Status:
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Article 2
SCHEDULE 1SOCIAL SERVICES INDICATORS
| Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS1 | Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. | The rate of delayed transfers of care for social care reasons per 1,000 population aged 75 or over. |
| NS2 | Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd): | The rate of older people (aged 65 or over): |
| (a)y rhoddir cymorth iddynt yn y gymuned fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth; a
| (a)supported in the community per 1,000 population aged 65 or over at 31 March; and
|
| (b)y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth.
| (b)whom the authority supports in care homes per 1,000 population aged 65 or over at 31 March.
|
| NS3 | (a)canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda Chynllun Gofal ar waith; a
| (a)the percentage of first placements of looked after children during the year that began with a Care Plan in place; and
|
| (b)ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, y ganran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.
| (b)for those children looked after whose second review (due at 4 months) was due in the year, the percentage with a plan for permanence at the due date.
|
| NS4 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. | The percentage of children looked after at 31 March who have experienced one or more change of school, during a period or periods of being looked after, which were not due to transitional arrangements, in the 12 months to 31 March. |
SCHEDULE 2HOUSING INDICATORS
| Rhif y Dangosydd/ Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS5 | (a)Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sydd wedi defnyddio llety gwely a brecwast yn ystod y flwyddyn, ac eithrio mewn argyfyngau; a
| (a)The number of homeless families with children who have used bed and breakfast accommodation during the year, except in emergencies; and
|
| (b)Cyfartaledd nifer y diwrnodau y mae pob teulu digartref gyda phlant wedi eu treulio mewn llety gwely a brecwast.
| (b)The average number of days all homeless families with children spent in bed and breakfast accommodation.
|
| NS6 | Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'r awdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn statudol ddigartref. | The average number of working days between homeless presentation and discharge of duty for households found to be statutorily homeless. |
| NS7 | Cyfartaledd nifer yr unedau cymorth sy'n ymwneud â thai fesul 1000 o'r boblogaeth, ar gyfer pob un o'r mathau canlynol o wasanaeth cymorth sy'n ymwneud â thai: | The average number of units of housing-related support per 1000 population, for each of the following types of housing related support service: |
| (i)cymorth fel y bo'r angen;
| (i)floating support;
|
| (ii)mynediad uniongyrchol;
| (ii)direct access;
|
| (iii)llety dros dro;
| (iii)temporary accommodation;
|
| (iv)llety parhaol;
| (iv)permanent accommodation;
|
| (v)llety gwarchod i bobl hyn; a
| (v)sheltered accommodation for older people; and
|
| (vi)gwasanaethau larwm cymunedol.
| (vi)community alarm services.
|
SCHEDULE 3EDUCATION INDICATORS
| Rhif y Dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS8 | Canran presenoldeb disgyblion mewn: | Percentage of pupil attendance in: |
| (a)ysgolion cynradd; a
| (a)primary schools; and
|
| (b)ysgolion uwchradd.
| (b)secondary schools.
|
| NS9 | Canran: | The percentage of: |
| (i)yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a
| (i)all pupils (including those in local authority care); and
|
| (ii)y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol,
| (ii)pupils in local authority care,
|
| sydd mewn yn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol a oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol ac yn gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd. | in any local authority maintained school aged 15 at the preceding 31 August and leave compulsory education, training or work-based learning without an approved external qualification. |
| NS10 | Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. | The percentage of pupils, assessed at the end of Key Stage 2, in schools maintained by the local authority, achieving the Core Subject Indicator, as determined by Teacher Assessment. |
| NS11 | Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. | The percentage of pupils assessed at the end of Key Stage 3, in schools maintained by the local authority, achieving the Core Subject Indicator, as determined by Teacher Assessment. |
| NS12 | Cyfartaledd y sgôr pwyntiau ar gyfer disgyblion a oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol. | The average point score for pupils aged 15 at the preceding 31 August, in schools maintained by the local authority. |
| NS13 | Canran y disgyblion a aseswyd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athrawon yn y Gymraeg (iaith gyntaf): | The percentage of pupils assessed in schools maintained by the local authority, receiving a Teacher Assessment in Welsh (first language) |
| (i)ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a
| (i)at the end of Key Stage 2; and
|
| (ii)ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.
| (ii)at the end of Key Stage 3.
|
SCHEDULE 4WASTE MANAGEMENT INDICATORS
| Rhif y Dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS14 | Canran y gwastraff trefol: | The percentage of municipal waste: |
| (i)a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a
| (i)reused and/or recycled; and
|
| (ii)a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall.
| (ii)composted or treated biologically in another way.
|
| NS15 | Canran y gwastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi. | The percentage of bio-degradable municipal waste sent to landfill sites. |
SCHEDULE 5TRANSPORT/HIGHWAYS INDICATORS
| Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS16 | Canran: | The percentage of: |
| (a)prif ffyrdd (dosbarth A); a
| (a)principal (A) roads; and
|
| (b)ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd/ ffyrdd dosbarthedig
| (b)non-principal/classified roads
|
| sydd mewn cyflwr gwael yn gyffredinol. | in overall poor condition. |
SCHEDULE 6PUBLIC PROTECTION INDICATORS
| Rhif y dangosydd/ Indicator number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS17 | Canran y busnesau uchel eu risg sy'n agored i gael arolygiadau wedi'u rhaglennu o ran: | The percentage of high risk businesses liable to programmed inspections that were inspected as regards: |
| (i)Safonau Masnach;
| (i)Trading Standards;
|
| (ii)Hylendid Bwyd;
| (ii)Food Hygiene;
|
| (iii)Iechyd Anifeiliaid; a
| (iii)Animal Health; and
|
| (iv)Iechyd a Diogelwch.
| (iv)Health and Safety.
|
SCHEDULE 7ENERGY EFFICIENCY INDICATORS
| Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline Indicator |
|---|
| NS18 | (a)Canran y gostyngiad mewn allyriadau carbon diocsid yn y stoc adeiladau cyhoeddus annomestig;
| (a)Percentage reduction in carbon dioxide emissions in the non-domestic public building stock;
|
| (b)—
| (b)—
|
| (i)Canran y gostyngiad yn y defnydd o ynni yn y stoc dai; a
| (i)Percentage reduction in energy use in the housing stock; and
|
| (ii)Canran y gostyngiad mewn allyriadau carbon diocsid yn y stoc dai.
| (ii)Percentage reduction in carbon dioxide emissions in the housing stock.
|
SCHEDULE 8HOUSING BENEFIT AND COUNCIL TAX BENEFIT INDICATORS
| Rhif y dangosydd /Indicator Number | Prif ddangosydd | Headline indicator |
|---|
| NS19 | Yr amser a gymrwyd i brosesu hawliadau newydd a digwyddiadau o newid mewn Budd-daliadau Tai (BT) a Budd-daliadau'r Dreth Gyngor (BTG). | Time taken to process Housing Benefit (HB) and Council Tax Benefit (CTB) new claims and change events. |
| NS20 | Nifer y newidiadau mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar hawl cwsmeriaid i gael Budd-daliadau Tai (BT) neu Fudd-daliadau Treth Gyngor (BTG) yn ystod y flwyddyn. | The number of changes of circumstances which affect customers' entitlement to Housing Benefit (HB) or Council Tax Benefit (CTB) within the year. |
Back to top