Search Legislation

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3266 (Cy.288)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

19 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

12 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop â'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd(3).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2009.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008.

2.  Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(4) yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.  Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(c)Penderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro BSE flynyddol(5);.

Diwygio rheoliad 20 (gorfodi)

4.  Yn rheoliad 20 yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n gorfodi mewn lladd-dai a safleoedd torri:—

(a)Atodlen 7; a

(b)paragraff 1A, paragraff 2 a pharagraff 3

  • o Atodlen 8..

Diwygio Atodlen 2

5.  Yn Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 1 rhodder—

“Hysbysiad o gorff gafr at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

1.—(1At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff gafr 18 mis oed neu drosodd pan fu farw yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth,—

(a)o fewn 24 awr o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth y corff i'w feddiant neu dan ei reolaeth hysbysu Gweinidogion Cymru; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo felly, ei gadw hyd nes ei fod yn cael ei gasglu gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddwyd i'w bwyta gan bobl neu a gafodd eu lladd yn unol ag Atodlen 4.

Danfon corff anifail buchol at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

1A.—(1At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth, y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 24 awr, naill ai—

(a)gwneud trefniadau gyda pherson arall i'r person hwnnw ei gasglu a'i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd o fewn 72 o oriau; neu

(b)dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu a danfon yr anifail i'r safle hwnnw fel y bydd yn cyrraedd y safle o fewn 72 o oriau

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Mae'r cyfnodau o 24 awr a 72 awr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yn cychwyn o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth i feddiant neu dan reolaeth y person y mae gofynion yr is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo.

Personau sy'n casglu ac yn danfon

1B.  Rhaid i berson y gwneir trefniadau gydag ef o dan baragraff 1A i ddanfon corff i safle samplu, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 48 o oriau i'r amser pan ddaw'r corff i feddiant neu dan reolaeth y person hwnnw—

(a)dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu; a

(b)sicrhau fod y corff yn cael ei ddanfon i'r safle hwnnw,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Difa heb samplu

1C.  Mae unrhyw berson sy'n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1A yn gymwys iddo cyn iddo gael ei samplu mewn safle samplu a gymeradwywyd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni tramgwydd.

Cadw cyrff anifeiliaid buchol tra'n disgwyl canlyniadau profion

1CH.  Mae'n rhaid i safle samplu a gymeradwywyd yr anfonwyd corff buchol iddo i'w samplu yn unol â'r Rhan hon gadw'r sampl yn unol â phwynt 6(3) o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd; a

(b)ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

Safleoedd samplu a gymeradwywyd

4A.(1) Ar dderbyn cais mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid y mae paragraff 1A yn gymwys iddynt os ydynt wedi'u bodloni fod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol i wneud y samplu.

(2) Ystyr “safle samplu a gymeradwywyd” (“approved sampling site”) yn y Rhan hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i wneud gwaith samplu at yr un diben..

Diwygio Atodlen 3

6.  Yn Atodlen 3 paragraff 5, is-baragraff (3) yn lle “is-baragraff 2(b)(ii)” rhodder “is-baragraff 1(b)(ii)”.

Disodli Atodlen 8

7.  Yn lle Atodlen 8 rhodder yr atodlen newydd a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 12 (penodi arolygwyr)

8.  Yn rheoliad 12 yn lle “Atodlen 7” rhodder “Atodlenni 7 ac 8”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Rhagfyr 2008

Rheoliad 7

YR ATODLENYr Atodlen 8 Newydd

Rheoliad 5

ATODLEN 8Cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio

Gosod cynhyrchion buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd

1.A.(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd unrhyw gynhyrchion sy'n cynnwys neu sydd wedi'u cyfansoddi o unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n tarddu o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd indent pwynt 1(a) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned) a gafodd eu defnyddio i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC(6);

(3) At y diben o orfodi darpariaethau'r paragraff hwn caiff person a benodwyd yn arolygydd mewn perthynas â marchnad grwyn neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd arfer pwerau arolygydd.

Rhoi anifeiliaid buchol ar y farchnad neu eu hallforio i drydydd gwledydd

1B.(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.

(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i osod anifeiliaid o'r fath ar y farchnad i'w gwerthu neu i'w cyflenwi i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig.

Allforio pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau

2.  Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg

penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.

Allforio cynhyrchion sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd

3.  Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.

Penodi arolygwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

4.  Er dibynnion paragraffau 1A, 2 a 3 o'r Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw person a aphwyntwyd i'r dibyn hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.

Diwygir Rheoliad 2 (dehongli) i gynnwys cyfeiriad at Benderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro B.S.E. flynyddol (OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned” (rheoliad 3).

Diwygir Rheoliad 20 (gorfodi) er mwyn peri mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r asiantaeth orfodi ar gyfer tramgwyddau o osod cynhyrchion ar y farchnad (rheoliad 4).

Diwygir Atodlen 2 (monitro TSE) er mwyn gosod dyletswydd ar y rheini sydd â stoc buchol trig yn eu meddiant i ddanfon neu i drefnu i ddanfon carcasau i safle samplu a gymeradwywyd ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd. Mae'n ofynnol i'r rheini sy'n casglu ac yn danfon carcasau'r stoc trig sicrhau fod y carcasau hynny yn cael eu danfon i safle samplu a gymeradwywyd. Mae methu â chydymffurfio â'r darpariaethau hyn yn dramgwydd.

Caiff Atodlen 2 ei diwygio hefyd i greu tramgwyddau newydd o ddifa carcas y mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol iddo cyn ei fod wedi cael eu samplu ac o fethu â dal gafael ar garcasau cyn cael canlyniad negyddol i brawf ac i wneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo safleoedd samplu gan Weinidogion Cymru (rheoliad 5).

Gosodir Atodlen 8 newydd yn ei lle (cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i osod ar y farchnad anifeiliaid buchol byw a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 a'u hallforio hwy a chynhyrchion sy'n tarddu ohonynt (ac eithrio llaeth neu grwyn) i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd (rheoliad 8) (rheoliad 7).

Mae tramgwyddau'n gosbadwy yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau 2008—

(a)ar gollfarn ddiannod, dirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchariad am dymor o dri mis neu'r ddau, neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, dirwy neu garchariad am dymor heb fod yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ac mae ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L 60, 5.3.2008, t.17).

(5)

OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24.

(6)

OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t.74.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources