xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
23.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—
(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â'r hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—
(a)blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;
(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos;
(c)cwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.
(4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(d)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o'r canlynol—
(i)Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf honno(1);
(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf honno(2);
(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3); neu
(iv)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4).
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
(a)bod y flwyddyn yn flwyddyn Erasmus; neu
(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd HCA hyblyg.
(9) Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.
(10) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn gyfan neu ran ohoni ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(11) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.
(13) Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl.
(14) Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael ar gyfer y grantiau canlynol—
(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;
(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;
(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;
(ch)grant addysg uwch.
(15) Mae paragraff (14) yn gymwys i'r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr anabl—
(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.
O.S. 1972/1265 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.