- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Gwnaed
28 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Chwefror 2008
Yn dod i rym
24 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2008, ac maent yn dod i rym ar 24 Mawrth 2008.
2. Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003(4) fel a ddarperir yn rheoliad 3.
3. Yn Atodlen 2 yn lle'r geiriau “dim mwy na 0.8 mS/cm” rhodder y canlynol—
“dim llai na 0.8 mS/cm”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
28 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mêl (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3044 (Cy.288). Maent yn rhoi ar waith y Corigendwm i Gyfarwyddeb y GE 2001/110 a wnaeth gywiro gwall yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno
2. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.
OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: