- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a geir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1);
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2008/2009” (“Academic Year 2008/2009”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Medi 2008, 1 Ionawr 2009, 1 Ebrill 2009 neu 1 Gorffennaf 2009, yn ôl a yw blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 a chyn 1 Ionawr 2009, ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 a chyn 1 Ebrill 2009, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 a chyn 1 Gorffennaf 2009 neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2009 a chyn 1 Medi 2009;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau rheoliadau 9 i 12 yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion deddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys i incwm y person hwnnw;
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sydd yn union o flaen y flwyddyn berthnasol;
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;
ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'r cyfryw gwrs yn cynnwys addysg (ac eithrio addysg uwch) neu hyfforddiant sy'n gwrs neu'n rhaglen astudio ac—
sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr fynychu sefydliad addysg bellach neu fangre darparydd arall ym maes addysg neu hyfforddiant, a
sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, neu sy'n cael ei ariannu gan awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “cyfnod o astudio llawnamser” (“period of full time study”) yw cyfnod o astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyfnod o 500 neu fwy o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw;
ystyr “cyfnod o astudio rhan-amser” (“period of part-time study”) yw cyfnod o astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyfnod o ddim llai na 275 o oriau cyswllt nac o ddim mwy na 499 o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw;
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso rheoliad 9 (yn achos myfyriwr cymwys), rheoliad 10 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), rheoliad 11 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu reoliad 12 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys);
mewn perthynas â rheoliad 9, ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran Blwyddyn Academaidd 2008/2009 ac, mewn perthynas â rheoliad 10, o ran y flwyddyn ariannol flaenorol (yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5) o reoliad 10) yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifiannu fel pe bai at ddibenion—
y Deddfau Treth Incwm;
deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu
os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall yn rheoliad 10);
mae i'r ymadrodd “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;
mae i'r ymadrodd “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;
mae i'r ymadrodd “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13;
ystyr “oriau cyswllt” (“contact hours”) yw'r cyfnod o amser a fynegir mewn oriau ac y mae myfyriwr cymwys yn cael addysg neu oruchwyliaeth mewn perthynas ag ef yn ystod cyfnodau astudio neu ymarfer;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—
priod myfyriwr cymwys;
partner sifil myfyriwr cymwys;
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo pan fo'r myfyriwr cymwys yn dod o dan reoliad 13(1)(a);
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r myfyriwr cymwys;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—
priod rhiant myfyriwr cymwys;
partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;
person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
ystyr “Rheoliadau 2007” (the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(2) fel y'u diwygiwyd neu y'u disodlwyd; ac
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: