RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw23
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—
a
nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â'r hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
b
bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
3
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—
a
blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;
b
blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos;
c
cwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon sy'n para am lai nag un flwyddyn academaidd.
4
Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.
5
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
6
At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
a
gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
b
gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
c
gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
ch
ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
d
gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o'r canlynol—
i
Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf honno52;
ii
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf honno53;
iii
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197854; neu
iv
Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 197255.
7
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
8
Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—
a
bod y flwyddyn yn flwyddyn Erasmus; neu
b
bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd HCA hyblyg.
9
Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.
10
Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn gyfan neu ran ohoni ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
11
Y digwyddiadau yw—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
b
bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;
c
bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
ch
bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
d
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
dd
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
e
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
12
Yn ddarostyngedig i baragraff (13), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.
13
Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl.
14
Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael ar gyfer y grantiau canlynol—
a
grantiau ar gyfer dibynyddion;
b
grant at gostau byw myfyrwyr anabl;
c
grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;
ch
grant addysg uwch.
15
Mae paragraff (14) yn gymwys i'r canlynol—
a
myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
b
myfyriwr anabl—
i
nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
ii
sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.