RHAN 11CYMORTH I GYRSIAU DYSGU O BELL AMSER-LLAWN
Cymorth at gyrsiau dysgu o bell66
1
At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—
a
grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—
i
£955; a
ii
y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a
b
grant nad yw'n fwy na £1,075 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.
2
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9.
3
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—
a
os ydyw'n fyfyriwr anabl; a
b
os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell—
i
bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.
4
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.
5
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os ydyw wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfanswm o wyth mlynedd a'i fod wedi derbyn benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.
6
Y benthyciadau a'r grantiau yw—
a
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o'r Ddeddf ;
b
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199870; neu
c
benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 198071.
7
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'n ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
8
At ddibenion paragraff (7), nid yw gradd i'w chael ei thrin fel gradd gyntaf—
a
pan fo'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a roddwyd i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddulliau eraill o asesu angenrheidiol ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a
b
pan fo'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol yn dilyn derbyn ei radd er mwyn ennill gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu unrhyw ddull arall o asesu angenrheidiol.