- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
10.—(1) At ddibenion canfod incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir-
(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhadau personol tebyg;
(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na thrinnir taliadau oddi tano neu oddi tani, sy'n daliadau a fyddai fel arall yn rhan o incwm person o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, fel taliadau o'r fath; neu
(c)o dan baragraff (2),
yn cael eu gwneud na'u caniatáu.
(2) At ddibenion canfod incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un neu rai o'r is-baragraffau canlynol—
(a)cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm o'r fath y rhoddid rhyddhad mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;
(b)mewn unrhyw achos lle y mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd paragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (2)(a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly'n fwy na'r didyniadau a wneid pe byddai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;
(3) Os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau'n union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o fod yn llai na gwerth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol i'r graddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe byddai hawlogaeth i'w seilio ar y flwyddyn ariannol gyfredol, cânt, at ddibenion galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os bydd Gweinidogion Cymru'n fodlon bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o fod, ac o barhau i fod ar ôl y flwyddyn honno, yn llai na gwerth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, i'r graddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe bai hawlogaeth i'w seilio ar y flwyddyn ariannol bresennol, cânt, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb ddioddef caledi, sicrhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddi yn incwm gweddilliol y rhiant.
(5) Os bydd rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn deillio o elw busnes y mae'n ei redeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna ystyr unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at flwyddyn ariannol flaenorol yw'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw neu â'r proffesiwn hwnnw'n cael eu cadw mewn cysylltiad ag ef.
(6) Os bydd gan riant myfyriwr cymwys unrhyw incwm nad yw'n rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond oherwydd—
(a)nad yw'n preswylio, fel arfer yn preswylio, neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall;
(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu
(c)bod yr incwm yn deillio o swydd, gwasanaeth neu o gyflogaeth, y mae incwm sy'n deillio ohoni neu ohono'n esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
bydd ei incwm trethadwy at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan y paragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.
(7) Os bydd incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, caiff ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fydd gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd am y mis y digwydd diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw ynddo, fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os bydd farw un o rieni'r myfyriwr cymwys naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth er mwyn canfod incwm yr aelwyd, bydd incwm yr aelwyd fel a ganlyn—
(a)os bydd farw'r rhiant cyn y flwyddyn berthnasol, fe'i canfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi; neu
(b)os bydd farw'r rhiant yn ystod y flwyddyn berthnasol, bydd yn agregiad—
(i)o'r gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn dal yn fyw; a
(ii)o'r gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sy'n goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(9) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru.
(10) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod bod y rhieni heb fod fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at agregiad y canlynol—
(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol â pharagraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni'n byw gyda'i gilydd felly; a
(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: