Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Cofrestrau gwaith stryd

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 13 ac i'r gofynion a osodir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid i gofrestrau gwaith stryd gael eu cadw mewn modd fydd yn galluogi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (4) a (5), ynglŷn â stryd benodol, i gael ei holrhain.

(2Rhaid i bob cofrestr—

(a)fod wedi'i mynegeio;

(b)heb fod yn ddiweddarach na 1 Ebrill 2009, fod yn seiliedig ar system wybodaeth ddaearyddol; ac

(c)ddynodi'r awdurdod priffyrdd mewn perthynas â phob stryd yn ardal yr awdurdod sy'n briffordd a gynhelir.

(3Rhaid i bob cofrestr a gedwir gan awdurdod priffyrdd lleol fod ar ffurf sydd yn cydymffurfio â'r system o gyfeirnodi strydoedd a bennir yn Rhan I o'r cyhoeddiad a ddyroddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 1 Awst 2006 dan yr enw: “Spatial data sets for geographical referencing — specification for a street gazetteer” o dan gyfeirnod Rhif BS 7666-1 2006(1) fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd,

(4Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â gwaith stryd sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth(2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru
1.Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i'r awdurdod priffyrdd ynglŷn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd sy'n briffordd a gynhelir.Yr ymgymerwr perthnasol.
2.Manylion pob hysbysiad o dan adrannau 54, 55 a 57 a gyflwynwyd i reolwyr strydoedd ynglŷn â gwaith stryd mewn unrhyw stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.Yr ymgymerwr perthnasol.
3.Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adrannau 56 a 56A.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
4.Manylion pob hysbysiad, cydsyniad a chyfarwyddyd a gyhoeddwyd neu a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adrannau 58 a 58A.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
5.Manylion pob hysbysiad a wnaed gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991.Yr ymgymerwr perthnasol.
6.Manylion pob hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 66.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
7.Gwybodaeth o dan adran 70(3) a (4A) ynglŷn â chwblhau gwaith adfer.Yr ymgymerwr perthnasol.
8.Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 72(3).Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
9.Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan ymgymerwr o dan adran 74.Yr ymgymerwr perthnasol.
10.Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 74Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
11.Disgrifiad o waith stryd y cyflwynwyd planiau a thrychluniau ar ei gyfer o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991 a'i leoliad.Yr ymgymerwr perthnasol.
12.Manylion pob hysbysiad a roddwyd gan unrhyw awdurdod perthnasol o dan Atodlen 4 i Ddeddf 1991.Yr awdurdod perthnasol.

(5Caiff yr wybodaeth mewn perthynas â mathau eraill o waith a materion eraill sydd i ymddangos ar y gofrestr a'r person, ymhob achos, sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru, eu pennu yng ngholofnau (1) a (2) yn eu trefn o'r Tabl a ganlyn.

Tabl

(1) Gwybodaeth(2) Y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru
1.Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn awdurdod strydoedd drosti.Yr awdurdod priffyrdd lleol.
2.Pob stryd sydd yn briffordd a gynhelir yn rhagolygolYr awdurdod priffyrdd lleol.
3.Pob stryd y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn ymwybodol ohoni sydd yn briffordd, ond nad yw'r awdurdod hwnnw yn awdurdod strydoedd drosti.Yr awdurdod priffyrdd lleol.
4.

Pob stryd

(a)

sydd —

(i)

yn stryd a warchodir(2);

(ii)

yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu

(iii)

yn stryd sy'n

sensitif i draffig, gan gynnwys, pan fydd yn briodol, fanylion y rhannau o'r stryd a ddynodwyd felly ac, yn achos stryd sy'n sensitif i draffig, unrhyw ddynodiad cyfyngedig; neu

(b)

y bwriedir ei dynodi felly.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
5.

Disgrifiad, amseriad a lleoliad gwaith at ddibenion ffyrdd a gwaith pwysig priffyrdd sy'n golygu —

(a)

darnio'r briffordd;

(b)

agor cerbytffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu

(c)

lleihau lled y gerbytffordd sydd ar gael i draffig cerbydol—

(i)

o un neu fwy o lonydd traffig;

(ii)

o fwy na thraean mewn achos lle nad oes lonydd o'r fath; neu

(iii)

o unrhyw led mewn stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sensitif i draffig, ac unrhyw waith o'r fath y bwriedir ei wneud.

Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
6.Manylion pob cydsyniad a roddwyd gan awdurdod strydoedd o dan adran 61 gyda manylion unrhyw amodau.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
7.Manylion pob cyfarwyddyd a roddwyd o dan adran 62.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
8.Manylion trwyddedau gwaith stryd, gan gynnwys manylion amodau a newidiadau mewn perchenogaeth.Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
9.Manylion yr offer yr hysbyswyd yr awdurdod strydoedd ohono o dan adran 80(2).Yr awdurdod strydoedd perthnasol.
10.Pob hysbysiad o waith o dan adran 85(2)Yr awdurdod perthnasol.
11.Manylion cau ffyrdd a gwyriadau pan fo angen gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf 1984.Yr awdurdod priffyrdd.
12.Categori ffordd pob stryd.Yr awdurdod strydoedd perthnasol

(6Mae gwybodaeth o'r mathau a ganlyn yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion adran 53(3);

(a)gwybodaeth a gafodd ei ardystio gan neu a awdurdodwyd drwy yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu gwarchod diogelwch gwladol, neu'n debygol o wneud hynny, a

(b)gwybodaeth a gafodd ardystiad neu awdurdodiad ymgymerwr ei bod yn wybodaeth gyfyngedig oherwydd y byddai ei datgelu yn rhagfarnu buddiannau masnachol yr ymgymerwr hwnnw, neu'n debygol o wneud hynny.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “lôn draffig” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “traffic lane” yn rheoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys llain galed.

  • mae i “llain galed” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “hard shoulder” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002 ac mae'n cynnwys o ran unrhyw briffordd nad yw'n draffordd unrhyw lain galed a luniwyd i gymryd pwysau cerbyd ac y mae ei ochr dde neu ei ymyl bellaf wedi'i ddynodi ag arwydd traffig o'r math a ddangosir yn niagram 1012.3 yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny;

  • ystyr “y person sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau ei gofrestru” (“person responsible for securing registration”) mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth, yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros drosglwyddo'r cyfryw wybodaeth i'r awdurdod strydoedd i'w gofrestru yn y gofrestr gwaith stryd;

  • ystyr “system wybodaeth ddaearyddol” (“geographical information system”) yw system ar gyfer dal, storio, gwirio, integreiddio, manipiwleiddio, dadansoddi ac arddangos data sy'n gysylltiedig â phwyntiau ar wyneb y Ddaear; ac

  • mae i “traffordd” yr un ystyr ag sydd i “motorway” o dan reoliad 4 o Reoliadau 2002.

(1)

ISBN 0 580 48710 5.

(2)

Gweler adrannau 61 a 62 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (1991 p.22).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources