- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 25 Mawrth 2008.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—
a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu
y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;
ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sy'n llai na 72 awr oed nad yw wedi cael bwyd;
ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt a'u deor i gynhyrchu cywion—
a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu
y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw adar o'r rhywogaeth Gallus gallus, tyrcwn, hwyaid a gwyddau.
ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, ac sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;
ystyr “haid ddodwy” (“laying flock”) yw haid o ddofednod a gedwir i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;
ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir i gynhyrchu wyau y bwriedir peri gori arnynt;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”) mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.
3. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion —
(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(1);
(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn ieir dodwy o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(2); ac
(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod(3).
4.—(1) Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—
(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
(b)yn achos sefydlu'r cyfryw ddeorfa ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(4) Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—
(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;
(b)cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;
(c)capasiti deor y ddeorfa; ac
(ch)rhywogaeth y dofednod a ddeorwyd yn y ddeorfa.
5. Os yw deorfa yn peri gori ar wyau o rywogaeth Gallus gallus a bod ganddi gapasiti o 1000 o wyau neu fwy, pan symudir wyau neu gywion i'r ddeorfa neu oddi arni rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a)dyddiad y symud;
(b)nifer yr wyau neu'r cywion sy'n cael eu symud;
(c)a yw'r symud i'r ddeorfa neu oddi arni;
(ch)os yw'r symud yn symud oddi ar ddaliad, y daliad cyrchfan; a
(d)yn achos wyau a dducpwyd i'r ddeorfa i beri gori arnynt, y daliad tarddiad.
6.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio neu heidiau dodwy o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth yn yr erthygl hon—
(a)o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym hwn; neu
(b)yn achos sefydlu'r cyfryw ddaliad ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r daliad gael ei sefydlu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(4) Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw—
(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a pherchennog pob haid ar y daliad;
(c)nifer yr heidiau ar y daliad;
(ch)ar gyfer pob haid—
(i)dull adnabod yr haid;
(ii)ai haid fridio yntau haid ddodwy ydyw;
(iii)y rhywogaeth;
(iv)nifer y dofednod;
(d)ar gyfer pob haid fridio—
(i)ai haid o ddodwywyr fridwyr yntau o fridwyr cig ydyw; a
(ii)statws yr haid yn y pyramid bridio.
7. Mae'r Atodlen (heidiau bridio neu heidiau dodwy o'r rhywogaeth Gallus gallus) yn cael ei heffaith.
8. Ni chaiff neb roi unrhyw wrthficrobiad i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio gwrthficrobiaid).
9. Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).
10. Rhaid i unrhyw berson sy'n gorfod cadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am ddwy flynedd ar ôl dyddiad ei wneud a rhaid iddo'i ddangos i un o arolygwyr neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny a chaniatáu gwneud copi neu gymryd echdyniad ohono.
11. Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl na gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.
12. Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd drefnu i'r cyfryw gamau gael eu cymryd ar draul y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
13.—(1) Yr awdurdod lleol sydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru yn hytrach na'r awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.
14. Dirymir Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007(4).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: