio â gasgedi y mae ynddynt sylweddau plastigeiddio penodol);

(b)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(c)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Comisiwn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod yn rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano neu amdani; neu

(ch)gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (c), yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)yn achos tramgwydd o dan baragraff (1)(a) —

(i)o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;

(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(b)yn achos tramgwydd o dan baragraff 1(b), (c) neu (ch), o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel pump ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1)(c) i'w ddehongli fel ei bod yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai gwneud hynny'n ei hunan-argyhuddo.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

5.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath, bernir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael achos cyfreithiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i'w gosbi yn unol â hynny.

Tramgwyddau o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan drydydd person

6.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan ryw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

7.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r tramgwydd neu ar ôl un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y tramgwydd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

8.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol, ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth, yn amddiffyniad.

(2Heb ragfarn yn erbyn natur gyffredinol paragraff (1), dylid cymryd bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 4(1)(a), ac na wnaeth —

(a)paratoi'r caead yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef; na

(b)ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig,

wedi profi'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os yw'n bodloni gofynion paragraff (3).

(3Bydd person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os yw'n profi —

(a)bod y tramgwydd wedi ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall nad oedd o dan ei reolaeth, neu o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan y cyfryw berson;

(b)nad rhoi ar y farchnad o dan ei enw neu ei farc ef oedd y weithred o roi ar y farchnad yr honnwyd ei bod yn dramgwydd;

(c)y naill neu'r llall o'r canlynol —

(i)ei fod wedi gwneud ar y caead o dan sylw bob gwiriad o'r fath a oedd yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau, neu

(ii)ei bod yn rhesymol iddo yn yr holl amgylchiadau ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd iddo'r caead o dan sylw; ac

(ch)nad oedd yn gwybod, pan gyflawnwyd y tramgwydd, y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn gyfystyr â thramgwydd o dan reoliad 4(1)(a) ac nad oedd ganddo reswm dros amau hynny.

(4Os bydd honni bod y tramgwydd wedi ei gyflawni o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan berson arall, neu os bydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, yn rhan o'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos, ni fydd hawl gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw oni bai—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos gerbron y llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig o'r blaen, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw gan y sawl a gyhuddir, ei fod wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi'r cyfryw wybodaeth ag a oedd yn ei feddiant bryd hynny ac sy'n enwi'r person arall hwnnw neu'n helpu i'w enwi.

Y weithdrefn i'w dilyn pan fydd sampl i'w dadansoddi

9.—(1Bydd swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi yn rhannu'r sampl yn dair rhan.

(2Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, bydd y swyddog awdurdodedig yn rhannu'r sampl yn rhannau drwy rannu'r cynwysyddion yn dri lot, ac mae pob lot i'w drin fel pe bai'n rhan.

(3Bydd y swyddog awdurdodedig —

(a)os bydd angen gwneud hynny, yn gosod pob rhan mewn cynhwysydd addas ac yn ei selio;

(b)yn marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn rhoi un rhan i'r perchennog ac yn ei hysbysu'n ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch)yn cyflwyno un rhan i'w dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

(d)yn cadw un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 10.

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth

10.—(1Pan fydd sampl wedi ei chadw o dan reoliad 9 ac —

(a)y bwriedir dwyn achos cyfreithiol yn erbyn person neu fod achos cyfreithiol wedi ei gychwyn yn ei erbyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)bod yr erlyniad yn bwriadu dwyn fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddi a grybwyllir uchod,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2O ran y swyddog awdurdodedig —

(a)caiff o'i wirfodd, neu

(b)bydd —

(i)os bydd yr erlynydd yn gofyn iddo wneud hynny (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd),

(ii)os bydd y llys yn gorchymyn felly, neu

(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo wneud hynny,

yn anfon y rhan a gadwyd o'r sampl at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3Bydd Cemegydd y Llywodraeth yn dadansoddi'r rhan a anfonir ato o dan baragraff (2) ac yn anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif yn nodi'n benodol beth yw canlyniad y dadansoddiad.

(4Bydd unrhyw dystysgrif a roddir gan Gemegydd y Llywodraeth yn cael ei llofnodi ganddo neu ar ei ran, ond caniateir i unrhyw berson wneud y dadansoddiad o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5Bydd y swyddog awdurdodedig cyn gynted ag y bydd y dystysgrif wedi dod i law yn cyflenwi copi o dystysgrif Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd) a'r diffynnydd.

(6Os gwneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffi Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y diffynnydd yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” (“defendant”) yn cynnwys diffynnydd arfaethedig.

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

11.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);

(b)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(c)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

12.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(6), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt), ar y diwedd, ychwaneger enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

14 Ionawr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9) (“Rheoliad y Comisiwn”).

2.  Mae'r Rheoliadau —

(a)yn dynodi'r cyrff sydd â'r ddyletswydd i orfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

(b)yn darparu bod mynd yn groes i ofynion Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn, sy'n darparu bod yn rhaid i gaeadau y mae ynddynt gasgedi a wnaed o ddefnyddiau plastig gydymffurfio â'r manylebau a geir yn yr Atodiad i'r Rheoliad hwnnw, yn dramgwydd, ac yn pennu beth yw mwyafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 4(1)(a) a (2)(a));

(c)yn darparu bod rhwystro unrhyw un sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn, neu fethu â rhoi iddo wybodaeth, neu fod rhoi iddo wybodaeth anwir yn dramgwydd diannod, ac yn pennu beth yw mwyafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 4(1)(b), (c) ac (ch) a (2)(b));

(ch)yn darparu y caiff unigolion sy'n gyfrifol am weithrediadau corff corfforaeth neu bartneriaeth Albanaidd eu herlyn ar y cyd am dramgwyddau a gyflawnwyd gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 5);

(d)yn darparu ar gyfer erlyn person sy'n peri i dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn gael ei gyflawni gan berson arall, p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y prif dramgwyddwr ai peidio (rheoliad 6);

(dd)yn pennu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniad (rheoliad 7);

(e)yn darparu ar gyfer amddiffyniad i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn o fod wedi arfer diwydrwydd dyladwy (rheoliad 8);

(f)yn pennu'r weithdrefn i'w dilyn pan anfonir sampl i'w dadansoddi (rheoliad 9);

(ff)yn gwneud darpariaeth i sampl gyfeirio gael ei dadansoddi yn Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 10); ac

(g)yn cymhwyso darpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 11).

3.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(5)

OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9. Cywirwyd croniclad 2 o'r Rheoliad gan gorigendwm, (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.70), a wnaeth fân gywiriad i ddyddiad sy'n rhan o enw un o offerynnau'r GE yn un o'r cronicladau.