Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
25 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Chwefror 2008
Yn dod i rym
21 Mawrth 2008
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 21 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Rhan 39 o Atodlen 2 (amddiffyn dofednod ac adar caeth eraill dros dro)—
(a)ym mharagraff A.2(c) yn lle “on or before the relevant date” rhodder “as soon as practicable on or after the relevant date”; a
(b)ym mharagraff A.3, yn y diffiniad o “relevant date” yn lle “2008” rhodder “2009”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 39 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â chodi adeiladau sy'n angenrheidiol at ddibenion cartrefu dofednod ac adar caeth eraill i'w hamddiffyn rhag y ffliw adar. Mae graddau a natur y datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i gyfyngiadau. Pan fo Rhan 39 yn gymwys i'r datblygu, nid oes angen unrhyw gais penodol am ganiatâd cynllunio. Mae caniatâd cynllunio yn cael ei roi gan Ran 39 yn ddarostyngedig i nifer o amodau, gan gynnwys amod fod y datblygiad yn cael ei symud ymaith erbyn 21 Mawrth 2008 fan bellaf.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 39 drwy ymestyn y dyddiad y mae'n rhaid symud y datblygiad ymaith ar ei gyfer i 21 Mawrth 2009. Mae hefyd yn diwygio Rhan 39 gan ei gwneud yn ofynnol bod y datblygiad yn cael ei symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad estynedig.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth y Ganolfan Gyhoeddiadau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1990 p.8, y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60 a 333(7), bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Cyn hynny fe'u trosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672): gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y'i newidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddo, (O.S. 2000/253). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru. Yn rhinwedd Adran 333(4) o Ddeddf 1990, mae'r pwerau a roddwyd gan Adrannau 59, 60 a 333 (7) o Ddeddf 1990 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
O.S. 1995/418; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/293, 2004/3156 (W.273), 2006/1282, 2006/1386 (Cy.136) and 2007/952 (Cy.83).