ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Rheoliad 53

Diffiniadau1

1

Yn yr Atodlen hon—

a

ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

b

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

c

mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

ch

mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

d

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

dd

ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

e

ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

f

ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

ff

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

i

priod myfyriwr cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

g

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—

i

priod rhiant myfyriwr cymwys;

ii

partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

ng

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

h

ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

i

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

j

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy'n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

l

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol gynharach, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifiannu at ddibenion—

i

y Deddfau Treth Incwm;

ii

deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

iii

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5)

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

2

Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197392 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200493 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

Myfyriwr cymwys annibynnol2

1

Myfyriwr cymwys yw myfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

a

lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

b

lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

c

lle nad oes ganddo riant yn fyw;

ch

lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

d

lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

dd

pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 198994 a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

e

lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—

i

y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

ii

na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;

f

lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

ff

lle dechreuodd y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2009 ac yntau'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

g

lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

ng

lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

i

pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

ii

pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

iii

pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglyn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

iv

pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth95 neu ddyfarniad tebyg; neu

v

pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

2

Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd3

1

Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

2

Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

a

yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac—

i

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

ii

yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

b

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

c

yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

3

Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

a

am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

b

am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

4

Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys4

1

Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

a

unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

b

swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 198896 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 200497, neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

2

Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

3

Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

a

os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

b

fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol98 ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant5

1

Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

a

ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;

b

yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

c

o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.

2

Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol—

a

swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

c

yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

3

Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol gynharach, fe gaiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol.

4

Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol o dan is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol. .

5

Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol gynharach y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

6

Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

a

nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

b

nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

c

bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

7

Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

8

Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

a

os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

b

os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

i

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

ii

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

9

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

10

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni'n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

a

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

b

y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys6

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

3

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner heb wahanu.

4

Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant7

Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn8

1

Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—

a

mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £23,680; a

b

mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

2

Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—

a

mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £11,025; a

b

mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

3

Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992 mewn unrhyw achos.

4

Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

5

Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,992.

6

Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

b

os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd9

1

Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

a

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob swm cyflawn o £9.27 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

b

mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

2

Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

3

Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

4

Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

5

Mae'r is -baragraff hwn yn gymwys—

a

os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

b

os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt10

Pan fo'r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i'w gael, rhennir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.