2008 Rhif 3266 (Cy.288)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop â'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd3.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2009.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008.2

Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 20084 yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)3

Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

c

Penderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro BSE flynyddol5;

Diwygio rheoliad 20 (gorfodi)4

Yn rheoliad 20 yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n gorfodi mewn lladd-dai a safleoedd torri:—

a

Atodlen 7; a

b

paragraff 1A, paragraff 2 a pharagraff 3

  • o Atodlen 8.

Diwygio Atodlen 25

Yn Atodlen 2—

a

yn lle paragraff 1 rhodder—

“Hysbysiad o gorff gafr at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned1

1

At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff gafr 18 mis oed neu drosodd pan fu farw yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth,—

a

o fewn 24 awr o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth y corff i'w feddiant neu dan ei reolaeth hysbysu Gweinidogion Cymru; a

b

os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo felly, ei gadw hyd nes ei fod yn cael ei gasglu gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

2

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddwyd i'w bwyta gan bobl neu a gafodd eu lladd yn unol ag Atodlen 4.

Danfon corff anifail buchol at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned1A

1

At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth, y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 24 awr, naill ai—

a

gwneud trefniadau gyda pherson arall i'r person hwnnw ei gasglu a'i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd o fewn 72 o oriau; neu

b

dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu a danfon yr anifail i'r safle hwnnw fel y bydd yn cyrraedd y safle o fewn 72 o oriau

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

2

Mae'r cyfnodau o 24 awr a 72 awr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yn cychwyn o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth i feddiant neu dan reolaeth y person y mae gofynion yr is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo.

Personau sy'n casglu ac yn danfon1B

Rhaid i berson y gwneir trefniadau gydag ef o dan baragraff 1A i ddanfon corff i safle samplu, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 48 o oriau i'r amser pan ddaw'r corff i feddiant neu dan reolaeth y person hwnnw—

a

dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu; a

b

sicrhau fod y corff yn cael ei ddanfon i'r safle hwnnw,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Difa heb samplu1C

Mae unrhyw berson sy'n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1A yn gymwys iddo cyn iddo gael ei samplu mewn safle samplu a gymeradwywyd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni tramgwydd.

Cadw cyrff anifeiliaid buchol tra'n disgwyl canlyniadau profion1CH

Mae'n rhaid i safle samplu a gymeradwywyd yr anfonwyd corff buchol iddo i'w samplu yn unol â'r Rhan hon gadw'r sampl yn unol â phwynt 6(3) o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd; a

b

ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

Safleoedd samplu a gymeradwywyd4A

1

Ar dderbyn cais mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid y mae paragraff 1A yn gymwys iddynt os ydynt wedi'u bodloni fod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol i wneud y samplu.

2

Ystyr “safle samplu a gymeradwywyd” (“approved sampling site”) yn y Rhan hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i wneud gwaith samplu at yr un diben.

Diwygio Atodlen 36

Yn Atodlen 3 paragraff 5, is-baragraff (3) yn lle “is-baragraff 2(b)(ii)” rhodder “is-baragraff 1(b)(ii)”.

Disodli Atodlen 87

Yn lle Atodlen 8 rhodder yr atodlen newydd a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 12 (penodi arolygwyr)8

Yn rheoliad 12 yn lle “Atodlen 7” rhodder “Atodlenni 7 ac 8”.

Elin JonesY Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENYr Atodlen 8 Newydd

Rheoliad 7

ATODLEN 8Cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio

Rheoliad 5

Gosod cynhyrchion buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd1.A

1

Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd unrhyw gynhyrchion sy'n cynnwys neu sydd wedi'u cyfansoddi o unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n tarddu o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

2

Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd indent pwynt 1(a) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned) a gafodd eu defnyddio i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC6;

3

At y diben o orfodi darpariaethau'r paragraff hwn caiff person a benodwyd yn arolygydd mewn perthynas â marchnad grwyn neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd arfer pwerau arolygydd.

Rhoi anifeiliaid buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd1B

1

Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

2

Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i osod anifeiliaid o'r fath ar y farchnad i'w gwerthu neu i'w cyflenwi i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig.

Allforio pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau2

Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg

penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.

Allforio cynhyrchion sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd3

Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.

Penodi arolygwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd4

Er dibynnion paragraffau 1A, 2 a 3 o'r Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw person a aphwyntwyd i'r dibyn hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.

Diwygir Rheoliad 2 (dehongli) i gynnwys cyfeiriad at Benderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro B.S.E. flynyddol (OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned” (rheoliad 3).

Diwygir Rheoliad 20 (gorfodi) er mwyn peri mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r asiantaeth orfodi ar gyfer tramgwyddau o osod cynhyrchion ar y farchnad (rheoliad 4).

Diwygir Atodlen 2 (monitro TSE) er mwyn gosod dyletswydd ar y rheini sydd â stoc buchol trig yn eu meddiant i ddanfon neu i drefnu i ddanfon carcasau i safle samplu a gymeradwywyd ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd. Mae'n ofynnol i'r rheini sy'n casglu ac yn danfon carcasau'r stoc trig sicrhau fod y carcasau hynny yn cael eu danfon i safle samplu a gymeradwywyd. Mae methu â chydymffurfio â'r darpariaethau hyn yn dramgwydd.

Caiff Atodlen 2 ei diwygio hefyd i greu tramgwyddau newydd o ddifa carcas y mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol iddo cyn ei fod wedi cael eu samplu ac o fethu â dal gafael ar garcasau cyn cael canlyniad negyddol i brawf ac i wneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo safleoedd samplu gan Weinidogion Cymru (rheoliad 5).

Gosodir Atodlen 8 newydd yn ei lle (cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i osod ar y farchnad anifeiliaid buchol byw a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 a'u hallforio hwy a chynhyrchion sy'n tarddu ohonynt (ac eithrio llaeth neu grwyn) i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd (rheoliad 8) (rheoliad 7).

Mae tramgwyddau'n gosbadwy yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau 2008—

a

ar gollfarn ddiannod, dirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchariad am dymor o dri mis neu'r ddau, neu

b

ar gollfarn ar dditiad, dirwy neu garchariad am dymor heb fod yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ac mae ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.