Search Legislation

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

9.—(1Ac eithrio pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy'n gyfnod o astudio rhan-amser, er mwyn canfod incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi ei ddidynnu wrth ganfod incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wnaed yn ystod y flwyddyn berthnasol, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fydd wedi ei ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn iddo fynychu'r cwrs hwnnw;

(b)cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1), neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(2), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 y mae myfyriwr cymwys yn dod oddi tano a bod ei incwm yn deillio o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i ffynonellau neu ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol â paragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 ei drin pe bai mewn amgylchiadau tebyg a chanddo incwm tebyg.

(3Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd am y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(3).

(1)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), adran 35 ac Atodlen 3, paragraff 10; Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), adrannau 882 ac 883 ac Atodlen 1, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35, Deddf Treth Incwm 2007 (p.3), adran 1027 ac Atodlen 1 a Rheoliadau Treth a Phartneriaethau Sifil 2005 (O.S. 2005/3229), rheoliadau 17 a 59.

(2)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11) adrannau 68, 69, 114 ac Atodlenni 18 ac 19.

(3)

Financial Statistics (ISSN 0015-203X)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources