Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Erthygl 7

YR ATODLENHeidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus

Cymhwyso

1.—(1Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid fridio neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus o 250 o adar o leiaf.

(2Mae'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle cedwir un haid ddodwy neu fwy nag un o'r rhywogaeth Gallus gallus onid yw'r holl wyau—

(a)at ddefnydd domestig preifat, neu

(b)wedi'u cyflenwi mewn niferoedd bychain gan y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol neu i siopau mânwerthu lleol.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd daliad o'r fath.

(4Mae pob cyfeiriad yn yr Atodlen hon at adar yn gyfeiriad at adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, ac mae pob cyfeiriad at haid yn gyfeiriad at haid o'r adar hynny.

Hysbysu bod heidiau bridio wedi cyrraedd

2.—(1Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio o 250 o adar o leiaf gyrraedd y daliad.

(2Rhaid rhoi'r hysbysiad o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.

Hysbysu o symud heidiau bridio ymlaen i'r cam dodwy

3.  O leiaf ddwy wythnos cyn y disgwylir i haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy, neu i uned ddodwy, rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i'r haid—

(a)symud ymlaen i'r cam dodwy neu'r uned ddodwy; a

(b)cyrraedd diwedd ei gylchred cynhyrchu.

Heidiau bridio: adegau samplu

4.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad—

(a)pan fo'r adar yn gywion;

(b)pan fo'r adar yn bedair wythnos oed;

(c)dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(ch)bob yn ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.

Heidiau dodwy: adegau samplu

5.  Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid ddodwy ar y daliad—

(a)pan fo'r adar yn gywion;

(b)dwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir yr haid i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy; ac

(c)pob 15 wythnos yn ystod y cyfnod dodwy, yn cychwyn pan fo'r adar rhwng 22 a 26 wythnos oed.

Dull samplu cywion

6.—(1Rhaid i feddiannydd sy'n samplu cywion o dan yr Atodlen hon gymryd—

(a)un leinin blychau cywion neu leinin hambwrdd deorydd ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o bob deorfa, hyd at uchafswm o 10 leinin; a

(b)carcasau pob cyw, hyd at uchafswm o 60, a ddanfonir o bob deorfa sydd wedi marw pan gyrhaeddant y daliad.

(2Yn y paragraff hwn—

ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch neu gynhwysydd arall y cludir cywion ynddo o'r ddeorfa i'r daliad; ac

ystyr “leinin hambwrdd deorydd” (“hatcher tray liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir fel leinin mewn blwch, hambwrdd neu gynhwysydd arall y perir gori ar a deor wyau ynddo.

Samplu adar pedair wythnos oed etc.

7.—(1Rhaid i feddiannydd ddefnyddio'r dulliau a osodir yn y paragraff hwn wrth samplu—

(a)yn achos heidiau bridio, adar pedair wythnos oed; a

(b)yn achos heidiau bridio a heidiau dodwy fel ei gilydd, adar ddwy wythnos cyn y dyddiad pan symudir hwy i uned ddodwy neu (onis symudir hwy) y dyddiad pan ddisgwylir iddynt ddod i mewn i ddodwy.

(2Rhaid i'r sampl gynnwys—

(a)isafswm o ddau bâr o swabiau o esgidiau; neu

(b)sampl cyfansawdd o ysgarthion.

(3Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl cyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n cynnwys o leiaf drigain o samplau gyda phob un yn pwyso dim llai nag 1 gram a phob un wedi ei gymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r haid y cymerwyd ef ohono.

Dull samplu yn ystod y cyfnod dodwy

8.  Rhaid i samplau a gymerir yn ystod y cyfnod dodwy gael eu cymryd yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 (yn achos haid fridio) neu bwynt 2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 (yn achos haid ddodwy).

Cyflwyno samplau i labordy a gymeradwywyd

9.—(1Rhaid i'r meddiannydd, ar y diwrnod y cymerir sampl o dan y Rheoliadau hyn, ei anfon i labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion ei brofi i ganfod a oes salmonela ynddo.

(2Rhaid i'r meddiannydd nodi dull adnabod y samplau a rhoi'r wybodaeth a ganlyn—

(a)enw'r meddiannydd;

(b)cyfeiriad y daliad;

(c)mathau'r samplau;

(ch)y dyddiad pan gymerwyd y samplau;

(d)dull adnabod yr haid;

(dd)oed yr haid;

(e)yn achos haid fridio—

(i)ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau haid o fridwyr cig ydyw; a

(ii)statws yr haid yn y pyramid bridio.

Cofnodion samplau

10.—(1Rhaid i'r meddiannydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cymryd sampl, gofnodi—

(a)y math o sampl a gymerwyd;

(b)y dyddiad pan gymerwyd y sampl;

(c)dull adnabod yr haid y cymerwyd y sampl ohoni;

(ch)oed yr haid a samplwyd;

(d)y labordy yr anfonwyd y sampl iddo.

(2Rhaid i'r meddiannydd gofnodi canlyniad pob prawf pan gaiff ef gan y labordy.

Cofnodion symudiadau

11.  Pan symudir adar neu wyau (ac eithrio wyau i'w bwyta gan bobl) i ddaliad neu oddi arno rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad y symud;

(b)ai symud i'r daliad yntau oddi arno oedd y symud;

(c)nifer yr adar neu'r wyau a symudwyd;

(ch)oed yr adar a symudwyd;

(d)yn achos symud haid cyfan, dull adnabod yr haid honno;

(dd)dull adnabod yr adeilad neu'r grŵp o adeiladau y symudwyd yr adar neu'r wyau iddo neu ohono;

(e)cyfeiriad y daliad y daethant ohono neu yr anfonwyd hwy iddo.

Dyletswyddau'r person sydd â gofal labordy

12.—(1Rhaid i'r person sydd â gofal labordy sy'n cael samplau sicrhau bod y sampl yn cael ei roi mewn oergell a bod yr archwiliad yn dechrau o fewn 48 awr i gael y sampl.

(2Rhaid i'r person hwnnw baratoi samplo leinin blychau cywion neu o leinin hambwrdd deorydd drwy—

(a)cymryd tamaid o leinin wedi'i faeddu sy'n pwyso o leiaf un gram o bob leinin;

(b)crynsythu ynghyd yr holl ddarnau o lwyth; ac

(c)gosod y deunydd crynswth mewn Dwr Pepton Byfferog (BPW) ar gyfradd o ddim mwy nag 1 gram o leinin i bob 10 ml o BPW.

(3Ar gyfer heidiau bridio rhaid i'r person hwnnw—

(a)paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005;

(b)paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c)profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(4Ar gyfer heidiau dodwy rhaid i'r person hwnnw—

(a)paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006;

(b)paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion neu lwch yn unol â 3.1.2 o'r Atodiad hwnnw; ac

(c)profi'r samplau am salmonela yn unol â'r dull ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw.

(5Rhaid i'r person hwnnw anfon y canlyniadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol i'r person a gyflwynodd y sampl.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources