- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (5) a (7), pan fo ymgymerwr dan rwymedigaeth, o dan Ran III o Ddeddf 1991, i roi hysbysiad o fewn cyfnod penodol fod gwaith wedi ei ddechrau, ac eithrio o dan adran 74, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath—
(a)drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo at ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);
(b)drwy ei ddanfon at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw; neu
(c)drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.
(2) Os nad oes gan berson y mae ymgymerwr dan rwymedigaeth i roi hysbysiad o'r fath iddo drefniadau ar gyfer derbyn ac ymateb i hysbysiadau am unrhyw gyfnod rhwng 4.30pm ac 8.00am y diwrnod wedyn, bydd yr ymgymerwr wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth os bydd yn cyflwyno hysbysiad erbyn 10.00am ar y diwrnod canlynol hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), mewn unrhyw achos arall pan fo'n ofynnol i berson roi hysbysiad neu yr awdurdodir person i'w roi o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio o dan adran 74 neu Atodlen 4B o'r Ddeddf honno, rhaid rhoi hysbysiad o'r fath —
(a)drwy ei anfon at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4);
(b)drwy ei anfon ato drwy'r post dosbarth cyntaf yn y cyfeiriad hwnnw;
(c)drwy ei ddanfon iddo;
(ch)drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu
(d)drwy unrhyw ddull arall y cytunwyd arno rhwng y person sy'n ei roi a'r person y mae i'w roi iddo.
(4) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) a (3)(a) yw bod rhaid—
(a)bod modd i'r person yr anfonir ef ato gael at yr hysbysiad;
(b)bod yr hysbysiad yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac
(c)bod yr hysbysiad mewn ffurf sy'n caniatáu iddo gael ei gadw er mwyn cyfeirio ato'n ddiweddarach,
ac at y diben hwn, ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw i'r un graddau ag y byddai pes rhoddasid ar ffurf hysbysiad wedi'i argraffu.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), o 1 Ebrill 2009 a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, rhaid cyfnewid pob hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi dan Ran III o Ddeddf 1991 gan awdurdod strydoedd neu gan ymgymerwr statudol, ac eithrio hysbysiadau o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, rhwng un awdurdod strydoedd ac un arall, rhwng un ymgymerwr statudol ac un arall, a rhwng awdurdod strydoedd ac ymgymerwr statudol gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (4).
(6) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebiad electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr adeg a gofnodir gan yr offer trosglwyddo fel dyddiad ac adeg cwblhau'r trosglwyddiad yn foddhaol.
(7) Os, ar ôl tri chynnig (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i gyflwyno'r hysbysiad drwy ddefnyddio un dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y mae i'w roi iddo mewn unrhyw ddull arall o'r fath ag y mae iddo gyfeiriad priodol neu drwy unrhyw un o'r dulliau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (3).
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i'w roi iddo fydd—
(a)os yw'r cyfryw berson—
(i)wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o dan Ddeddf 1991, ac eithrio hysbysiadau o dan adran 74 neu Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, drwy ddefnyddio dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig; a
(ii)nad yw wedi hysbysu'r olaf fod y cyfeiriad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,
y cyfeiriad hwnnw o ran y dull hwnnw o drosglwyddo;
(b)os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy'r post, y cyfeiriad hwnnw o ran cyflwyno drwy'r post,
(c)os yw'r cyfryw berson wedi darparu i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiadau o'r fath drwy unrhyw ddull arall, y cyfeiriad hwnnw o ran y cyfryw ddull arall; ac
(ch)fel arall
(i)yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a
(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.
(9) Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu hysbysiadau o ddosbarthiadau gwahanol.
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Deddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(1); ac
ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfryw ddull o drosglwyddo.
2000 p.7. Cafodd Adran 15(1) ei diwygio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: