ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Incwm yr aelwyd3

1

Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

2

Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

a

yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac—

i

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

ii

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

b

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

c

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

3

Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

a

am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

b

am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

4

Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.