Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Dynodi strydoedd yn rhai sy'n sensitif i draffig

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), dim ond os bodlonir un neu fwy o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64.

(2Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw fod y stryd —

(a)yn un y mae'r awdurdod strydoedd yn amcangyfrif fod y llif traffig arni yn fwy na 500 o gerbydau'r awr ar bob lôn o'r gerbytffordd gan anwybyddu lonydd i fysiau neu i feiciau;

(b)yn ffordd ddwyffordd ag iddi un gerbytffordd gyda'r gerbytffordd honno yn llai na 6.5 metr o led, a chyda llif y traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall heb fod yn llai na 600 o gerbydau yr awr;

(c)yn disgyn o fewn ardal a gwmpesir gan Orchymyn o ran taliadau tagfeydd a wnaed o dan adran 169 o Ddeddf Drafnidiaeth 2000(1);

(ch)yn un y mae mwy na 25% o'r llif traffig i'r naill gyfeiriad a'r llall arni yn gerbydau masnachol trymion;

(d)yn un y mae'r llif traffig arni i'r naill gyfeiriad a'r llall yn cynnwys mwy nag wyth o fysiau yr awr;

(dd)yn un sydd wedi'i dynodi gan yr awdurdod priffyrdd lleol, fel rhan o'i raglen cynnal a chadw dros y gaeaf, yn un y mae gofyn ei thrin, neu y mae gofyn trin unrhyw ran ohoni, â halen neu gemegau eraill, pan ddisgwylir i'r dymheredd fod yn isel, er mwyn osgoi rhew rhag ffurfio;

(e)o fewn 100 o fetrau i gyffordd â signalau critigol neu i system gylchdro neu gylchfan gritigol;

(f)yn un y mae'r llif traffig o gerddwyr arni yn o leiaf 1300 o bobl yr awr, am bob metr o led y droetffordd; neu

(ff)ar lwybr twristiaid neu mewn ardal lle cynhelir digwyddiadau rhyngwladol, neu genedlaethol, neu ddigwyddiadau mawr arwyddocaol o bwys lleol.

(3Dim ond ar yr adegau ac ar y dyddiadau pan fo un neu fwy nag un o'r meini prawf a osodir ym mharagraff (2) yn gymwys y caiff awdurdod strydoedd ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig yn unol â pharagraff (1).

(4Gosodir y weithdrefn ar gyfer gwneud dynodiad o dan baragraff (1) neu ar gyfer ei dynnu'n ôl yn yr Atodlen.

(5Caiff awdurdod strydoedd, er gwaethaf paragraffau (1) i (3), ddynodi stryd yn stryd sy'n sensitif i draffig gyda cytundeb mwyafrif yr ymgymerwyr y mae'n hysbys iddo fod ganddynt offer yn y stryd.

(6Rhaid i'r wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael o ran pob stryd a ddynodir ganddo o bryd i'w gilydd yn stryd sy'n sensitif i draffig gynnwys—

(a)dyddiad y dynodiad;

(b)manylion am y stryd mewn digon o fanylder i'w galluogi i gael ei dynodi; ac

(c)yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau o'r dydd, y diwrnodau, y cyfnodau neu'r achlysuron pan fo'r dynodiad yn gymwys.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “bws” yr un ystyr ag sydd i “bus” yn rheoliad 22(2) o Reoliadau 2002;

  • mae i'r ymadrodd “cerbyd masnachol trwm” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “heavy commercial vehicle” yn adran 138 o Ddeddf 1984;

  • ystyr “cyffordd â signalau critigol” (“critical signalised junction”) yw cyffordd â signalau traffig, pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, a phan nad yw'r allanfa wedi'i chau, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig, yn methu mynd drwy'r gyffordd ar y golau gwyrdd cyntaf;

  • mae i'r ymadroddion “lôn i fysiau” a “lôn i feiciau” yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion “bus lane” a “cycle lane” yn Rheoliad 4 o Reoliadau 2002;

  • ystyr “oriau brig” (“peak hour”) yw rhwng 7.30am a 9.30am a rhwng 3.30pm a 7.00pm ar y diwrnod perthnasol; ac

  • ystyr “system gylchdro neu gylchfan gritigol” (“critical gyratory or roundabout system”) pan nad oes gwaith stryd neu waith at ddibenion ffyrdd yn digwydd yno, lle nad oes dim llai na 5 y cant o'r cerbydau ar yr oriau brig yn cael eu dal yn ôl o fwy na 20 eiliad ar gyfartaledd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources