Search Legislation

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Myfyriwr cymwys annibynnol

13.—(1At ddiben y Rheoliadau hyn mae myfyriwr cymwys annibynnol yn fyfyriwr cymwys ym mhob achos—

(a)os yw'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)os yw'n briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal mewn bodolaeth ai peidio;

(c)os nad oes ganddo riant yn dal yn fyw;

(ch)os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon nad oes modd dod o hyd i'r naill na'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol dod i gysylltiad â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)os nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu os bydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu dangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd nad oes modd cymodi;

(dd)os bu'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn yr ystyr yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(1) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y cafodd ei ben blwydd yn 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol;

(e)os bydd ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru'n fodlon naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny, o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan reoliad 8, anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig;

(f)os bydd rheoliad 10(9) yn gymwys a bod y rhiant mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff)os bydd yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)os bydd—

(i)yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ii)wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(ng)os bydd wedi ei gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod agregiad y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, a'i fod, at ddibenion y paragraff hwn, yn cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant i'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed genedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglyn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer cael hyfforddiant neu fudd-dal;

(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;

(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd gwelyfod, anaf neu salwch.

(1)

1989 p.41; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 107 ac Atodlen 5, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources